John Williams, Carno - 60 mlynedd tu ôl i'r un bar
- Cyhoeddwyd
Mae'r stori yma'n dechrau yn y flwyddyn pan ryddhawyd albwm gyntaf y Beatles, y flwyddyn pan gafodd JFK ei lofruddio, protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith ar bont Trefechan, a phan wnaeth Doctor Who ymddangos ar y teledu am y tro cyntaf.
Hefyd ym 1963, fe ddechreuodd John Williams dynnu peints.
60 mlynedd yn ddiweddarach mae'n dal wrthi, ac yn gwneud hynny tu ôl i'r un bar ym mhentref Carno ym Mhowys.
"Wnes i gychwyn gweithio fel barman, ac aeth ymlaen o fan'na. Roedd bar ar draws yr iard amser hynny, ond fan hyn 'dw i wedi bod o hyd," meddai.
"Yr un bar sy' wedi bod yma erioed, ac mae o wedi dal lot o gwrw, ond mae'r pymps wedi newid cwpl o weithiau.
"Gwahanol gwrw yn dod o hyd, ac awydd trio hwn a'r llall."
Tra bod John - a gafodd ei ben-blwydd yn 80 oed ym mis Mawrth - wedi bod yn gyson tu ôl i'r bar ers 1963, mae wedi gweld llawer o newidiadau dros y degawdau, gan gynnwys pris cwrw a'r dewis o ddiodydd.
"Doedd dim lager yn 1963. Roedd [cwrw] Ind Coope, Ansells, mild - cwrw tywyll oedd hwnnw - a Whitbread Tankard.
"Ar y pymp oedd y cyfan ac roedd dipyn o waith cadw fo amser 'ny.
"Real ale maen nhw'n galw fo rŵan, ond dyw hi ddim byd tebyg i beth oedd amser hynny.
"O'n i'n gorfod ventio fo a hwyrach byddai rhai bareli ddim yn barod am tua pythefnos!
"Ond rŵan maen nhw'n dod oddi ar y lori ac maen nhw straight on ac maen nhw'n dal i alw fo'n real ale. Ond 'dw i ddim meddwl bod o'n real ale."
Peint am 11 ceiniog
Ychwanegodd: "11 ceiniog oedd pris peint pan gychwynnais i, ac wedyn aeth i fyny i swllt ac roedd y spirits dipyn drytach.
"Doeddech chi ddim am fod mewn rownd efo boi oedd yn yfed wisgi, achos roedd yn ddrud. 'Dw i'n meddwl mai dau swllt a chwe cheiniog oedd wisgi."
Tŷ Brith yw enw tafarn John. O leia', dyna'r geiriau ar yr arwydd tu fas.
Ond i bobl leol, Clwb Carno yw enw'r lle, ac mae John yn cael ei alw yn JC neu Johnny Club gan y selogion.
Dechreuodd John fel aelod o staff y bar ond ef bellach sy'n berchen ar y clwb.
Y newid mwyaf mae John wedi ei weld yn y cwsmeriaid yw bod mwy o deuluoedd yn dod i'r clwb nawr.
"Amser cychwynnais i, dynion oedd y rhan fwya' [o gwsmeriaid]. Roedd y wraig yn aros adre gyda'r plant," meddai.
"Ond mae o wedi newid, yn enwedig yn y 10 mlynedd dwetha. Mae nos Wener fel family night out yma."
'Cwsmeriaid da a phrisiau isel'
Mae miloedd o dafarndai wedi cau ar draws Prydain yn y degawdau ers i John ddechrau tu ôl i'r bar.
Yn ôl dadansoddiad o ffigyrau Llywodraeth y Deyrnas Unedig bu bron i 400 o dafarndai gau yng Nghymru a Lloegr yn 2022 - 50 ohonyn nhw yng Nghymru.
Er gwaetha'r costau cynyddol, mae John wedi llwyddo i ddal ati ac mae'n dal i agor y bar bob dydd o'r wythnos.
Y gymuned leol gref sy'n gyfrifol am hynny, meddai.
"Cwsmeriaid da - dyna'r peth gorau dwi'n meddwl a 'da ni wedi bod yn trio cadw'r prisiau'n isel.
"Y trwbl mwyaf [i dafarndai eraill] yw bod nhw'n gorfod talu rhent ac yn gorfod codi prisiau cwrw, yn fwy na fi.
"Dwi'n dŷ rhydd ac felly yn gallu dewis beth dwi isie gwerthu."
'Cwmni da'
60 mlynedd ers dechrau ei yrfa, mae John yn dweud ei bod hi'n rhy hwyr nawr iddo newid i wneud unrhyw beth arall.
"Mae'n ffordd o fyw. Dwi'n mwynhau clywed straeon gan y cwsmeriaid, clywed beth maen nhw'n gwneud. Maen nhw'n gwmni da.
"Alla i ddim dychmygu gwneud unrhyw beth arall. Ddim gwerth cychwyn 'wan ar job arall!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2023