Trin marwolaeth bachgen 1 oed fel un 'heb esboniad'

  • Cyhoeddwyd
HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi eu bod yn trin marwolaeth bachgen bach un oed yng Nghwmbrân fel un "heb esboniad".

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi cael adroddiad o "argyfwng meddygol" yn ardal St Dials am tua 07:45 fore Mawrth, 16 Mai.

Roedd y gwasanaeth ambiwlans a'r ambiwlans awyr hefyd yn bresennol, ond cafodd y bachgen ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Emma Bartholomew fod y "teulu'n parhau i dderbyn cefnogaeth swyddogion arbenigol, ac yn gofyn am breifatrwydd".

Ychwanegodd y llu eu bod yn trin y farwolaeth fel un heb esboniad, ac y bydd prawf post mortem yn cael ei gynnal.

Pynciau cysylltiedig