Sir Fynwy: Arestio dyn, 65, yn dilyn ymgyrch chwilio

  • Cyhoeddwyd
Heddlu Tyndyrn

Mae dyn 65 oed wedi cael ei arestio yn dilyn ymgyrch i'w ganfod ddydd Llun.

Bu heddlu arfog yn chwilio am Anthony Manson, o dde Cymru, yn ardal Tyndyrn, Sir Fynwy wedi digwyddiad "difrifol".

Daeth rhybudd gan Heddlu Gwent na ddylai'r cyhoedd fynd yn agos ato.

Cafodd Anthony Manson ei arestio ar amheuaeth o gam-garcharu a threisio, ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd y Ditectif Steven Maloney: "Rydym yn diolch i bawb a wnaeth rannu ein hapêl a darparu gwybodaeth, yn ein cefnogi i ddod o hyd i Anthony."

Pynciau cysylltiedig