Brenin Charles III i ffarwelio â'i gartref yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Charles a Camilla ar garreg drws Llwynywermod yn 2009Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Tywysog Charles a Duges Cernyw - eu teitlau ar y pryd - ar garreg drws Llwynywermod yn 2009

Mae'r Brenin Charles wedi penderfynu ffarwelio â'i gartref ym Myddfai ger Llanymddyfri.

Cafodd stad Llwynywermod ei phrynu ar ran y Tywysog Charles - fel yr oedd yn cael ei adnabod ar y pryd - gan Ddugiaeth Cernyw yn 2007 am £1.2m.

Mae'r tŷ tair ystafell wely, a arferai fod yn le i gadw cerbydau, wedi'i leoli ar dir hen blasty ac o'i amgylch mae parc gwledig o'r 18fed ganrif sy'n cynnwys 40 erw o dir coediog.

Mae Palas Buckingham wedi cadarnhau bod y Brenin wedi dweud wrth y Ddugiaeth yn gynharach eleni ei fod am ddod â les Llwynywermod i ben ddiwedd yr haf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Llwynywermod ei adnewyddu'n sylweddol wedi iddo gael ei brynu yn 2007

Yn ôl adroddiadau un papur newydd mae'r Brenin wedi bod yn talu rhent am Lwynywermod ers i Ddugiaeth Cernyw gael ei throsglwyddo i'w fab y Tywysog William adeg y coroni.

Dywed ffynonellau bod y Brenin yn parhau i fod yn "angerddol" am Gymru ond ei fod wedi penderfynu ildio ei gartref yn Sir Gâr am nad oedd yn debygol o'i ddefnyddio mor aml.

Cyn ei goroni'n Frenin roedd Charles III i'w weld yn cerdded yn yr ardal yn gyson, ac mae rhai trigolion lleol yn credu bod Myddfai wedi elwa o'i ymweliadau.

Pynciau cysylltiedig