Bachgen 'yn crynu ac wedi dychryn' ym mharc antur Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
JamesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Underhill fod y digwyddiad wedi effeithio'n seicolegol ar y teulu cyfan

Mae mam yn honni bod ei mab wedi mynd ar chwyrligwgan yn Y Rhyl gyda'r bar diogelwch ddim yn ei le.

Dywedodd Emma Underhill ei bod methu cysgu ar ôl gwylio ei mab James, 7, ar y chwyrligwgan (rollercoaster) yn Rhyl Family Fun Fair.

Dywedodd Ms Underhill, 27, o Faes-glas, Sir y Fflint, ei bod wedi'i harswydo pan sylweddolodd nad oedd bar diogelwch James mewn lle.

Roedd y teulu wedi ymweld â'r parc o'r blaen ond dyma oedd y tro cyntaf iddi ganiatáu i James fynd ar chwyrligwgan.

Dywedodd y parc antur eu bod yn ymdrin â'r gŵyn a bod ymchwiliad i'r digwyddiad yn cael ei gynnal.

'Lwcus nad oedd anafiadau'

Roedd Ms Underhill a'i theulu yn y parc antur ddydd Sadwrn er mwyn dathlu pen-blwydd ei phartner.

Dywedodd Ms Underhill: "Roedd James eisiau mynd ar chwyrligwgan Nessi ar ei ben ei hun. Roedd o'n gyffrous iawn, yn meddwl ei fod yn ddewr.

"Roedden ni'n gwylio pan wnaeth o sgrechian, 'Dydw i heb gael fy strapio mewn'. Roeddwn i a fy mhartner yn sgrechian ar weithredwr y reid, yn dweud nad oedd James â gwregys ac atebodd e, 'ydy, mae o'.

"Mae'r reid yn mynd o amgylch ddwywaith, ond wnaeth y gweithredwr ddim ei stopio tan ar ôl y lap cyntaf, a dyna pryd sylweddolodd nad oedd bar diogelwch James mewn lle.

"Roedd James wedi bod yn gafael arno'r holl ffordd rownd heb unrhyw far diogelwch," dywedodd Ms Underhill.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emma Underhill yn dweud na chafodd y bar diogelwch ei roi mewn lle pan aeth ei mab ar chwyrligwgan yn Y Rhyl

Ychwanegodd Ms Underhill: "Mae arwyddion ar y chwyrligwgan yn dweud y bydd y bar diogelwch yn cael ei roi mewn lle ar unwaith, ond ni wnaeth unrhyw un wirio. Nid chwyrligwgan araf ydy o - mae ganddo rywfaint o gyflymder.

"Mae o'n lwcus nad oedd anafiadau corfforol, ond yn seicolegol mae ein pryder wedi mynd trwy'r to.

"Roedd y perchennog yno y diwrnod hynny, a'i eiriau ef oedd, 'Dydy hyn ddim wedi digwydd o'r blaen', a dywedais i fod dim ots am hynny, roedd wedi digwydd nawr.

"Roedd yn rhaid i mi alw Heddlu Gogledd Cymru i wneud yn siŵr fod y digwyddiad yn cael ei gofnodi'n iawn," dywedodd.

'Crynu ac wedi dychryn'

Dywedodd llefarydd ar ran Rhyl Family Fun Fair: "Cafodd cwyn ei ddwyn i'n sylw ddydd Sadwrn, 13 Mai, 2023. Er na fu unrhyw anafiadau, rydym wedi dechrau ymchwiliad mewnol i'r digwyddiad.

"O ganlyniad i'r ymchwiliad, ni allwn wneud unrhyw sylwadau pellach. Mae gan y busnes, a gafodd ei sefydlu dros 30 mlynedd yn ôl, fesurau iechyd a diogelwch mewn lle gan gynnwys gwiriadau diogelwch sy'n dilyn y canllawiau angenrheidiol."

Dywedodd Ms Underhill fod y teulu yn disgwyl clywed nôl wrth eu meddyg am sut i ymdrin â lefelau pryder James.

"Roedd James yn crynu ac wedi'i ddychryn," dywedodd.

"Dywedodd wrtha i, 'Mam, ro'n i'n meddwl fy mod i'n mynd i syrthio a marw'."

Ychwanegodd Ms Underhill: "Dwi'n methu cysgu. Dwi'n cynhyrfu wrth feddwl am y peth. Dwi'n dal i weld ei wyneb ar y reid nawr... fel rhiant sydd o hyd wedi cadw fy mhlant yn ddiogel, roedd yn ddychrynllyd."

Mae Ms Underhill yn honni na chafodd "unrhyw ymddiheuriad gan weithredwr y reid na'r perchennog" a bod y digwyddiad wedi'i gadael "yn grac ac yn ofidus".

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Cawsom ein galw toc wedi 13:00 ddydd Sadwrn, 13 Mai yn sgil anghydfod yn ardal y Children's Village yn Y Rhyl. Mi wnaeth swyddogion fynychu'r ardal er mwyn siarad â'r rhai oedd yn gysylltiedig, yn ogystal ag aelodau o staff ar y maes.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cadarnhau eu bod nhw hefyd wedi cael gwybod am y mater.

Pynciau cysylltiedig