Ynni: 'Angen help ar gwmnïau i adnabod cwsmeriaid bregus'

  • Cyhoeddwyd
Rhiannon yn defnyddio ei mesurydd alu ymlaen llaw
Disgrifiad o’r llun,

Yn hanesyddol mae mesuryddion talu ymlaen llaw wedi bod yn ffynhonnell ynni ddrytach

Mae penaethiaid cwmnïau ynni wedi dweud wrth Aelodau'r Senedd fod angen mwy o gymorth arnyn nhw i adnabod cwsmeriaid bregus.

Roedd aelodau pwyllgor Senedd yn croesholi penaethiaid ddydd Llun ar ôl iddi ddod i'r amlwg eleni fod contractwyr ar ran y cwmnïau wedi bod yn gosod mesuryddion talu ymlaen llaw yn orfodol mewn cartrefi.

Mae aelodau'r Senedd wedi ei alw'n "sgandal cenedlaethol".

Ym mis Ebrill, cafodd y weithred o'u gosod yn orfodol mewn cartrefi lle mae pobl fregus yn byw ei wahardd.

Y Nadolig diwethaf fe gafodd Rhiannon Jones, sy'n byw gyda'i phartner a'i merch tair oed mewn tŷ rhent, gerdyn wrth ei mam oedd yn dweud: "Dyma £20 tuag at dy fil nwy."

Dywedodd Rhiannon, sy'n 35 ac o Ferthyr Tudful, fod yr arian wedi mynd i'w mesurydd talu ymlaen llaw er mwyn "coginio'r cinio, gallu defnyddio'r gwres drwy'r dydd, jyst i leddfu'r pwysau".

Er y byddai Rhiannon yn hoffi elwa o beidio cael mesurydd a thalu drwy ddebyd uniongyrchol yn lle, roedd wedi ei osod yn y tŷ yn barod, gyda'r landlord yn dweud y byddai'n rhy ddrud i'w newid.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhent Rhiannon a'i phartner yn £450 yng ngaeaf y llynedd, a'r biliau ynni misol yn costio £300

Mae'r teulu'n gorfod bod yn ofalus o ran cynhesu'r cartref, gan fod ysgyfaint eu merch fach, Melody, yn wan ar ôl cael ei geni â haint bronchiolitis.

"Fel pob rhiant, ry'ch chi wastad yn teimlo'r euogrwydd o 'ydy fy mhlentyn yn ddigon twym?'," dywedodd.

'Sgandal'

Fe ddechreuodd pwyllgor deisebau'r Senedd ymchwiliad ar ôl i ddeiseb gael ei gyflwyno'n gofyn i'w haelodau "graffu ar sgandal mesuryddion talu ymlaen llaw yng Nghymru".

Wrth agor yr ymchwiliad ddydd Llun, dywedodd y cadeirydd Jack Sargeant ei fod yn cytuno â'r disgrifiad ar ôl clywed am gwmnïau ynni yn gorfodi rhai i osod y mesuryddion.

"Mae'r hyn ry'n ni wedi ei weld dros y flwyddyn ddiwethaf yn ddim llai na sgandal cenedlaethol, fel y mae'r ddeiseb yn awgrymu," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd Neil Kenward o gorff rheoleiddio'r diwydiant ynni, Ofgem, yn rhoi tystiolaeth ddydd Llun.

Dywedodd fod y rheoleiddiwr wedi atgoffa cyflenwyr i orfodi gosod mesuryddion "lle mae'n ddiogel ac yn ymarferol rhesymol i wneud hynny".

Dan reolau newydd gafodd eu gosod fis Ebrill, mae'n rhaid i gwsmeriaid gael mwy o gyfle i glirio dyledion.

Mae Ofgem hefyd wedi gwahardd gosod mesuryddion yn orfodol mewn cartrefi lle mae'r bobl sy'n byw yno dros 85 oed.

Fe wnaeth y rheolau newydd siomi ymgyrchwyr oedd yn galw am waharddiad llwyr ar fesuryddion talu ymlaen llaw.

Wrth i Mr Kenward gael ei holi am gynlluniau Ofgem i wneud côd ymddygiad yn fater cyfreithiol, dywedodd: "Mae hynny'n sicr yn brif flaenoriaeth i ni.

"Fe ddylai hynny roi rhywfaint o sicrwydd. A galla i fod yn glir iawn y byddwn ni'n monitro'r diwydiant i wneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â'r côd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn hanesyddol mae mesuryddion talu ymlaen llaw wedi bod yn ffynhonnell ynni ddrytach.

Tra bod y rhai sydd â'r mesuryddion yn talu pris is am bob uned o drydan maen nhw'n ei ddefnyddio, maen nhw'n talu mwy am eu nwy, ac mae ganddyn nhw daliadau sefydlog uwch am yr holl ynni o'i gymharu â chwsmeriaid debyd uniongyrchol.

O fis Gorffennaf bydd mwy o daliadau mesuryddion talu ymlaen llaw yn cael eu cysoni â chwsmeriaid sy'n talu trwy ddebyd uniongyrchol.

Bydd y newid yn effeithio ar fwy na phedair miliwn o gartrefi yn y DU a fydd yn arbed £45 y flwyddyn ar eu biliau ynni.

'Pwy sy'n methu talu a phwy sy'n gwrthod?'

Dywedodd prif weithredwr Centrica, sy'n berchen ar British Gas, fod angen cofrestr cenedlaethol o bobl fregus.

"Mae'n anodd i ni wahaniaethu rhwng y rheiny sy'n methu talu, a'r rheiny sy'n gwrthod talu," dywedodd Chris O'Shea.

Dywedodd fod angen gwaith er mwyn deall "sut ry'n ni'n helpu'r rheiny sy'n methu talu".

Fe wrthododd yr awgrym fod y diwydiant wedi ei reoleiddio'n wael.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae tua 200,000 o gartrefi Cymru'n defnyddio mesuryddion talu ymlaen llaw ar gyfer eu nwy a thrydan, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae'n cynnwys tua chwarter holl denantiaid y sector breifat yng Nghymru, a bron i hanner tenantiaid tai cymdeithasol.

Dywedodd Andrew Ward, prif weithredwr busnes manwerthu Scottish Power, wrth aelodau'r Senedd mai cyfran fach o'r mesuryddion gafodd eu gosod yn orfodol, dan warant, yng Nghymru.

Dywedodd: "O'r 24,000 mesurydd a osodwyd gennym ledled y DU, roedd tua 5% o'n gwarantau yng Nghymru. Fe osodon ni 1,305 o fesuryddion talu ymlaen llaw yng Nghymru trwy warant.

"Canran fach iawn o gwsmeriaid sydd gennym ni, llai na 10%, sydd mewn gwirionedd yn talu dyled gyda'u mesuryddion talu ymlaen llaw."

Yn rhoi tystiolaeth gyda phrif weithredwyr y cwmni ynni oedd Darah Vyas o'r corff masnach Energy UK. Dywedodd fod y mesuryddion yn bwysig i rai cwsmeriaid.

"Mae talu ymlaen llaw yn chwarae rhan bwysig iawn i lawer o bobl sydd wedi eu gweld yn arf defnyddiol iawn yn y gorffennol i'w helpu i gyllidebu, i ddeall beth maen nhw'n ei dalu ac i reoli'r hyn maen nhw'n ei dalu," meddai.

Pynciau cysylltiedig