Eifion Wyn Huws: Crwner yn galw am wella systemau cofnodi

  • Cyhoeddwyd
Eifion Huws

Mi fydd crwner yn cyhoeddi adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol yn dilyn marwolaeth dyn o Wynedd a wnaeth ladd ei hun y llynedd.

Clywodd cwest bod iechyd meddwl Eifion Wyn Huws wedi dirywio yn 2022 wrth iddo gael ei asesu a'i drin am ganser.

Clywodd y gwrandawiad yng Nghaernarfon nad oedd staff iechyd meddwl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gweld atgyferiad brys gan ei feddyg teulu yn yr wythnosau cyn ei farwolaeth, a bod oedi hir wedi bod cyn i wersi o'r achos gael eu rhannu gyda chydweithwyr.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cael cais am sylw.

Pryder am asesiadau canser

Roedd Mr Huws, 58, o Ddeiniolen, yn swyddog safonau masnach yn Ynys Môn, ac yn gerddor oedd wedi chwarae'r Corn Gwlad cyn seremonïau gwobrwyo yn yr Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd lawer.

Clywodd y cwest fod Mr Huws wedi bod yn bryderus cyn sganiau a chanlyniadau profion ar gyfer Lymffoma non-Hodgkin.

Arweiniodd y pryder at gyfnodau o hunan-niweidio ac ymdrechion blaenorol i ladd ei hun. Cafodd ei ddarganfod yn farw yn nhŷ ei ferch ar 10 Mehefin 2022.

Gan gofnodi casgliad o hunanladdiad, mi wnaeth yr uwch grwner Kate Sutherland fynegi pryder na fu system integredig o nodiadau cleifion, a olygodd na wnaeth atgyfeiriad brys gan feddyg teulu Mr Huws gyrraedd staff iechyd meddwl.

Ychwanegodd Ms Sutherland ei bod yn pryderu nad oedd ymchwiliad y bwrdd iechyd i'r achos wedi nodi hyn fel mater i'w wella.

Dweud 'drosodd a throsodd'

Roedd Ms Sutherland hefyd yn feirniadol o'r amser a gymerodd i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr orffen adroddiad yr ymchwiliad a dosbarthu'r darganfyddiadau.

Dywedodd: "Rydw i wedi mynegi pryderon sylweddol a chyhoeddi adroddiadau cryf am brydlondeb adroddiadau gan y bwrdd iechyd hwn... Rwy'n dweud hyn drosodd a throsodd."

Dywedodd y crwner y byddai'n cyhoeddi adroddiad Atal Marwolaethau yn y Dyfodol.

"Rwyf wedi codi'r mater [prydlondeb] o'r blaen, ond maent wedi ymwneud ag ymchwiliadau hŷn i farwolaethau yn 2020 a 2021. Bu farw Eifion Huws yn fwy diweddar na hynny.

"Ond er addewidion o welliannau gan y bwrdd iechyd rwy'n poeni fod cleifion yn cael eu gadael i lawr oherwydd yr amser mae'n ei gymryd i bwyntiau dysgu gael eu rhannu."

Gan alw am weithredu, dywedodd y crwner y byddai'n anfon copi o'i adroddiad i'r Gweinidog Iechyd.

"Os nad yw'r holl nodiadau wedi'u hintegreiddio, nid yw cleifion yn cael y lefel o ofal sydd ei angen arnynt."

Os ydy'r materion a drafodwyd yn yr erthygl yn peri pryder, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.