Tri llun: Ellis Lloyd Jones

  • Cyhoeddwyd
Ellis Lloyd JonesFfynhonnell y llun, Ellis Lloyd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ellis Lloyd Jones

Y cyflwynydd a'r dylanwadwr Tiktok Ellis Lloyd Jones sy'n dewis tri llun sy'n agos at ei galon.

Disgrifiad o’r llun,

Ellis o flaen adeilad y BBC ym Mangor

Dyma lun ohona i tu fas i adeilad y BBC ym Mangor! Nôl yn ystod yr Eisteddfod Urdd yn 2021 nes i a Mirain Iwerydd gyd-gyflwyno rhaglen radio o'r enw Mirain, Ellis a T. Odd e'n brofiad anhygoel i gael cyflwyno ar y radio a hefyd gwneud e gyda Mirain. Fi a Mirain wedi aros yn ffrindiau ers recordio'r rhaglen.

Dwi'n surprised bod ni'n dau ddim wedi cael digon o'n gilydd! Dwi mor falch o Mirain am faint ma' hi wedi cyflawni ers y rhaglen! Mae hi'n seren!

A fi, byddech chi'n falch o glywed, wedi cael gwared o'r siaced afiach 'ma!

Ffynhonnell y llun, Ellis Lloyd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ellis gyda'i rieni ar ei ddiwrnod graddio

Dyma lun ohona i a fy rhieni. Dyma oedd fy niwrnod graddio o brifysgol Caerdydd. Roedd yn ddiwrnod gwych, ac o'dd yn deimlad lush i weld Mam a Dad yn gweld be wnes i gyflawni ar ôl 3 blynedd o astudio…. a mynd mas ar y sesh! O'dd y diwrnod 'ma yn un rili emosiynol.

Ma' fy ffrindiau yn dal i'n atgoffa fi am y diwrnod pryd nes i ddweud bod fi mynd i droppo mas o'r brifysgol. Mor falch nes i ddim! Achos fi'n edrych yn stunning mewn cap and gown!

Ffynhonnell y llun, Ellis Lloyd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Priya Hall a Catrin Feelings (persona Drag Ellis)

Dyma hi, y superstar ei hun a Priya Hall! Dyma fy mhersona Drag, Catrin Feelings.

Ma' hwn yn lun o un o fy gigs diweddara, Chwarae'r Chwedlau, nes i yng Nghanolfan y Mileniwm gyda'r Queer Emporium. Yn y perfformiad nes i adrodd stori Blodeuwedd trwy lygaid Blodeuwedd.

Ges i lot o hwyl yn paratoi fy set. O drefnu sut bydd y wisg yn edrych i recordio backing vocals ar gyfer y trac. Dyma o'dd y gig cyntaf i fy nhad ddod iddo.

O'n i mor nerfus i glywed beth odd e'n meddwl am y sioe. Ond nath e rili fwynhau! Dad yw #1 fan Catrin Feelings!

Dyma o'dd un o fy proudest moments yn fy nhaith drag! Ma' Catrin yn rhan masif ohona i ac roedd cael perfformio yng Nghanolfan y Mileniwm fel Catrin yn llwyddiant enfawr i fi.

On i'n edrych yn ffit fyd, chware teg!

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig