Pum munud gyda Debra Drake o The Great British Sewing Bee
- Cyhoeddwyd
Mae Debra Drake yn wyneb cyfarwydd i ffans y gyfres The Great British Sewing Bee, wedi iddi gyrraedd rownd derfynol y gyfres boblogaidd nôl yn 2022.
Wythnos ar ôl wythnos, roedd Debra - sy'n wreiddiol o Benmachno ond sydd bellach yn byw yn Llanfairfechan - yn plesio'r beirniaid a'r gynulleidfa gyda'i dyluniadau dyfeisgar a'i chrefftwaith cywrain.
Ar drothwy cyfres newydd, cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda hi am ei chariad tuag at wnïo, ei phrofiad ar y rhaglen a sut mae ei bywyd wedi newid.
Ers pryd ti wedi bod yn gwnïo ac o lle ddaeth y diddordeb?
'Nes i ddechrau gwnïo pan roeddwn yn 10 oed. Roedd 'na glwb gwnïo yn yr ysgol a 'nes i ddisgyn mewn cariad gyda chreu dillad, gynta i fy Sindy Doll, wedyn i fi.
Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn dillad a ffasiwn yn ifanc, ond ddim gyda'r pres i brynu'r dillad roeddwn yn hoffi, so mi wnes i weithio allan sut i gopïo dillad o'r magazines fy hun.
Pam wnes di ymgeisio i fynd ar The Great British Sewing Bee?
Es i ar y Sewing Bee i weld os oedd gen i 'rywbeth' - a does 'na ddim beirniaid gwell na Esme Young (tiwtor o'r coleg celf Central Saint Martins) a Patrick Grant (dylunydd dillad sy'n gweithio ar Savile Row). Doeddwn byth yn teimlo mewn cystadleuaeth gyda'r cystadleuwyr eraill, dim ond efo fy hun.
Roeddwn yn gobeithio cyrraedd hanner ffordd - ond roeddwn yn lwcus i gyrraedd y pen! Dwi'n ddiolchgar iawn am yr holl negeseuon dwi wedi eu derbyn dros y flwyddyn ddiwetha' gan bobl dros Gymru.
Sut beth oedd yr holl brofiad o ffilmio'r gyfres, o orfod treulio amser i ffwrdd o adref, i gadw'r gyfrinach am fisoedd tan i'r rhaglen gael ei darlledu?
Roedd y profiad yn hwyl, heblaw am fod i ffwrdd o fy nheulu mor hir - mae gen i fachgen yn ei arddegau, Albie, a gŵr, Andrew. Roedd y ddau yn prowd iawn fy mod ar y sioe, er dwi yn meddwl fod y ddau yn hapus i gael bwyta lot o gig am y dau fis roeddwn i ffwrdd (dwi'n vegetarian, a mae nhw yn bwyta lot o lysiau fel arfer!).
Roedd cadw'r gyfrinach am fisoedd yn galed hefyd. Dwi ddim yn dda yn cofio celwydd ac roeddwn yn dweud straeon gwahanol wrth bawb!
Yn y gyfres, mae'r cystadleuwyr yn gorfod gwnïo o dan amodau gwahanol iawn i adref, gyda therfyn amser pendant a phob pwyth yn cael ei ffilmio gan gamerâu. Sut beth oedd gweithio o dan yr holl straen?
Roedd 'na lot o baratoi cyn i ni fynd i ffilmio, ond 'nes i fwynhau y darn yma. Ond roedd 'na LOT o stress ar y sioe; lot o bethau'n digwydd o'n cwmpas ni, ac roedd yn bwysig i drio canolbwyntio ar swydd y pryd. Dwi mor falch fydda i byth agen gwnïo o dan pressure fel'na eto!
Mi wnes i orfod cofio fy mod gyda microffôn hefyd; pan oedd pethau'n mynd yn ddrwg, roedd y cameras o gwmpas i ddal y ddrama i'r gynulleidfa gartref.
Felly roedd yn handi iawn cael fy ffrind, Lisa, gyda fi yn y ffeinal oherwydd doedd gan y criw gyda ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen oherwydd ein bod yn siarad Cymraeg! Super-power go iawn!
Beth yw dy hoff ddilledyn wnes di ar y Sewing Bee a pham?
Mae gen i ddau. Y gyntaf ydi'r wisg Miss Havisham i'r sialens gwisg noson Calan Gaeaf i blant. Roeddwn yn stryglo meddwl am rywbeth i blant oherwydd doeddwn erioed wedi gwneud dim byd fel yna o'r blaen.
Ond es i'n ôl i fy mhlentyndod yn Mhenmachno pan roeddwn yn gwylio hen ffilmiau du a gwyn ar b'nawn dydd Sadwrn. Roedd y ffilm Great Expectations yn un o'n ffefrynnau fi; gweld Miss Havisham mewn hen ffrog grand wedi rhwygo a hwn yn codi ofn arna i.
Hefyd, y ffrog origami - wnaeth hon ddim ennill Garment of the Week ond roedd hi y runner-up. Roeddwn i mor hapus gweld y gwyn pur oedd yn cynrychioli Mount Fuji a'r origami yn binc a glas dros y sgert ar fy model. Roedd fatha breuddwyd!
Beth wyt ti wedi bod yn ei wneud ers hynny?
Ers gadael y sioe, dwi wedi agor fy ysgol wnïo fy hun yn Llandudno. Dwi with fy modd dysgu pobl eraill sut i wnïo. Mae gen i ddosbarthiau i dysgwyr ac i bobl sydd gyda mwy o brofiad. Mae 'na gymuned ffantastig yn y stiwdio a dwi wrth fy modd sut mae petha' wedi mynd.
Oes gen ti unrhyw gyngor i gystadleuwyr eleni?
Y cyngor buaswn yn rhoi i'r criw newydd yw: Mwynhewch pob munud - mae'n ffantastig i fod yn ran o sioe fel The Great British Sewing Bee.
A hefyd i beidio darllen gormod ar social media - mae fatha'r Wild West!
Mae cyfres newydd The great British Sewing Bee yn dechrau am 21:00 nos Fercher 24 Mai ar BBC One.
Hefyd o ddiddordeb: