3 llun: Lluniau pwysicaf Ifan Jones Evans
- Cyhoeddwyd
Ifan Jones Evans, yn swyddogol, ydi cyflwynydd radio gorau'r flwyddyn, wedi iddo ennill y teitl yng Ngwobrau Cyfryngau Celtaidd 2023 yn Dungloe yn Iwerddon yn ddiweddar.
Mae wedi mynd ati i bendroni ac wedi rhannu ei luniau mwyaf arwyddocaol gyda ni:
Dyma'r bobl mwya' pwysig yn fy mywyd; fy ngwraig, Gwawr a'r plant bach sef Heti, Jos, Defi a Ned.
Ma'r cartref yn brysur iawn a lot o sŵn o fore gwyn tan nos ond ma' nhw werth y byd a braf yw medru magu teulu yng nghefn gwlad. Diolch i Lluniau Lleucu am ei hamynedd i dynnu'r llun yma rai misoedd nôl!
Stiwdio Radio Cymru yn Aberystwyth: Dwi wedi cal y fraint o ddarlledu o'r ystafell fach yma ers dros ddegawd bellach ac erbyn hyn yn treulio rhan fwyaf o'r wythnos mewn fan hyn.
Dwi mor lwcus fod stiwdio i gael yn y canolbarth a braf yw gweld y môr a'r dref tra'n mwydro ar y tonfeddi bob p'nawn.
Dyma un o fy hoff olygfeydd ar y fferm. Wedi tynnu y llun yma tra'n sefyll yn Banc y Mochyn gyda'r haul yn machlud tu ôl i Banc-y-fan, y cartref lle ces i fy magu yn y cwm, a'r cartref le dwi'n byw erbyn hyn yn amlwg yn y blaen.
Byth yn blino ar yr olygfa yma dim ots beth yw'r tywydd.
Gallwch wrando ar Ifan o 2-5pm bob dydd Llun i Iau ar BBC Radio Cymru
Hefyd o ddiddordeb: