Rhybudd oren am stormydd i ogledd Cymru

  • Cyhoeddwyd
stormFfynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd

Fe fydd mwyafrif helaeth o Gymru'n cael stormydd a glaw trwm yn ystod y dydd tra bod y rhybudd tywydd yn parhau mewn grym.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud bod llifogydd a thrafferthion i deithwyr yn bosib ymhob sir oni bai am Ynys Môn - mae'r rhybudd melyn ar gyfer stormydd o daranau yn weithredol rhwng 12:00 a 21:00 ddydd Llun.

Daeth rhybudd pellach i rym nos Lun, gyda rhybudd oren am stormydd a glaw trwm ar gyfer y gogledd ddwyrain - siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint, rhannau o Bowys a Wrecsam.

Yn ôl yr arbenigwyr fe fydd bandiau o law trwm iawn yn symud yn araf ar draws y wlad, ac o ganlyniad fe allai dros 30mm o law syrthio o fewn awr mewn rhai mannau.

Fe all rhai mannau o fewn yr ardal rhybudd oren weld hyd at 60mm o law o fewn rhai oriau.

Roedd rhybudd melyn arall, am law trwm, mewn grym dros nos yn hanner deheuol Cymru ond daeth hwnnw i ben am 09:00.

Does dim adroddiadau hyd yn hyn o unrhyw drafferthion mawr yn yr ardal yna, ond fe wnaeth tywydd garw'r penwythnos achosi difrod i un o gapeli'r gogledd.

Ffynhonnell y llun, PROPERTY PHOTOGRAPHIX
Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion tân tu allan i Gapel Hebron, Rhewl wedi i storm achosi difrod

Fe gafodd croes capel Methodistaidd Hebron, ym mhentref Rhewl ger Llangollen yn Sir Ddinbych, ei tharo i lawr gan fellten nos Sadwrn.

Mae yna dwll mawr hefyd yn ochr yr adeilad 120 mlwydd oed, ac fe gafodd y rwbel ei wasgaru hyd at 130 troedfedd i ffwrdd.

Dywedodd y ffotograffydd Brad Beazley, sy'n byw ar fryn gyferbyn â'r capel, bod yna daranau di-baid am ryw dri chwarter awr cyn iddo weld mellten "frawychus" a chlywed sŵn "bang mawr".

Ffynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna dwll mawr yn ochr y capel wedi storm nos Sadwrn

Fe gollodd Mr Beazley ei gyflenwad trydan wedi'r fellten, ac roedd sŵn larymau ceir i'w clywed yn atseinio ar draws y dyffryn.

Erbyn iddo yrru i'r capel gyda'i fab roedd swyddogion tân eisoes wedi cyrraedd.

"Roedd y groes wedi ei tharo a'r ffenestri blaen ac roedd yna falurion tua 40 metr i ffwrdd," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Y capel cyn y storm

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod criwiau wedi cael mynediad i'r capel yn gyflym ac wedi cau'r ardal o'i gwmpas.

Mae'r gwasanaeth wedi rhybuddio trigolion lleol bod yr adeilad "yn anniogel iawn".

Pynciau cysylltiedig