Arweinydd Cyngor Penfro yn ennill pleidlais diffyg hyder
- Cyhoeddwyd

Mae David Simpson wedi bod yn arweinydd Cyngor Sir Penfro ers 2017
Mae pleidlais o ddiffyg hyder yn arweinydd Cyngor Sir Penfro David Simpson wedi cael ei wrthod o drwch blewyn - 31 pleidlais i 29.
Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan y Grŵp Annibynnol, oedd yn arfer rhedeg y cyngor gyda chefnogaeth gan y grŵp Ceidwadol.
Maen nhw wedi cyhuddo'r cynghorydd Simpson, sydd wedi bod yn arweinydd ers 2017, o orwario ar brosiectau gan adael cyfrifon yr awdurdod "mewn llanast".
Mae'r Cynghorydd Simpson yn arwain clymblaid anffurfiol yn y cabinet, sy'n cynnwys aelodau Llafur, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a chynghorwyr sydd ddim yn perthyn i unrhyw blaid neu grŵp.

Clymblaid anffurfiol sy'n arwain Cyngor Sir Penfro
Cyn y bleidlais ddydd Iau dywedodd y Cynghorydd Simpson fod y cyngor wedi gwella gwasanaeth addysg y sir ac adfywio canol rhai trefi o dan ei arweiniad.
Dywedodd nad oedd modd rhagweld rhai o'r costau ychwanegol oedd ynghlwm â rhai o'r prosiectau.
Mynnodd fod y penderfyniadau a wnaed ers 2017 yn "eich penderfyniadau chi", neu "ein penderfyniadau ni" - "nid fy mhenderfyniadau i".
Wrth ymateb dywedodd y cynghorydd Di Clements, arweinydd y grŵp Ceidwadol, ei bod yn poeni yn fawr am gyllid y sir a beth fydd hyn yn golygu am daliadau Treth Cyngor yn y dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2023