Pwy oedd Cranogwen?

  • Cyhoeddwyd
Cranogwen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sarah Jane Rees yn cael ei hadnabod fel Cranogwen

Llongwr, bardd, newyddiadurwr, darlithydd, ymgyrchydd...

Ddydd Sadwrn, 10 Mehefin yn Llangrannog, mae seremoni i ddadorchuddio cerflun o Cranogwen.

Efallai eich bod wedi clywed ei henw - ond pwy oedd hi?

Morio ac addysgu

Yn fwy adnabyddus yn ôl ei enw barddol, Cranogwen, roedd Sarah Jane Rees yn arloeswr mewn nifer o feysydd - o farddoniaeth i newyddiaduraeth.

Wedi ei geni yn Llangrannog yn 1839, fe wnaeth hi herio holl gyfyngiadau bywyd merched Fictoraidd i fwynhau gyrfa arloesol oedd yn llawn profiadau, cyflawniad ac antur.

Daeth yn enwog i ddechrau fel prif forwraig. O'r amser pan oedd hi'n ferch fach yn Llangrannog, roedd Cranogwen yn benderfynol ei bod am fyw bywyd anturus. Roedd ei rhieni am iddi fod yn wniadwraig ond perswadiodd ei thad, a oedd yn gapten môr, i fynd â hi ar fwrdd llong.

Disgrifiad,

Merched Mawreddog: Cranogwen

Am ddwy flynedd bu'n gweithio fel morwraig ar longau cargo rhwng Cymru a Ffrainc cyn dychwelyd i Lundain a Lerpwl i gynyddu ei haddysg forwrol.

Enillodd ei thystysgrif prif forwraig; cymhwyster a oedd yn caniatáu iddi reoli llong yn unrhyw ran o'r byd. Yn ôl yng ngorllewin Cymru daeth yn brifathrawes yn 21 oed, ac fe addysgodd forwriaeth a chrefft môr hefyd i ddynion ifanc lleol.

Roedd nifer o'r dynion fyddai'n mynd ymlaen yn ddiweddarach i hwylio a bod yn gapteiniaid ar longau ar draws moroedd y byd wedi cael eu hyfforddi gan Sarah Jane Rees yn yr ysgol fach hon ar arfordir Ceredigion.

Ysgrifennu a phregethu

Yn 1865, diolch i'w sgiliau ysgrifennu, daeth yn seren dros nos yng Nghymru gan mai hi oedd y wraig gyntaf i ennill gwobr farddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol - gan guro prif feirdd gwrywaidd Cymreig y dydd, Islwyn a Ceiriog.

Gan ysgrifennu dan yr enw Cranogwen, roedd ei cherdd fuddugol, Y Fodrwy Briodasol, yn ddychan cynhyrfus ar dynged y wraig briod.

Aeth ymlaen i fod yn un o'r beirdd mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gan archwilio themâu'n amrywio o wladgarwch Cymreig i longddrylliadau. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o tua 40 o gerddi yn 1870.

Yn 1879 hi oedd y fenyw gyntaf i olygu cylchgrawn Cymraeg i fenywod - Y Frythones. Roedd hwn yn ymgyrchu dros addysg merched ac roedd ganddo dudalen broblemau hyd yn oed.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y rhifyn cyntaf o Y Frythones a gyhoeddwyd yn Ionawr 1879, a rhifyn o 1883, gydag enw Cranogwen, y golygydd, yn amlwg ar y clawr

Fel golygydd, anogodd Cranogwen dalentau merched eraill hefyd. Aeth nifer o'r awduron benywaidd a gafodd lwyfan ganddi yn Y Frythones ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llenyddol llwyddiannus.

Roedd Cranogwen yn wych â'r gair llafar yn ogystal â'r gair ysgrifenedig. Ar adeg pan nad oedd hi'n dderbyniol i fenywod siarad yn gyhoeddus, cychwynnodd yrfa fel darlithydd, ymgyrchydd o blaid dirwest a phregethwraig - gan deithio ledled America ddwywaith.

Yn aml roedd hi'n wynebu gwrthwynebiad sylweddol gan bregethwyr gwrywaidd pan oedd hi'n camu i'r pulpud ond roedd hi'n hynod o boblogaidd gyda chynulleidfaoedd oedd yn cynhesu at ei defnydd bywiog o iaith a chyflwyno grymus.

Ffynhonnell y llun, © Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Broets Undeb Dirwestol Merched y De, y mudiad a sefydlodd Cranogwen yn 1901

Roedd dirwest yn fater pwysig i Cranogwen. Gwelodd effaith goryfed alcohol ar fywyd teuluol yn yr un modd ag yr ystyriwn beryglon camddefnyddio cyffuriau heddiw.

Yn 1901 sefydlodd Undeb Dirwestol Merched y De. Erbyn amser ei marwolaeth yn 1916 roedd 140 o ganghennau ledled De Cymru.

Un o'i syniadau mwyaf blaengar oedd lloches i ferched ifanc. Ac er na fu hi byw i weld ei breuddwyd o dŷ i ferched digartref yn cael ei adeiladu, agorwyd y lloches Llety Cranogwen er cof iddi ar ôl ei marwolaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Carreg fedd Cranogwen ym mynwent Eglwys Sant Caranog, Llangrannog

Rôl y ferch yn Oes Fictoria

Roedd Cranogwen yn arloeswraig, yn arbennig oherwydd iddi gyflawni gymaint, a hithau yn ferch yn ystod Oes Fictoria - cyfnod lle nad oed gan ferched lawer o hawliau.

Yn ôl Jane Aaron, awdur bywgraffiad newydd am Cranogwen a gyhoeddwyd fis Ebrill 2023, mae peth o'r diolch am hyn oherwydd iddi gael ei magu ym mhentref ynysig Llangrannog.

"Byddai llawer iawn o'r dynion ar y môr, ac roedd gyda chi gymuned eitha' diarffordd oedd yn cael ei redeg gan fenywod, oherwydd doedd y dynion ddim 'na. Mae Cranogwen yn ferch fach siarp, yn sylwi ar gymeriadau'r menywod yma sydd yn arwain ei chymdeithas. Ychydig bach iawn o unrhyw fath o statws yn y byd cyhoeddus sydd gyda nhw, ond eto, nhw sydd yn rhedeg y pentref."

Yn dilyn ei llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth 1865, lle curodd hi rai o brif feirdd gwrywaidd y cyfnod, cynyddodd ei phoblogrwydd, a byddai'n teithio ledled y wlad yn darlithio ar ran y Methodistiaid Calfinaidd; mae sôn iddi gynnal o leiaf 150 o ddarlithoedd un flwyddyn.

Fodd bynnag, nid lle menyw oedd darlithio yn ôl rhai, gydag un eglwyswr yn ceisio honni fod darlithwragedd, fel Cranogwen, yn defnyddio 'hud gwrach'. Er hyn, arweiniodd Cranogwen y ffordd i fwy o ferched ddarlithio.

Ffynhonnell y llun, © Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tocyn i un o ddarlithoedd Cranogwen - un o nifer o 1867

Mae Jane Aaron hefyd yn sôn fod Cranogwen yn unigryw yn y ffaith ei bod hi'n gymharol agored yn rhai o'i gweithiau nad oedd hi â diddordeb mewn priodi dyn - rhywbeth a oedd yn ddisgwyliedig yn y cyfnod, wrth gwrs:

"Yn 1868 yn enwedig, mae hi fel 'sa hi eisiau dweud wrth ei chynulleidfa 'dwi'n dewis cyfeillgarwch rhamantaidd gyda merched yn hytrach na gŵr'. Dyna beth mae hi'n ei ddweud yn y gerdd Fy Ffrynd ac hefyd yn un o'i thraethodau a gyhoeddwyd yn yr un flwyddyn. Mae hi fel 'se hi eisiau dweud wrthyn nhw i beidio mynd 'mlaen a 'mlaen am pryd roedd hi am ddod o hyd i ŵr, achos doedd ganddi ddim diddordeb."

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Penillion o gerdd Fy Ffrynd o'r gyfrol Caniadau Cranogwen, 1870

Roedd hi hefyd yn agored yn Y Frythones mai dewis y ferch oedd hi os oedd hi am briodi neu beidio - cyngor a oedd yn wahanol i'r hyn yr arferai merched y cyfnod ei glywed.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o erthygl o rifyn Chwefror 1885 o Y Frythones, yn datgan fod gan ferched yr hawl i aros yn ddi-briod

Mewn cyfnod oedd yn llym iawn ynglŷn â sut oedd merch i fod i ymddwyn a byw, roedd Sarah Jane Rees yn torri ffiniau ac wedi ail-ddiffinio beth oedd merched yn gallu ei wneud, meddai Jane Aaron:

"'Nath hi farw yn 1916. Erbyn hynny roedd tipyn mwy o fenywod yn siarad yn gyhoeddus, roedden nhw ar fin cael y bleidlais.

"Mae'r byd yn newid, a chi'n gallu teimlo yng Nghymru mae Cranogwen yn pwsho fe 'mlaen drwy'r amser."

Gwrandewch ar Jane Aaron yn trafod hanes bywyd a gyrfa Cranogwen ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru am 17:00 prynhawn Sul 11 Mehefin

Cafodd fersiwn o'r erthygl yma ei chyhoeddi'n wreiddiol yn 2019

Hefyd o ddiddordeb: