Cymru i wynebu De Corea mewn gêm gyfeillgar fis Medi

  • Cyhoeddwyd
Aaron Ramsey a Son Heung-MinFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd tîm pêl-droed dynion Cymru yn wynebu De Corea mewn gêm gyfeillgar yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis Medi.

Dyma fydd y tro cyntaf erioed i'r ddwy wlad herio ei gilydd.

Bydd y gêm yn cael ei chwarae nos Iau, 7 Medi, cyn i garfan Cymru deithio i Latfia ar gyfer eu gêm yng ngrŵp rhagbrofol Euro 2024.

Gyda seren Tottenham Hotspur Son Heung-Min fel capten, llwyddodd De Corea i gyrraedd rownd 16 olaf Cwpan y Byd Qatar y llynedd.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y bydd gwybodaeth tocynnau yn cael ei gyhoeddi "mor fuan â phosib".