Apêl wedi i ddynes farw mewn gwrthdrawiad yn Y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Police car

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion wedi i ddynes farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Fflint brynhawn Llun.

Tua 12:30 bu gwrthdrawiad ar Ffordd yr Eglwys rhwng dynes a oedd yn cerdded ar y stryd a cherbyd nwyddau trwm.

Cafodd plismyn, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw ond bu farw y fenyw yn y fan a'r lle.

Cafodd gyrrwr y cerbyd nwyddau trwm, 37 oed, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal ac mae bellach wedi ei ryddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Dywedodd y Rhingyll Emlyn Hughes o Uned Blismona'r Ffyrdd: "Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda theulu'r ddynes.

"Ry'n yn awyddus i siarad â thystion neu unrhyw un a allai fod â lluniau teledu cylch cyfyng neu dashcam o'r ardal ar y pryd.

"Fe wnaeth y ffordd ailagor toc wedi 16:00 a hoffem ddiolch i drigolion lleol, busnesau a gyrwyr am eu cydweithrediad a'u hamynedd."

Pynciau cysylltiedig