Arestio dyn ar ôl canfod corff menyw yn Afon Hafren
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio wedi i gorff menyw gael ei ddarganfod mewn afon.
Cafodd corff y fenyw, 34 oed, ei ganfod yn Afon Hafren ger Llanidloes am tua 16:00 ddydd Sul.
Mae dyn 46 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am unrhyw dystion neu ddelweddau dashcam a welodd ddyn a menyw yn ardal Llanidloes ddydd Sadwrn a ddydd Sul.
Cafodd y fenyw ei disgrifio fel gwyn, byr, gyda dreadlocks hir. Roedd hi'n gwisgo top llwyd, trowsus tywyll ac esgidiau gwyn.
Mae'r dyn wedi'i ddisgrifio fel gwyn, tua chwe troedfedd gyda dreadlocks a bandana tywyll. Roedd ganddo gi bach tywyll.
Mae'r heddlu hefyd yn gofyn i berson a roddodd lifft i'r dyn a'i gi rhwng Y Trallwng ag Amwythig i gysylltu gyda nhw.