Pibau’n ail-danio traddodiad cerddorol Glanyfferi

  • Cyhoeddwyd
Rick Lines

"Dwi wastad wedi caru'r pibau. Mae yna rywbeth am y sain..."

Mae Rick Lines wrth ei fodd gyda'r pibau uilleann - pibau traddodiadol o Iwerddon. Mae'n eu hoffi gymaint ei fod wedi trefnu gŵyl pibau uilleann yn Nglanyfferi; penwythnos lle câi pobl chwarae, dysgu a gwrando ar gerddoriaeth Gymreig a Wyddelig ar offerynnau traddodiadol.

Disgrifiad,

Rick Lines o Ganada yw un o drefnwyr yr ŵyl unigryw hon yn Sir Gâr

Pibau'r penelin

Yn wreiddiol o Ganada, mae Rick wedi byw yng Nghymru ers deng mlynedd, ac yn dysgu Cymraeg.

Mae wedi bod yn chwarae'r pibau uilleann ers 27 o flynyddoedd, ond beth yn union ydyn nhw?

"Mae'r gair 'uilleann' mewn Gwyddeleg yr un gair â 'penelin'," eglura Rick. "Felly, maen nhw'n elbow pipes; chi'n eu chwarae nhw gyda'r penelin.

"Maen nhw'n cael eu chwythu lan gan fegin (bellows) yn hytrach na'ch ysgyfaint fel mae pibau o'r Alban. Ac mae'r pibau uilleann wedi eu gwneud i'w chwarae y tu mewn, ddim i arwain byddin i'r frwydr; rydych chi'n eistedd i lawr i'w chwarae, ac yn draddodiadol, rydych chi'n cyfeilio i ddawnswyr.

Ffynhonnell y llun, Pibyddion Uilleann Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen pwmpio'r fegin ag un benelin, er mwyn llenwi'r bag, tra mae'r benelin arall yn gwasgu aer i'r alawbib; mae bysedd y chwaraewr yn gorchuddio a dadorchuddio tyllau'r alawbib er mwyn chwarae'r alaw. Mae'r rheolyddion yn darparu'r harmoni tra fod pibellau'r drôns yn chwarae'r sain hymian parhaus nodweddiadol o dan weddill y gerddoriaeth

"Dwi wastad wedi caru'r pibau. O'n i'n chwarae cerddoriaeth Wyddelig cyn dysgu'r pibau... a ddes i'n ddigon dewr i roi tro arni yn y diwedd.

"O'dd hyn yn y 90au, cyn y we, ond yn lwcus roedd 'na nifer o bibyddion yn Toronto lle o'n i'n byw, felly roedd hi'n hawdd cael gwersi a chael cyngor lle i brynu set o bibau.

"Mae yna rywbeth am y sain... dwi'n meddwl mai sŵn y drôn yw e. Mae pobl sy'n chwarae pibau - sut bynnag fath o bibau - yn cael eu denu i'r drôn a sain yr alawbib (chanter)."

Gŵyl Uilleann Glanyfferi

Mae Gŵyl Uilleann Glanyfferi yn cael ei chynnal 12-14 Mai, lle daw artistiaid a ffans o gerddoriaeth traddodiadol o Iwerddon a Chymru ynghyd, gyda chyfle i wrando ar, a hyd yn oed dysgu sut i ganu rhai o offerynnau cynhenid y ddwy wlad. Mae arbenigwyr yn dod o Gymru ac Iwerddon i berfformio a chynnal gwersi a gweithdai.

Yn ôl Rick, mae'r pentref ar lan yr afon Tywi yn ddelfrydol ar gyfer cynnal gŵyl o'r fath.

"Roedd gennyn ni ŵyl am ddeng mlynedd ym Mhontypridd," eglura Rick, "ond dyma'r tro cyntaf i ni gael gŵyl ers 2019, a'r tro cyntaf yng Nglanyfferi. Mae pobl yn dod o bell ac agos, ac yn dod gyda'u teuluoedd hefyd gan fod yna gymaint o bethau i'r plant ei wneud yn yr ardal. Ac mae'n agos at y fferi o Iwerddon, wrth gwrs.

Ffynhonnell y llun, Pibyddion Uillean Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwersi, gweithdai a chyngerdd mawreddog yn cael eu cynnal yn ystod yr ŵyl, ynghyd â chyfle am sesiynau mwy anffurfiol rhwng yr holl offerynwyr

"Mae'r ŵyl yn cymryd y pentref drosodd! Mae'r gwersi pibau yn y clwb hwylio, gweithdai yn y ganolfan gymuned a'r cyngerdd mawreddog yn yr eglwys."

Glanyfferi gerddorol

Er mai Rick yw'r unig bibydd sydd yn byw yng Nglanyfferi (ar hyn o bryd, pwysleisiodd!), mae'r pentref yn llawn cerddorion o bob math, meddai.

"Mae'n lle cerddorol iawn. Mae yna lwyth o gerddoriaeth, a dim jest cerddoriaeth draddodiadol - mae 'na lot o ganu a phobl yn dod ynghyd i berfformio mewn grwpiau."

Un o'r cerddorion hynny ydi Becky Davies, sy'n perfformio'n flynyddol fel Bardd y Pentref, ac yn canu gyda Rick mewn sesiynau o amgylch y pentref; mae hi'n dweud bod cryn edrych ymlaen at yr ŵyl:

"Mae'n rhodd i'r pentref dwi'n meddwl - fel mae Rick - mae lot o gerddorion 'ma sydd jest mo'yn gwybod am gerddoriaeth draddodiadol. Cerddorion pop neu clasurol ydyn nhw, ac maen nhw'n ei ffeindio'n ddiddorol iawn iawn, i weld Rick yn gwneud ei thing. Mae'n lyfli. Mae pobl yn dod at ei gilydd."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru / Uilleann Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Adroddiad am Eisteddfod gyntaf Glanyfferi yn 1873 o'r Western Mail, ac adroddiad am yr Eisteddfod a ddenodd fwy na 3,000 yn 1904, o The Cardiff Times

Drwy gyd-ddigwyddiad, mae'r ŵyl yn cael ei chynnal 150 o flynyddoedd ers i'r ŵyl gerddoriaeth a diwylliant gyntaf gael ei chynnal yn y pentref, sef Eisteddfod Glanyfferi, a hynny ar 14 Ebrill 1873.

Er i'r eisteddfod gyntaf honno fod yn un eithaf bach, erbyn 1904 roedd wedi tyfu a daeth 3,000 o eisteddfotwyr i'r pentref bach ar lannau'r Tywi i fwynhau'r cystadlu.

Mae'r traddodiad o ganu a cherddoriaeth yn amlwg dal yn fyw iawn yn yr ardal.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig