Pryd welwn ni fwy o wyau ar silffoedd y siopau?
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwr wyau yn rhybuddio y gallai siopwyr weld prinder wyau ar silffoedd archfarchnadoedd am hyd at flwyddyn arall.
Dros y misoedd diwetha' mae archfarchnadoedd wedi bod â silffoedd gwag ar brydiau wrth i'r DU gyfan wynebu prinder wyau achlysurol.
Mae rhai siopau wedi bod yn cyfyngu ar faint all cwsmeriaid brynu, tra bod ffermwyr yn cael trafferth cynhyrchu digon o wyau.
Mae gan Llyr Jones 32,000 o ieir ar ei fferm ger Llanfihangel Glyn Myfyr yng Nghonwy.
Er fod y fferm, Derwydd, yn dal i lwyddo i gynhyrchu dros 30,000 o wyau ar gyfer archfarchnad Tesco, mae'r cyfnod diweddar wedi bod yn heriol.
"Roedd llynedd yn flwyddyn anodd iawn," meddai.
"O'dd pris bwyd wedi mynd fyny o £30,000 y mis i £50,000 y mis. O'dd y bil trydan yn codi hefyd.
"Pan aethon ni at yr archfarchnadoedd i ofyn am fwy o bres yn anffodus roeddan nhw'n gyndyn o roi 'chwaneg o arian i ni."
Pwyntio bys
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth y DU, roedd cynhyrchiant wyau wedi gostwng 2.9% rhwng Ionawr a Mawrth eleni - i 121 miliwn o ddwsinau o wyau.
Mae hynny chwarter yn llai na'r un cyfnod yn 2022 (24.6%), a dyma'r swm lleiaf i gael ei gynhyrchu ers i gofnodion ddechrau, yn ôl Defra.
Yn y gorffennol mae Consortiwm Manwerthu Prydain wedi cyfeirio at nifer o resymau posib am y prinder, gan gynnwys ffliw adar, problemau cyflenwi a chostau cynhyrchu uwch.
Mae rhai ffermwyr hefyd wedi pwyntio'r bys at siopau am beidio â thalu pris teg am wyau wrth i'r costau cynhyrchu gynyddu.
Mae Llyr Jones yn credu bod yna nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y sefyllfa.
"Mae'r rhyfel yn Wcráin efo'r ŷd - 'da ni'n bwydo'r ieir efo hynny ac roedd o'n codi, trydan yn codi, a mae 'na lot o ffermydd sydd efo colony lle maen nhw mewn cell yn cynhyrchu wyau.
"Mae'r rheiny'n mynd allan oherwydd erbyn 2025 fyddan ni gyd yn cynhyrchu wyau free range.
"Mae pobl yn bwyta mwy o wyau rŵan na be' oeddan nhw flynyddoedd yn ôl - mae'n mynd fyny rhyw 3% bob blwyddyn y nifer o wyau 'da ni angen. Felly lot o bethau bach sy'n rhoi pwysau ar y farchnad."
Er bod pethau wedi gwella i'r busnes eleni, dydy Mr Jones ddim yn gweld y sefyllfa yn dychwelyd i normalrwydd am beth amser eto - ond mae yn gweld hynny'n digwydd maes o law.
"Mae'n cymryd amser i'r ieir gael eu magu, wedyn maen nhw'n gorfod dod ar y ffarm a mae'n cymryd 'chydig o fisoedd i gael yr wyau'n dod allan.
"Felly 'swn i'n d'eud o gwmpas tua blwyddyn nes bydd y farchnad yn ôl i lle'r oedd o fod."
'System wedi dymchwel'
Mae Geraint Hughes, sy'n ymgynghorydd bwyd amaeth, yn credu bod angen edrych ar y system gyflenwi yn ei chyfanrwydd er mwyn diogelu'r diwydiant yn yr hirdymor.
"Dwi'n meddwl bod 'na drafodaeth sy'n mynd ymlaen rhwng y ffermwyr a'r archfarchnadoedd, a rŵan y llywodraeth yn dod yn rhan o'r drafodaeth achos maen nhw wedi ymrwymo i haneru chwyddiant.
"Mae wyau'n codi ar raddfa o thua 30% felly mae hwnnw'n rhan fawr yn wleidyddol bellach.
"Dwi'n cofio'r dyddiau lle oedd rhywun yn gweld aml i ffarm yn yr ardal yn gwerthu wyau, un ai yn y giât neu fod modd fynd ar fuarth y ffarm, neu o'dd y ffarm yn gwerthu i'r siop leol.
"Wel mae'r system yna i bob pwrpas wedi dymchwel a 'da ni'n hynod ddibynnol ar nifer fach o gwmnïau.
"Dwi'n meddwl bod trafod a chael dealltwriaeth well ar hyd y gadwn gyflenwi, hwnna ydy'r ateb yn y byr dymor.
"Ond yn yr hirdymor mae 'na gwestiynau enfawr i ni fel cwsmeriaid a phobl - be' ydan ni eisiau fel cadwyn gyflenwi?
"Ydan ni'n hapus mewnforio porthiant i gynhyrchu wyau a chig? Fyddwn i'n tybio bod ni angen edrych ar ddatblygu cadwyni cyflenwi mwy cynaliadwy a lleol, mai hwnnw ydy'r ateb tymor hir."
Sicrwydd cyflenwadau
Dywedodd Ymgynghorydd Polisi NFU Cymru, Dafydd Jarrett fod "cynhyrchiant wyau, fel unrhyw system gynhyrchu bwyd ddim yn fater syml o gynnau a diffodd y switsh".
"Mae unrhyw darfu ar gynhyrchwyr cynradd yn y gadwyn cyflenwi bwyd, fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar, yn cymryd amser i ailgywiro," meddai.
"Mae hwn yn ddiwydiant sy'n drwm ar wariant, ac angen buddsoddiad o flaen llaw.
"Mae cynhyrchwyr angen arwyddion clir gan gyfanwerthwyr ac adwerthwyr eu bod angen y cynnyrch, bwyd maethlon y mae cwsmeriaid yn amlwg eisiau."
Ddydd Mawrth bu Prif Weinidog y DU Rishi Sunak yn cwrdd a chynhyrchwyr bwyd, cynrychiolwyr y diwydiant ffermio a phenaethiaid archfarchnadoedd i drafod prisiau uchel bwyd, a sut i gael sicrwydd o ran cyflenwadau, gyn gynnwys wyau.
Dywedodd Ysgrifennydd Amgylchedd San Steffan, Therese Coffey, eu bod wedi cytuno ar nifer o fesurau i geisio gwella'r sefyllfa, gan gynnwys adolygu cyflenwadau cyflenwi wyau a cheisio "sicrhau bod ffermwyr yn cael pris teg am eu cynnyrch".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2022