Ceidwadwyr: 'Dim mwy o bwerau datganoli i Gymru'
- Cyhoeddwyd
Ni ddylai rhagor o bwerau gael eu datganoli i Gymru, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.
Cyhuddodd Andrew RT Davies weinidogion Llafur Cymru o lynu at eu "credoau eithafol" mewn araith i gynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yng Nghasnewydd.
Dywedodd y byddai mwy o bwerau i Lywodraeth Cymru yn "tynnu sylw" i ffwrdd o wella gwasanaethau iechyd ac addysg ac ychwanegodd fod y blaid Lafur wedi "blaenoriaethu materion ymylol."
Dywedodd hefyd fod Llafur wedi "dal Cymru yn ôl" ar hyd y blynyddoedd.
Ymosododd Mr Davies ar gynnig gan Lywodraeth Cymru i ofyn am y pŵer i basio deddf gyfatebol i Ddeddf Diwygio Cydnabod Rhywedd yr Alban, a gwnaeth hefyd feirniadu'r cynllun incwm sylfaenol, sy'n cynnig arian i blant sy'n geiswyr lloches, ymysg eraill.
"Dwi'n caru Cymru, dwi'n caru bod yn Gymro - a dyna pam dwi'n angerddol dros wneud y gorau posib i'm gwlad," meddai.
Ond dywedodd fod Cymru ar ei hôl hi gan fod "gweinidogion Llafur yn blaenoriaethu prosiectau hunanbwysig a materion ymylol, yn lle'r pethau sy'n wirioneddol bwysig".
Cyhuddodd Llafur o beidio blaenoriaethu'r gwasanaeth iechyd er mwy "ariannu mwy o wleidyddion" - cyfeiriad at y cynnig i ehangu maint y Senedd.
'Bore da - wedi defnyddio dipyn o Gymraeg!'
"Dwn i ddim amdanoch chi, ond fydde'n well gen i fwy o feddygon, nyrsys ac athrawon," dywedodd.
Pe bai galwad yn dod i law'r prif weinidog Rishi Sunak, "gan Lafur a'u ffrindiau cenedlaetholgar i fwy o bwerau gael eu datganoli i Gymru, peidiwch â bod ofn dweud na", dywedodd Mr Davies.
"Rhaid gwrthod ceisiadau am bwerau dros blismona, cyfiawnder troseddol a hunaniaeth rhywedd.
"Mae obsesiwn ideolegol Llafur gyda rhywedd a rhoi eu credoau eithafol uwchlaw synnwyr cyffredin yn rhoi pobl mewn perygl, gan dynnu eu sylw oddi ar y materion sydd o bwys, gan dynnu eu sylw oddi ar redeg Bwrdd Iechyd Gogledd Cymru, sydd o dan fesurau arbennig unwaith eto."
Agorodd Mr Davies ei araith drwy ddweud "bore da", cyn ychwanegu: "dyna ni, dwi wedi defnyddio dipyn o Gymraeg felly gobeithio bydd y cyfryngau yn sgwennu rhywbeth neis amdana i".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd11 Mawrth 2023