Cyhuddo cwmnïau ynni o fethu â throsglwyddo prisiau is
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion gwestai wedi cyhuddo cwmnïau ynni o fethu â throsglwyddo prisiau is i gwsmeriaid, gan roi busnesau mewn perygl.
Yn ôl Glenn Evans sy'n berchen gwesty ym Metws-y-coed mae'n talu 90c yr uned ar ei gytundeb 12 mis, tra bod prisiau eisoes wedi gostwng i 30c yr uned.
Ac mae Elyse Waddy o Landudno yn dweud ei bod yn wynebu talu £200,000 yn fwy pan fydd ei chytundeb sefydlog tair blynedd yn dod i ben ym mis Gorffennaf.
Mae corff masnach y diwydiant ynni yn dweud fod cyflenwyr yn prynu egni ymlaen llaw ac y bydd yn cymryd amser i'r newidiadau gyrraedd cwsmeriaid.
Dywedodd y rheoleiddiwr ynni Ofgem, sy'n cynnal adolygiad i'r farchnad annomestig, eu bod wedi ysgrifennu at gyflenwyr yn gofyn iddynt "ddangos hyblygrwydd" gyda busnesau sydd wedi'u cloi mewn contractau pris sefydlog ers i'r prisiau fod ar eu huchaf y llynedd.
'Sefyllfa heriol'
Roedd y prisiau trydan a gynigwyd i westy'r Royal Oak ym Metws-y-coed fis Hydref diwethaf yn "sioc i'r system", yn ôl y rheolwr Glenn Evans.
Roedd y busnes yn wynebu cynnydd o dros 400% yn ei filiau, ond gyda'r prisiau di-gontract hyd yn oed yn uwch, dywedodd Mr Evans ei fod yn teimlo bod ganddo "ddim opsiwn" ond cytuno i gytundeb 12 mis.
"Ar brisiau heddiw, mae'n siŵr y gallwn adnewyddu am lai na 30c yr uned, lle 'dan ni yn talu 90c yr uned," meddai Mr Evans.
"Mae eisiau i weinidogion y DU orchymyn cyflenwyr ynni i ganiatáu cwmnïau sydd wedi'u cloi mewn tariffau sefydlog i ail-negodi eu cytundebau.
"Rydym yn edrych i'r llywodraeth i gydnabod bod y farchnad yn dysfunctional, a rhyngddyn nhw ac Ofgem, eu bod yn caniatáu i ni gael mynediad at brisiau heddiw."
Byddai hynny'n gwneud "gwahaniaeth enfawr," meddai.
Dywedodd Mr Evans fod y sefyllfa yn "fwy heriol" nawr nag yn ystod y pandemig, ac wedi iddynt godi prisiau yn eu gwesty a chyflwyno mesurau arbed ynni, mae'n teimlo nad oes mwy y gallan nhw ei wneud.
"Mae ein cwsmeriaid angen dŵr cynnes, mae angen yr oergelloedd ymlaen. Allwn ni ddim torri 'nôl ar rannau o'r busnes."
Ym mis Ebrill fe wnaeth Llywodraeth y DU leihau eu cefnogaeth ynni i fusnesau.
Dywedodd Mr Evans ei fod yn teimlo fod busnesau wedi'u "gadael i lawr".
Prisiau'n dyblu a threblu
Mae Elyse Waddy, sy'n berchen ar westy'r Empire yn Llandudno, yn chwilio am gytundeb newydd am fod ei chytundeb sefydlog tair blynedd yn dod i ben ym mis Gorffennaf.
"Yn ôl pob sôn dwi'n un o'r rhai lwcus, ond mae pris fy nwy wedi treblu a fy nhrydan wedi dyblu," meddai.
Mae'n teimlo nad yw gostyngiadau mewn prisiau yn cael eu trosglwyddo i fusnesau yn ddigon cyflym.
"Maent yn mynd i fyny'n gyflym ac yn dod i lawr yn araf iawn," dywedodd.
"Dyw hi ddim yn hawdd ymrwymo i'r prisiau cynyddol, oherwydd i ni fe fyddai'n £200,000 yn ychwanegol.
"I lawer o fusnesau dyma'r ergyd olaf."
'Her enfawr' i fusnesau
Yr wythnos hon fe wnaeth AS Ceidwadol Aberconwy, Robin Millar, lansio ymgyrch yn y Senedd ar y mater, ynghyd ag ASau eraill a chyrff lletygarwch.
Mae Mr Millar cyhuddo cyflenwyr ynni o "ymddygiad gwrth-gystadleuol".
Dywedodd Energy UK, sy'n cynrychioli cwmnïau ynni, bod cyflenwyr yn gweithio gyda busnesau er mwyn gwella'r farchnad.
Dywedodd llefarydd: "Mae cyflenwyr eisiau sicrhau bod eu cwsmeriaid yn medru fforddio eu biliau ac mae rhai yn cynnig cymysgu ac ymestyn contractau presennol lle fo'n bosib.
"Mae'n bwysig ystyried, pan fo contractau wedi'u cytuno a'u harwyddo, mae ynni yn cael ei brynu ar gyfraddau'r farchnad, ar ran y cwsmer."
Dywedodd Ofgem eu bod yn cydnabod fod prisiau uchel cytundebau sefydlog nifer o fusnesau yn "profi'n her enfawr".
Ychwanegodd llefarydd: "Ni allwn ddadwneud cytundebau preifat fel rheoleiddiwr, ond rydym eisiau gweld atebion sy'n synhwyrol yn fasnachol, ac yn ddiweddar fe ysgrifennon ni at gyflenwyr yn gofyn iddynt ddangos hyblygrwydd, ac mi fyddwn yn parhau i roi pwysau ar gyflenwyr."
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod wedi rhoi "cefnogaeth ddigynsail" i fusnesau a'u bod mewn trafodaethau rheolaidd gyda Ofgem i sicrhau bod cwsmeriaid yn cael cytundebau teg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mai 2023
- Cyhoeddwyd15 Mai 2023
- Cyhoeddwyd6 Mai 2023