Colli 250 o swyddi wrth gau ffatri fwyd yn Abertyleri

  • Cyhoeddwyd
FfatriFfynhonnell y llun, Google

Mae tua 250 o swyddi yn y fantol wrth i ffatri fwyd gau ym Mlaenau Gwent.

Fe wnaeth gweinyddwr gadarnhau y bydd ffatri Tillery Valley Foods yn Abertyleri'n cau, gan fod chwyddiant uchel wedi cael effaith negyddol ar eu sefyllfa ariannol.

Mae'r cwmni'n cynhyrchu a dosbarthu bwyd i'r sector iechyd, addysg ac awdurdodau lleol.

Yn ôl y gweinyddwyr, Interpath Advisory, bydd 24 o swyddi'n cael eu cadw er mwyn helpu gyda'r broses o ddod â'r busnes i ben.

'Dim datrysiad'

Wrth i'r perchennog ddweud fod ei "galon yn torri" dywedodd: "Rwy'n hynod flin, er gwaethaf holl ymdrechion pawb fu'n ymwneud a'r sefyllfa, dy'n ni ddim wedi gallu achub y busnes."

Fe ddywedodd Stephen Bolton o Joubere Ltd fod costau ynni a chwyddiant wedi rhoi "pwysau enfawr" ar y busnes.

Mewn datganiad, dywedodd Interparth Advisory fod "chwyddiant sylweddol" wedi eu taro oherwydd cynnydd mewn prisiau bwyd ac ynni a bod hynny, yn ei dro, wedi cael "effaith andwyol ar lif arian".

"O ganlyniad, mae'r cyfarwyddwyr wedi bod yn gweithio gyda'u hymgynghorwyr a rhanddeiliaid allweddol i ddod o hyd i ateb, gan gynnwys marchnata'r busnes i'w werthu a chytuno ar brisiau uwch gyda chwsmeriaid," meddai.

"Ond yn anffodus, ni chafwyd datrysiad."

Dywedodd Tim Bateson, cyfarwyddwr Interpath Advisory ei bod yn "ddiwrnod eithriadol o drist" i weithwyr y cwmni.

"Ein blaenoriaeth gyntaf fydd darparu cefnogaeth i bawb sydd wedi cael eu diswyddo, gan gynnwys eu cefnogi gyda'r wybodaeth... ac rydym hefyd yn anelu at gynnal gweithdai ar y cyd ag asiantaethau cyflogaeth a chyflogwyr lleol."

Disgrifiad o’r llun,

Arwyddion y tu allan i'r ffatri brynhawn Mercher wedi i'r newyddion dorri

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn "ergyd enfawr" i'r gweithlu ac y byddan nhw'n sefydlu tasglu "ar frys".

"Rydym wedi gweithio'n ddwys gyda'r tîm rheoli lleol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent drwy gydol yr wythnos ddiwethaf i archwilio opsiynau ar gyfer pryniant gan reolwyr," meddai llefarydd.

"Rydym yn parhau i ystyried sut y gellid datblygu hyn ymhellach, er gwaethaf y newyddion heddiw [ddydd Mercher], er mwyn sicrhau busnes llwyddiannus yn y tymor hir."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Blaenau Gwent y byddan nhw'n rhoi cyngor a chefnogaeth i weithwyr.

"Mae hyn yn newyddion siomedig iawn i'r busnes ac yn ergyd sylweddol i'n cymunedau gyda'r swyddi, o bosib, yn cael eu colli," dywedodd llefarydd.

"Ond rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid neu sefydliadau allanol i gefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio."

Pynciau cysylltiedig