ASau yn dweud iddynt dderbyn rhybudd am Geraint Davies

  • Cyhoeddwyd
Geraint DaviesFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Geraint Davies nad yw'n adnabod yr honiadau yn ei erbyn

Mae tair aelod seneddol benywaidd wedi dweud eu bod wedi cael eu rhybuddio am Geraint Davies yn eu hwythnosau cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin.

Yn ôl y tair roeddynt wedi cael rhybudd i fod ar eu gwyliadwraeth rhagddo.

Mae Mr Davies, AS Gorllewin Abertawe, wedi ei wahardd gan y blaid Lafur yn dilyn honiadau o "ymddygiad cwbl annerbyniol".

Cafodd y gwleidydd ei gyhuddo o roi sylw dieisiau o natur rywiol i gydweithwyr benywaidd iau - ond dywedodd Mr Davies nad oedd yn adnabod yr honiadau.

Mae'r tair AS sydd wedi siarad â BBC Cymru yn cynnwys dwy o'r Blaid Lafur ac un o'r Ceidwadwyr.

Dywedodd un AS Llafur arall ei bod hi wedi derbyn sylwadau anllad - lewd - a chyffwrdd anaddas

"Roedd e wastad yn ofnadwy o ran ei ymddygiad, ond dyma'r ffordd oedd e'n ymddwyn," meddai.

"Doedd e byth yn sinister, just yn amhriodol.

'Gwyliadwrus'

"Byddai'n gwneud sylwadau anllad neu yn cyffwrdd eich braich pan oeddech yn sefyll wrth ei ymyl cyn pleidleisio yn y Tŷ. Roedd hyn yn gwneud i chi deimlo yn anghyfforddus."

"Pe bai chi'n ei weld e' yn yr ystafell fwyta, byddech yn osgoi eistedd ar yr un bwrdd a gweddïo na fyddai'n dod i eistedd gyda chi."

Ychwanegodd: "Pan wnes i ddod yn AS y tro cyntaf, ef oedd un o'r rhai fyddai pobl yn eich rhybuddio amdano. Fe wnaeth nifer o bobl ddweud wrthyf am fod yn wyliadwrus.

"Mae'n hen bryd fod hyn yn dod i'r amlwg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Davies wedi bod yn AS dros Orllewin Abertawe ers 2010

Mae ail AS benywaidd wedi dweud wrth BBC Cymru ei bod hi hefyd wedi cael rhybudd gan gyd aelodau seneddol i osgoi Mr Davies.

Ond dywedodd nad oedd hi wedi bod yn dyst i unrhyw ymddygiad amhriodol, ac felly nid oedd wedi codi'r mater gyda swyddogion y blaid Lafur.

Mae hi'n credu y dylai Llafur ail asesu ei phrosesau.

"Pam fod yn rhaid rhoi'r pwyslais ar fenywod ifanc i ddod a chwyn swyddogol cyn bod unrhyw beth yn cael ei wneud."

Yn y cyfamser, mae AS Llafur wedi dweud ei bod "wedi synnu" ei bod wedi cymryd "cyhyd" i'r honiadau am Geraint Davies ddod i'r amlwg.

"Roedd pawb wedi clywed am Geraint," meddai.

Pan ofynnwyd i'r AS am brosesau Llafur wrth ddelio â honiadau o ymddygiad amhriodol, dywedodd fod "dwylo'r blaid wedi'u clymu" hyd nes i rywun wneud cwyn ysgrifenedig.

Gwahardd o'r blaid

Mae'r BBC wedi cysylltu gyda Mr Davies am sylw, ond heb dderbyn ymateb hyd yma.

Mewn cyfweliad gyda Politico, y wefan newyddion wnaeth adrodd am yr honiadau gyntaf, dywedodd yr AS nad oedd yn adnabod yr honiadau yn ei erbyn.

"Os ydw i wedi pechu rhywun heb sylwi, wedyn yn naturiol mae'n ddrwg gen i achos mae'n bwysig ein bod ni'n rhannu amgylchedd sydd yn parchu pawb yn hafal," meddai wrth Politico.

Mae Mr Davies nawr wedi ei wahardd o'r blaid wrth i'r ymchwiliad gael ei gynnal, ac felly nid yw'n cael eistedd fel AS Llafur.

'Eu cymryd o ddifrif'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford fod ei blaid wedi "ymateb yn gyflym" i wahardd Mr Davies.

Ar ymweliad â Chaeredin dywedodd Mr Drakeford fod y cyhuddiadau yn rhai "difrifol iawn" a bod angen "eu cymryd o ddifrif".

Yn wreiddiol, dywedodd y blaid nad oedd wedi derbyn cwyn ffurfiol, ond mae'r BBC ar ddeall eu bod wedi derbyn dau erbyn hyn.

Yn dilyn adolygiad o'r ffordd y mae'r blaid yn delio gyda chwynion, mae Llafur wedi cyflwyno proses newydd y llynedd - un y mae'r blaid yn ei hystyried yn wydn, ac yn rhoi hyder i'r sawl sy'n cwyno.

Yn flaenorol, dywedodd llefarydd ar ran Llafur fod y rhain "yn gyhuddiadau anhygoel o ddifrifol ynglŷn ag ymddygiad cwbl annerbyniol".

"Rydym yn annog unrhyw un sydd â chwyn i ddod ymlaen i ymchwiliad y Blaid Lafur.

"Bydd gan unrhyw achwynwr fynediad at wasanaeth cefnogi annibynnol sy'n cynnig cyngor cyfrinachol gan arbenigwyr allanol trwy gydol y broses."

Adolygu'r drefn gwynion

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Llafur, David Evans, fod adolygiad wedi ei lansio i'r broses gwynion yn dilyn digwyddiadau blaenorol, oedd yn cynnwys rhybuddio cymhorthydd yn dilyn honiad o gyffwrdd aelod iau o'r staff.

Mewn ebost a anfonwyd ddydd Iau, dywedodd Mr Evans fod ei ffocws "ers y straeon bythefnos yn ôl, wedi bod ar adolygu ar fyrder ein prosesau ffurfiol lle gall cydweithwyr achwyn am ymddygiad o'r fath".

Roedd yr adolygiad yn cynnwys sut roedd y blaid yn "cydweithio gyda chyrff cwynion annibynnol i sicrhau canlyniadau llym, ac i warchod staff tra bod ymchwiliadau'n mynd ymlaen".

Roedd hefyd yn edrych ar "sut y gallwn greu diwylliant lle gall cydweithwyr deimlo'n ddiogel, a chael eu hannog i wneud cwyn os ydynt angen gwneud hynny".

"Rwyf wedi bod yn gweithio gyda thasglu o uwch-arweinyddiaeth y blaid i symud yr adolygiad hwn yn ei flaen mor gyflym â phosib," meddai Mr Evans.

Pynciau cysylltiedig