'Hollbwysig' i'r Urdd estyn allan i ddysgwyr Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Ysgol Cwmafan
Disgrifiad o’r llun,

Bu Ysgol Cwmafan yn rhan o gystadleuaeth gorawl newydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni, ar gyfer corau di-Gymraeg

Mae prif weithredwr yr Urdd wedi dweud ei bod hi'n "hollbwysig" i'r mudiad estyn allan i ddysgwyr Cymraeg os ydyn nhw am gyrraedd "cynulleidfaoedd newydd".

Dywedodd Sian Lewis fod hynny'n cynnwys "denu aelodau staff o gefndiroedd ac ardaloedd gwahanol o Gymru" i weithio gyda'r mudiad.

Un person sydd eisoes wedi bod yn gweithio gyda'r Urdd ers rhai misoedd yw Nooh Ibrahim, a ddywedodd bod dysgu Cymraeg yn "bwysig iawn" iddo.

Daw hyn wrth i'r Urdd gyhoeddi partneriaeth newydd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fydd yn cynnwys rhaglen hyfforddiant dysgu Cymraeg newydd.

'Cymraeg yn bwysig i fi'

Bwriad y cynllun fydd cefnogi nod y mudiad o ddenu gweithlu amrywiol, ac i gysylltu ymhellach â chynulleidfaoedd newydd.

Fel rhan o hynny bydd tiwtor yn gweithio gyda'r Adran Chwaraeon, Prentisiaethau a'r Gwersylloedd i ddarparu gwersi i aelodau staff sydd ddim yn siarad llawer o Gymraeg, neu sy'n llai hyderus eu sgiliau Cymraeg.

Dona Lewis yw prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac mae'n falch o'r cyfle i gydweithio gyda'r Urdd.

"Mae'r ganolfan yn agor croeso i bawb i ddysgu Cymraeg ac mae e'n hollbwysig bod ni'n gweithio gyda sefydliadau, gyda sectorau gwahanol ac yn teilwra'r cynnig o ddysgu Cymraeg iddyn nhw," meddai.

Disgrifiad,

Dona Lewis: "Mae'r ganolfan yn croesawu pawb i ddysgu Cymraeg"

"'Dan ni wedi ei wneud o gyda Chymdeithas Pêl-droed Cymru, er enghraifft.

"Mae'n hollbwysig bod ni'n deall anghenion y sector, y cyflogwr, a'r gweithlu sydd ganddyn nhw, ac yn teilwra'r deunyddiau a'r pecynnau 'dan ni'n gallu rhoi at ei gilydd o ran dysgu Cymraeg iddyn nhw.

Mae'r bartneriaeth newydd yn dilyn cynllun peilot sy'n rhedeg gan yr Urdd ers Medi llynedd ble mae Nooh Ibrahim, Swyddog Chwaraeon Cymunedol Amrywiol cyntaf y mudiad, wedi bod yn cael gwersi dyddiol.

"Mae dysgu Cymraeg yn bwysig iawn i fi gan mai Cymro ydw i," meddai Nooh. "Dwi'n dod o Gaerdydd o gymuned amrywiol. Dim siarad Cymraeg.

Disgrifiad,

Nooh Ibrahim: "Mae dysgu Cymraeg yn bwysig i mi gan mai Cymro ydw i"

"Dechreues i siarad Cymraeg ym mis Tachwedd, chwe mis nawr a dwi'n hoffi e'n fawr.

"Mae dau aprentis newydd yn y gwaith gyda fi yn yr Urdd, ac mae'n bwysig iawn bo nhw'n dysgu Cymraeg hefyd.

Mae Nooh, cyn-ddisgybl Ysgol Fitzalan, Caerdydd, bellach yn cynnal sesiynau chwaraeon a hyfforddiant arwain dwyieithog mewn cymunedau yn ne'r brifddinas, yn dilyn yr hyfforddiant Dysgu Cymraeg dwys.

Clod i ddysgwyr

Prif seremoni'r dydd ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri ddydd Mawrth oedd gwobrau Medal y Dysgwyr a Medal Bobi Jones, i'r rheiny sydd wedi dysgu Cymraeg.

Ac er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg, dywedodd Sian Lewis ei bod hi'n bwysig sicrhau bod yr "Urdd yn perthyn i bawb".

"Mae gwasanaethu ein cynulleidfa graidd yn hollbwysig, a 'dyn i'n awyddus, hefyd, i estyn allan ymhellach at gynulleidfaoedd newydd," meddai.

"Wrth i ni wneud hynny, mae'n bwysig ein bod ni'n denu aelodau staff o gefndiroedd ac ardaloedd gwahanol o Gymru, sydd o bosib ddim eto yn siarad Cymraeg yn hyderus."

Mae'r ŵyl ieuenctid eisoes wedi cynnal cystadleuaeth gorawl newydd eleni, a hynny ar gyfer corau di-Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tracey Williams yn falch iawn o'i disgyblion o Ysgol Cwmafan ddydd Mawrth

Y darn gosod i Flwyddyn 6 ac iau oedd 'Gwyliau' gan Mary S. Jones, ac roedd y corau yn cael hepgor yr eisteddfodau cylch a rhanbarth er mwyn gallu perfformio yn y Pafiliwn Gwyn ddydd Mawrth.

Yn ôl athrawes Ysgol Cwmafan ym Mhort Talbot, Tracey Williams, mae wedi bod yn brofiad bythgofiadwy i'r plant fod yn rhan o Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri.

"Mae e'n brofiad gwych iddyn nhw," meddai. "Maen nhw'n joio pob munud o ganu a neud pethe' yn y Gymraeg.

"Mae pawb yn gweud bod e'n swnio fel bod nhw'n siarad Cymraeg [pan maen nhw'n canu], ond o gartrefi hollol ddi-Gymraeg yw pob un o rhain."

Ychwanegodd bod angen gwneud mwy i ddenu pobl o gefndiroedd di-Gymraeg i'r Eisteddfod.

"Bydde fe'n neis i gael mwy o gystadlaethau, i ddysgwyr cael bod yn rhan o'r Eisteddfod," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Leilah, Evie, Mila a Harry - pedwar o aelodau côr Ysgol Cwmafan

Mae Leilah ym Mlwyddyn 6 yn Ysgol Cwmafan.

"Roedd hi'n anodd ar y dechrau [i ddysgu'r gân] ond unwaith roeddwn ni wedi dod i arfer oedd hi'n haws," meddai.

Ychwanegodd Blake: "Yn Saesneg bydde' fe wedi bod yn haws, ac oedd hi'n edrych yn anodd iawn yn Gymraeg. Ond mae wedi bod yn gyfle gwych i ddysgu'r gân gyda fy athrawes."

Ond roedd yr her wedi talu ffordd yn ôl Mila.

"Nes i rili fwynhau. Dwi'n joio canu yn Gymraeg a siarad Cymraeg gyda fy ffrindiau.

"Oherwydd dim Cymraeg yw iaith gyntaf ni, mae'n neis gallu dod fan hyn a chlywed yr holl Gymraeg."