'Mae angen i ni gael ein stryd fawr yn ôl'
- Cyhoeddwyd
Dylai siopau y tu allan i drefi wynebu ffioedd ychwanegol er mwyn diogelu'r stryd fawr, yn ôl arweinydd un cyngor sir.
Daeth sylwadau Andrew Morgan, sy'n arwain Cyngor Rhondda Cynon Taf, ar ôl i ystadegau newydd ddangos bod un ym mhob chwe siop yng Nghymru'n wag yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn hon.
Dywedodd y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant manwerthu ym Mhrydain y byddai'r syniad yn creu "cost a chymhlethdod ychwanegol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n edrych ar "wneud pethau'n fwy cytbwys".
Ffigyrau'n dangos 'adferiad araf'
Yn ôl adroddiad newydd gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru roedd 16.5% o siopau'n wag yn ystod tri mis cyntaf 2023.
Ar draws Prydain, dim ond gogledd ddwyrain Lloegr oedd â chyfradd uwch o unedau manwerthu gwag yn ystod yr un cyfnod.
Mae'r ffigwr o'i gymharu â 16.3% yn ystod chwarter olaf 2022, a 15.9% yn ystod tri mis cyntaf 2020, cyn i'r pandemig daro.
"Mae'r ffigyrau yma'n tanlinellu'r adferiad araf yng ngraddfa siopau gwag Cymru," meddai pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru, Sara Jones.
"Mae sawl ffactor yn dal manwerthwyr a chwmnïau eraill nôl rhag symud i uned wag, gan gynnwys costau a llai o siopwyr o ganlyniad i weithio hybrid a siopa ar-lein," ychwanegodd.
A dydy'r heriau sy'n wynebu busnesau ddim wedi eu cyfyngu i ganol y dref, gyda mwy o unedau gwag ar barciau manwerthu hefyd.
Ond gyda chyfradd siopau gwag o 10.7%, mae'r broblem yn llawer llai iddyn nhw o'i gymharu â'r stryd fawr.
'Angen cael y stryd fawr yn ôl'
Mae Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf yn enghraifft o dref Gymreig sy'n frith o siopau gwag.
Yma mae perchnogion busnes yn dweud bod siopau ar gyrion y dref yn rhannol gyfrifol am yr heriau sy'n wynebu'r stryd fawr.
"Mae gan Aberdâr broblem benodol gyda siopau y tu allan i'r dref," meddai Jim Bradley, perchennog caffi Bradley's yng nghanol y dref.
"Mae hynny achos bod ganddyn nhw feysydd parcio am ddim ac mae pobl yn gallu siopa o dan do, ble yn Aberdâr mae'r meysydd parcio'n costio arian ac mae hynny'n darbwyllo pobl rhag dod i'r dref."
Mae Amanda Webber, sy'n rhedeg tri busnes ym marchnad Aberdâr, yn cytuno: "Mae pawb yn defnyddio'r archfarchnadoedd nawr felly mae'r siopau bach yna - y siop lysiau a ffrwythau, y cigydd - wedi mynd, a dyna oedd y stryd fawr yn arfer bod. Mae angen i ni gael hynna nôl."
'Cost a chymhlethdod ychwanegol'
Dywedodd y cyngor lleol eu bod wedi cyflwyno camau i gefnogi trefi'r sir gan gynnwys rhoi cefnogaeth ariannol ychwanegol i fusnesau a lleihau costau parcio.
Yn y cyfamser mae Arweinydd y Cyngor, Andrew Morgan, wedi awgrymu y gallai siopau ar gyrion trefi wynebu ffioedd ychwanegol i gefnogi siopau'r stryd fawr.
"Mae yna gwestiwn a ddylai busnesau y tu allan i ganol y dref dalu cyfraddau uwch neu, a oes treth o ryw fath i'w chodi ar eu llefydd parcio i greu incwm fyddai'n cael ei warchod i gefnogi'r stryd fawr," dywedodd mewn cyfweliad â rhaglen Politics Wales.
Byddai'r ffioedd ychwanegol yn fychan iawn i'r archfarchnadoedd, meddai, ond ar draws yr awdurdod lleol gallai'r mesur greu "rhai cannoedd o filoedd o bunnau" i'w wario ar gael mwy o bobl i siopa yng nghanol y dref.
Wrth ymateb i'r syniad dywedodd llefarydd ar ran Consortiwm Manwerthu Cymru y byddai'n creu "cost a chymhlethdod ychwanegol ar sector sy'n barod yn brwydro gydag argyfwng costau gwneud busnes".
Wrth gyhoeddi cynllun Llywodraeth Cymru i adfywio trefi, dolen allanol yn gynharach yr wythnos hon dywedodd y gweinidog newid hinsawdd Julie James, sydd hefyd yn gyfrifol am adfywio trefi: "Rydyn ni am i drefi ledled Cymru fod wrth wraidd cymunedau Cymru, yn fannau lle gall pobl gael mynediad at wasanaethau, siopau, gofod cymunedol a diwylliannol.
"Mae adfywio canol ein trefi yn gymhleth ond mi fydd hyn ond yn digwydd os oes gennym ddealltwriaeth ar y cyd o'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu.
"Mae'r rhain yn cynnwys y cynnydd mewn datblygiadau y tu allan i drefi sy'n golygu bod ceir preifat yn hanfodol, y twf mewn siopa ar-lein, a'r ffaith nad yw rhai gwasanaethau hanfodol bellach wrth law.
"Bwriad ein rhaglen Trawsnewid Trefi yw helpu i wrthdroi'r dirywiad yma, gyda £100m dros y tair blynedd nesaf i roi bywyd newydd i drefi ledled Cymru."
Wrth ymateb i awgrym y Cynghorydd Morgan, dywedodd Ms James wrth Politics Wales: "Rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni edrych ar wneud y system yn fwy cytbwys".
Gallwch wylio Politics Wales ar BBC1 am 10:00 ac ar BBC iPlayer
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2023