Morgannwg yn rhoi cweir i Sir Gaerwrangon

  • Cyhoeddwyd
Timm van der GugtenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mi wnaeth Timm van der Gugten serennu i'r tîm cartref ar yr ail ddiwrnod

Mae Morgannwg wedi sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor ym Mhencampwriaeth y Siroedd, gan roi cweir i Sir Gaerwrangon o fewn tridiau.

Fe benderfynodd Morgannwg mai Sir Gaerwrangon fyddai'n batio gyntaf, ac roedd hynny'n benderfyniad doeth wrth iddyn nhw gael eu cyfyngu i 109 o rediadau yn unig.

Yn eu hymateb nhw fe lwyddodd y Cymry i sgorio 258, gyda Michael Neser yn serennu gydag 86 o rediadau.

Roedd hynny'n golygu fod Morgannwg mewn safle cryf ar ddiwedd y batiad cyntaf, bron i 150 o rediadau ar y blaen.

Erbyn diwedd y trydydd diwrnod roedd Sir Gaerwrangon wedi cyrraedd 195-7 yn eu hail fatiad - 46 rhediad ar y blaen i Forgannwg.

Yn y pen draw roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i Forgannwg wrth iddynt faeddu Sir Gaerwrangon o ddeg wiced.

Dyma'r gêm gyntaf i Forgannwg ei ennill wedi iddynt gael gemau cyfartal yn eu pedair gêm gyntaf o'r bencampwriaeth eleni.

Pynciau cysylltiedig