Galw am sefydlu cwrs gradd mewn cerddoriaeth werin Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae galw ar golegau a phrifysgolion Cymru i sefydlu cwrs gradd mewn cerddoriaeth draddodiadol Gymreig.
Wrth gyflwyno gwobr arbennig yn noson Gwobrau Gwerin Cymru, dywedodd y cerddor Angharad Jenkins, ei bod yn "hen bryd" cynnig cwrs o'r fath.
Roedd Angharad, sy'n wyneb cyfarwydd yn y maes canu gwerin, yn cyflwyno Gwobr Cyfraniad Oes i Phyllis Kinney.
Mae Phyllis Kinney, sy'n 100 oed, yn cael ei chydnabod fel awdurdod ar ein canu gwerin.
'Cyfraniad gwerthfawr'
"Weithiau mae'n cymryd llygaid a chlustiau ffres i werthfawrogi yr hyn sydd gyda ni," meddai Angharad, sydd fwyaf adnabyddus fel aelod o'r grŵp Calan.
"Heb ei chyfraniad gwerthfawr hi mae'n deg i ddweud y bydde bywyd diwylliannol Cymru yn llawer tlotach heddiw.
"Daeth Phyllis atom ni o America; fe welodd hi rywbeth yn ein cerddoriaeth na welodd unrhyw un arall yma o'r blaen, ac oherwydd ei chefndir a'i haddysg gerddorol roedd ganddi'r gallu a'r eirfa i ddadansoddi'n cerddoriaeth mewn ffordd ysgolheigaidd."
Cyfeiriodd at "waith oes" Phyllis Kinney, sef y llyfr Welsh Traditional Music, astudiaeth fanwl o'r traddodiad, ac at archif Meredydd Evans a hithau, sydd bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
"Merêd, ei gŵr, oedd ei hallwedd i'r traddodiad, a thrwyddo fe fe agorwyd diwylliant newydd iddi hi.
'Deall ein hunaniaeth'
"Fe welodd y cyfle i ddadansoddi ein cerddoriaeth a'i throi mewn i rhywbeth arall, rhywbeth y gellid ei hastudio, a thrwy astudio nid yn unig y gallwn ddeall y gerddoriaeth yn well, ond gallwn deall ein hunaniaeth a'n diwylliant fel cenedl yn well.
"Roedd ei chyfraniad yn amhrisiadwy... a'n tasg ni nawr yw adeiladu a pharhau ar ei gwaith.
"Darllenwch y llyfr, ewch i ymweld â'r archif, ac os oes unrhyw un yma o un o brifysgolion neu colegau Cymru, plis, plis, er mwyn dyn, mae'n hen bryd i ni gael cwrs gradd mewn cerddoriaeth traddodiadol Cymru."
Cafodd y noson ei chynnal yn Neuadd Hoddinott, Caerdydd, ac ymhlith yr enillwyr eraill roedd:
Cân Gymraeg Wreiddiol Orau: Yma o Hyd - Dafydd Iwan, Ar Log a'r Wal Goch
Albwm Gorau: Islais a Genir - Vrï
Grŵp Gorau: Bwncath
Artist Unigol Gorau: Dafydd Iwan
Perfformiwr Byw Gorau: Calan
Artist / Band sy'n Dechrau Dod i Amlygrwydd: Cerys Hafana
Y Gân Draddodiadol Gymraeg Orau: Tŷ Bach Twt - Mari Mathias
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd18 Mai 2018
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2015