Ymateb cymysg wrth i AS Ceidwadol ymgeisio am Faer Llundain

  • Cyhoeddwyd
Natasha AsgharFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ei "hangerdd tuag at Lundain" yw un o resymau Natasha Asghar dros ymgeisio i fod yn faer y ddinas

Mae Aelod o Senedd Cymru wedi cyhoeddi ei bod hi eisiau sefyll fel ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer swydd Maer Llundain.

Dywedodd Natasha Asghar, AS Dwyrain De Cymru, y byddai hi'n "chwa o awyr iach" i'r ddinas, a'i bod wedi byw yn Llundain yr un faint ag y mae hi wedi byw yng Nghymru.

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi dymuno'r gorau iddi, ond mae pleidiau eraill wedi gwatwar y cyhoeddiad ar-lein.

Cafodd Ms Asghar ei hethol i'r Senedd ym Medi 2021, a bellach mae'n llefarydd dros ei phlaid ar drafnidiaeth yng Nghymru.

"Nawr, dwi'n gwybod eich bod yn meddwl 'pam Natasha, pam?'" meddai mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyhoeddi ei bwriad.

"Er hynny, hoffwn i wneud chi yn ymwybodol fy mod wedi byw yn Llundain am yr un nifer o flynyddoedd ag yr rydw i wedi byw yng Nghymru."

Ychwanegodd mewn datganiad fod ei phenderfyniad wedi dod yn dilyn "llawer o berswâd gan drigolion ledled Llundain".

Ar ôl dwy flynedd yn "ymladd yn erbyn polisïau Llafur yng Nghymru", dywedodd AS Asghar ei bod yn "barod i fynd â'r frwydr i Lundain".

Wrth wneud sylw ar y mater ar Twitter dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, sy'n AS Llafur: "I fod yn deg ag Andrew RT [Davies], roedd ei fideo Ffŵl Ebrill lawer gwell - ac fe gafodd y dyddiad yn iawn."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Natasha Asghar ei bod hi eisiau herio Maer presennol Llundain, Sadiq Khan

Mae Sadiq Khan o'r Blaid Lafur, sef y maer presennol, wedi dweud ei fod yn bwriadu sefyll am drydydd tymor yn yr etholiad nesaf ym mis Mai 2024.

Natasha Asghar yw'r enw diweddaraf ar y rhestr gynyddol o Geidwadwyr sydd yn bwriadu ceisio am enwebiad ar gyfer y swydd.

Mae'r ffenestr i geisio i fod yn ymgeisydd i'r Ceidwadwyr yn cau ddydd Mercher. Ar ôl hynny, bydd rhestr fer o'r ymgeiswyr posib.

Yna, bydd pleidlais fewnol i aelodau'r Blaid Geidwadol i ddewis yr enillydd, a hynny'n cael ei gyhoeddi ar 19 Gorffennaf.

Roedd tad Ms Asghar, Mohammed Asghar, hefyd yn Aelod o'r Senedd dros ranbarth Dwyrain De Cymru rhwng 2007 a'i farwolaeth yn 2020.

Cafodd ei ethol yn wreiddiol dros Blaid Cymru, cyn symud draw i'r Ceidwadwyr yn 2009 - gyda Natasha Asghar hefyd yn newid ei haelodaeth o Plaid i'r Torïaid ar yr un pryd.

'Tasg anferthol'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr ar Gyngor Casnewydd, Matthew Evans, ei fod "wedi synnu'n fawr" fod Ms Asghar yn ymgeisio am y swydd.

Ychwanegodd nad oedd ganddo broblem gyda'r penderfyniad.

"Os ydy hi'n gweld e fel cyfle, mae hynny'n iawn," meddai, gan ddweud fodd bynnag fod yr ymgais yn un afrealistig.

"Rwy'n hapus i gael fy mhrofi'n anghywir. Byddai cael yr enwebiad ac ennill yn dasg anferthol."

Ffynhonnell y llun, Y Blaid Geidwadol
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mathew Evans, arweinydd y Ceidwadwyr ar Gyngor Casnewydd, ei fod wedi synnu bod Ms Asghar yn ceisio sefyll fel Maer Llundain

Wrth siarad ar raglen frecwast BBC Radio Wales gyda Claire Summers, dywedodd Natasha Asghar fod "mwyafrif" y pleidleiswyr Ceidwadol yr oedd hi wedi siarad gyda nhw dros y 24 awr ddiwethaf "yn hapus iawn drosta i", er ei bod yn cydnabod bod y mwyafrif wedi cael "sioc".

"Rwy'n gwybod byddai rhai'n anhapus," meddai.

Dywedodd na fyddai'n camu o'r neilltu fel Aelod o'r Senedd, fodd bynnag.

"Dwi newydd gyflwyno'r cais," meddai. "Ar hyn o bryd dim ond proses o gyflwyno ffurflen ar-lein yw hi."

Ychwanegodd: "Mae hawl gan bawb i gael barn. Ond chi'n gwybod beth maen nhw'n dweud - os nad ydych chi'n trio, gewch chi ddim byd.

"Ddylai pobl yng Nghymru ddim edrych i lawr ar uchelgais a'i weld fel peth drwg."

Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Dyma hyd yn oed mwy o dystiolaeth bod y Ceidwadwyr yn gweld Llundain yn fwy o flaenoriaeth na Chymru."

Ond mynnodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod Ms Asghar "wedi profi ei bod yn cyfathrebwr da a hyrwyddwr arbennig dros achosion sy'n agos at ei chalon".

"Rydym yn dymuno'r gorau iddi wrth iddi ddechrau'r broses ymgeisio."

Pynciau cysylltiedig