Eisteddfod yr Urdd 2023: Gwydion Rhys yn cipio'r Fedal Gyfansoddi
- Cyhoeddwyd
Gwydion Rhys ydy Prif Gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023.
Fe gipiodd y Fedal Gyfansoddi gyda 'Pum Pedwarawd' o dan y ffugenw 'Tannau Perfedd'.
Mae'r cyfansoddwr 20 oed o Rachub yn Nyffryn Ogwen wedi cyrraedd y tri uchaf yn y gystadleuaeth o'r blaen.
Dywedodd Gwydion: "Mae ennill y Fedal Gyfansoddi yn rhoi boddhad mawr i mi o wybod bod pobl yn gwerthfawrogi fy ngherddoriaeth.
"Dwi wedi cyrraedd y tri uchaf yng nghystadleuaeth y Fedal Gyfansoddi deirgwaith o'r blaen, felly mae'r neges i unrhyw gyfansoddwr ifanc yn glir - daliwch ati i greu!"
Daeth naw cyfansoddiad i law yn y gystadleuaeth eleni, gyda Dr Owain Llwyd a Dr Daniel Bickerton yn feirniaid.
Mae Gwydion yn gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda ac ar fin cwblhau ei ail flwyddyn yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain ble mae'n astudio Cyfansoddi.
Rhoddwyd yr ail wobr i David Ingham o Ysgol Gyfun Gŵyr yn Abertawe am ei gyfansoddiad ar gyfer wythawd chwythbrennau o'r enw 'Branwen, y Ddrudwen, a'r Môr'.
Roedd y drydedd wobr eleni yn mynd draw i'r UDA, i Katia Rumin o Stockbridge, Massachustes am ei chyfansoddiad 'Trawsplygainiadau'.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023