Hufen iâ: Ydy eich hoff flas chi ar fin diflannu?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Prisiau hufen iâ: Fyddech chi'n fodlon talu mwy?

Mae pryder y bydd llai o flasau hufen iâ ar gael eleni o ganlyniad i gynnydd yng nghostau cynhwysion a chynhyrchu.

Yn ôl y rheiny sy'n creu hufen iâ, maent eisoes wedi dechrau cwtogi ar yr amrywiaeth maen nhw'n ei gynnig.

Daw ar ôl i brisiau'r cynhwysion a chost trydan i greu hufen iâ gynyddu yn sgil yr argyfwng costau byw.

Gyda'r elfen greadigol yn cael llai o sylw felly, mae peryg mai'r blasau "traddodiadol" yn unig fydd ar gael i gwsmeriaid.

Disgrifiad o’r llun,

"Weden i mai nawr yw'r amser gwaetha' erioed o ran gwerthu hufen iâ a falle creu hufen iâ," medd Tom Lewis

Wedi ffynnu yng Nghymru ers y 1930au, mae teulu Conti's wedi bod yn adnabyddus am eu hufen iâ yn y gorllewin ers degawdau.

Hyd heddiw, mae'r rysáit yn gyfrinachol, a Tom Lewis, aelod o'r teulu, yn gyfrifol bellach am greu'r cynnyrch.

"Pan chi'n siarad am yr amgylchedd o wneud hufen iâ nawr, weden i fod e'n galetach nawr nag oedd e." meddai, wrth gymharu'r cyfnod â chenhedlaeth ei dad-cu.

"O ran prisiau yn mynd lan, o ran cael staff, o ran cwsmeriaid gydag arian i wario. Weden i mai nawr yw'r amser gwaetha' erioed o ran gwerthu hufen iâ a falle creu hufen iâ."

Cost cynhwysion ar gynnydd

Er iddo geisio gwneud newidiadau er mwyn arbed arian, mae'r cynhyrchu'n profi'n her.

"Fi wedi symud o beth ddylai fod yn gynnyrch drud, sef llaeth organig, i laeth lleol," meddai.

"Ond i gymharu â'r ddwy flynedd ddiwetha', mae hwnna dal yn meddwl bod llaeth fi lan 50%. Mae hwnna'n anhygoel o jwmp."

Gyda phris siwgr, blasau, ynghyd â thrydan wedi cynyddu, mae'n dweud iddo orfod cwtogi'r nifer o flasau mae'n ei gynnig.

Disgrifiad o’r llun,

Tom wrth ei waith yn siop Conti's

"Sai'n mynd i gadw stoc fawr o pistasio neu fanila, achos mae'r rheina'n gynhwysion drud," meddai.

"Roedd un blas gyda honeycomb ynddo fe a 'naeth honeycomb ddyblu mewn cost yn y flwyddyn ddiwethaf, so sai'n cynnig hwnna blwyddyn 'ma.

"So chi moyn gwneud batch enfawr o fel rum and raisin a dim ond gwerthu dau, achos bydd rhaid twli nhw."

Cwtogi ar flasau

Yn adnabyddus am gynhyrchu hufen iâ o safon mewn amrywiaeth eang o flasau, mae un cwmni o Fodorgan hefyd yn profi'r un heriau.

Yn ôl Helen Holland o Môn ar Lwy, maen nhw wedi gorfod torri yn ôl ar "lot fawr o bethau" yn ddiweddar.

"Mae gynnon ni 150 o flasau wedi eu creu yn y gorffennol," meddai.

"Wrth gwrs, 'dan ni ddim yn cadw'r rheiny ar yr un pryd - rhyw 30 'dan ni'n eu cadw, ond 'dan ni rŵan yn dod lawr i 20 blas y tymor, felly 'dan ni'n cwtogi be 'dan ni'n gynnig i'r cwsmer."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Helen Holland o Môn ar Lwy, maen nhw wedi gorfod torri yn ôl ar "lot fawr o bethau" yn ddiweddar

Yn ôl Tom Lewis o siop Conti's, mae'n derbyn nad y cwsmer ddylai dalu'r pris.

"Chi ffaelu pasio'r costau i gyd 'mlaen i'r cwsmer. Ma' hufen iâ yn dreat i bobl, a pan ma' 'da nhw opsiwn i brynu'r basics o'r supermarkets, hwnna byddan nhw'n prynu," meddai.

"Fi 'di rhoi prisie lan rhyw 10% ar wholesale - y cynnydd mwya' fi 'di neud - ond dyw e ddim yn agos i beth mae'r costau wedi mynd lan.

Wrth geisio rhagweld beth fydd dyfodol ei fusnes yn y pum mlynedd nesaf, dywedodd: "Os ma' pethe'n cario 'mlaen fel hyn, fi'n credu bydd e'n struggle."

Ychwanegodd ei fod yn credu nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud digon i "roi help gyda'r argyfwng costau byw".

"S'dim diddordeb 'da nhw yn helpu, yn enwedig busnesau bach," meddai.

'Camau i leihau chwyddiant'

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Roeddem yn glir y byddem yn helpu pobl a busnesau yng Nghymru drwy'r cyfnod anodd hwn ac rydym yn parhau i wneud hynny.

"Rydym yn cymryd camau i leihau chwyddiant wrth sicrhau bod cymorth ariannol yn cael ei ddarparu i'r rhai sydd ei angen, gyda dros 400,000 o bobl yng Nghymru yn derbyn £301 yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf."

Pynciau cysylltiedig