Cludo preswylwyr cartref gofal i'r ysbyty wedi tân

  • Cyhoeddwyd
Dyserth RoadFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Lleolir y cartref 52 ystafell wely ar Ffordd Dyserth, Y Rhyl

Mae wyth o drigolion cartref gofal wedi eu cludo i'r ysbyty fel rhagofal yn dilyn tân.

Digwyddodd y tân mewn cartref 52 ystafell wely, gan gynnwys cleifion dementia, ar Ffordd Dyserth, Y Rhyl.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw allan ddydd Sadwrn tua 15:00, gyda'r tân wedi diffodd erbyn 17:40.

Aed â'r wyth o drigolion i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ond does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi'i anafu yn y tân.

Pynciau cysylltiedig