Byw mewn gofal: Bron i chwarter yn ddigartref erbyn 18 oed

  • Cyhoeddwyd
Rhian ThomasFfynhonnell y llun, Rhian Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhian Thomas, 21, yn un sydd wedi cael profiad helaeth o'r system ofal

Mae bron i chwarter y plant a phobl ifanc sydd mewn gofal yn ddigartref erbyn eu bod yn 18 oed, yn ôl adroddiad i Senedd Cymru.

Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd yn dweud bod llai nag un o bob pum plentyn yn llwyddo i gael pum gradd A*-C yn eu harholiadau TGAU.

Mae'r adroddiad yn amlinellu cyfres o argymhellion ar gyfer newidiadau radical i brofiadau plant cyn, yn ystod, ac ar ôl gadael gofal.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw eisiau cyflwyno newidiadau eang, gan gynnwys dileu elw o'r sector gofal a lleihau'r nifer sy'n cael eu rhoi mewn gofal.

Profiad Rhian

Mae profiad Rhian Thomas, 21, yn adlewyrchu casgliadau'r adroddiad.

Bu'n byw gyda theuluoedd maeth ers yn chwech oed ar ôl cael ei cham-drin a'i hesgeuluso gan ei theulu, ac fe gafodd ei symud o un cartref i'r llall, yr un o'r rheiny yn gartref Cymraeg.

Disgrifiad,

Rhian Thomas: "Ro'n i'n teimlo'n very isolated" yn y system ofal

"O'n i'n teimlo'n very isolated," meddai. "O'n i'n teimlo'n anghyfforddus ac yn ofn... o'n i 'di symud gymaint o weithiau."

Fe adawodd hi'r system ofal pan oedd hi'n 18 oed ac roedd hi'n ddigartref am chwe mis, "yn byw mewn B&B", cyn symud i ganolfan gymorth.

Gan ddisgrifio ei phrofiad yno, dywedodd fod y lle yn "llawn o alcohol a drugs".

"O'dd e'n galed achos o'n i 'di cymryd drugs ac alcohol o'r blaen, ac o'n i'n ofnus bod fi'n mynd 'nôl 'na," meddai.

Ffynhonnell y llun, Rhian Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhian Thomas ei chymryd i mewn i ofal pan oedd hi'n chwech oed

"O'n i'n byw gyda ffrindiau wedyn, ac o'n i'n ofn achos doeddwn i ddim yn gwybod ble o'n i'n mynd i fyw nesa'.

"O'n i ddim yn cael cymorth o gwbl, felly o'n i'n teimlo ar ben fy hun yn mynd drwy hyn."

Fe gafodd Rhian help o'r diwedd ar ôl gorfod mynd i'r ysbyty yn dilyn gorddos o gyffuriau.

Mae Rhian yn byw yn Sir Gaerfyrddin erbyn hyn gyda dynes roedd hi wedi'i chyfarfod mewn lloches ac sydd "fel mam" iddi.

"Mae Voices from Care Cymru hefyd wedi helpu fi gyda fy hyder ac wedi rhoi cefnogaeth i fi pan o'n i angen e," meddai.

"Mae pethau'n well ond mae iechyd meddwl fi ddim yn grêt achos o'r trauma.

"Ond yn anffodus dydw i ddim yn gallu gweithio neu mynd i'r coleg neu'r brifysgol oherwydd iechyd meddwl fi."

Rhai gwasanaethau'n 'hynod annerbyniol'

Roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi edrych ar ailwampio gwasanaethau cyn bod plant yn mynd i ofal, yn ystod y cyfnod, ac ar ôl gadael.

Mae'r adroddiad yn nodi 35% o gynnydd yn nifer y plant sydd mewn gofal yng Nghymru - o 5,410 yn 2011 i 7,265 yn 2021 - er bod yna 2.3% yn llai rhwng 2021 a 2022.

Mae 'na 27 o argymhellion, a 12 o'r rheiny yn "ddiwygiadau radical", gan gynnwys:

  • Creu cyfraith i osod dyletswydd ar gynghorau i gyfrifo uchafswm beichiau achosion diogel ar gyfer gweithwyr cymdeithasol gwasanaethau plant;

  • Rhoi blaenoriaeth i'r rhai sy'n gadael gofal i gael tai a statws 'angen blaenoriaethol' pan fyddant yn ddigartref, hyd at 25 oed;

  • Rhoi cymorth statudol i bob un sy'n gadael gofal hyd at 25 oed, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd ar gyfer y rhai mewn addysg neu hyfforddiant;

  • Yr hawl statudol i gymorth dwys i bob rhiant biolegol sydd â phrofiad o ofal er mwyn lleihau'r risg y bydd plant yn cael eu tynnu oddi arnynt;

  • Sicrhau bod pob gofalwr maeth yn cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru;

  • Hyrwyddo addysg drydyddol i'r rhai mewn gofal.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sioned Williams, AS dros Orllewin De Cymru, bod y dystiolaeth gan rai o'r bobl ifanc yn "frawychus"

Mae Sioned Williams, AS Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, yn aelod o'r pwyllgor ac wedi gweithio ar yr adroddiad.

Dywedodd bod yna rai achosion o arfer da, ond bod yr amrywiaeth rhwng ardaloedd yn "hynod annerbyniol".

"Ry'n ni'n clywed am bobl yn newid lleoliadau dros 20 o weithiau, bod nhw ddim yn gallu cael sylw gan weithwyr cymdeithasol," meddai.

"Glywes i un person ifanc yn dweud bod chi'n gorfod bygwth lladd eich hunain er mwyn cael sylw.

"Mae'r math yna o beth yn amlwg yn hollol annerbyniol, oedd e'n frawychus a dweud y gwir y dystiolaeth gaethon ni gan rai o'r bobl ifanc, yn teimlo bod ganddyn nhw ddim llais chwaith yn yr hyn sy'n digwydd iddyn nhw."

Ychwanegodd Ms Williams ei bod hi'n cefnogi galwad yr adroddiad am weithredu brys i wella pethau.

"Ry'n ni'n gwybod bod nifer o bobl ifanc yn rhedeg i ffwrdd o'u lleoliadau, maen nhw'n mynd ar goll," meddai.

"Dy'n ni ddim yn gwybod be' sy'n digwydd i'r bobl ifanc yna, mae'n hollol annerbyniol."

Ychwanegodd: "Dyna sut ddylen ni edrych ar y sefyllfa yma - ein plant ni yw'r plant yma a dylai eu bod nhw'n cael y gofal a'r cymorth gorau."

Pecyn cymorth £10m

Un arall sy'n galw am weithredu ar frys ydy Helen Mary Jones, pennaeth cyfathrebu a pholisi elusen Voices from Care Cymru.

"Dim ond unwaith mae person ifanc yn cael cyfle a bywyd, a fel 'da ni'n eistedd fan hyn, mae 'na berson ifanc sy'n dod allan o ofal sydd yn ddigartref," meddai.

"Mae 'na bobl ifanc sydd yn symud o un ysgol i'r llall, a byth yn mynd i gael cyfle i fynd i'r brifysgol.

"Mae 'na bobl ifanc sydd yn mynd o un tŷ maeth i'r llall, pobl ifanc sy'n siarad Cymraeg sydd ddim yn cael cyfle i siarad Cymraeg, achos dydyn nhw ddim yn cael gofal trwy'r Gymraeg a ddim yn cael addysg Gymraeg.

"Mae eu bywydau nhw'n newid bob dydd. Mae'n rhaid i'r llywodraeth weithredu nawr."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid i'r llywodraeth weithredu nawr," meddai Helen Mary Jones o Voices from Care Cymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda phobl ifanc i "sicrhau eu bod yn ffynnu wrth adael gofal".

"Ein huchelgais yw cyflawni ystod eang o newidiadau, gan gynnwys dileu elw o ofal a lleihau'r niferoedd sy'n mynd i mewn i'r system ofal, a chadw teuluoedd gyda'i gilydd," meddai.

"Yn ddiweddar fe wnaethom gyhoeddi pecyn cymorth gwerth £10m dros y tair blynedd nesaf ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol fel rhan o'n gwaith parhaus i recriwtio mwy o weithwyr cymdeithasol.

"Rydym yn gweithio gyda'r sector i wella recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol, gan gynnwys drwy'r cynllun gweithlu gwaith cymdeithasol a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

"Byddwn yn ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad."