Tri Llun: Jennifer Jones

  • Cyhoeddwyd

Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?

Dyma oedd y cwestiwn ofynnodd Cymru Fyw i Jennifer Jones, cyflwynydd newyddion a radio BBC Cymru. Dyma oedd dewisiadau Jennifer.

Ffynhonnell y llun, Jennifer Jones

Dyma un o fy hoff luniau ohono i a fy chwaer hŷn, Alison. Roedden ni'n byw ar y pryd mewn fflat uwchben deintyddfa fy nhad ar Ffordd Y Coleg ym Mangor. 'Da ni wedi bod yn ffrindiau agos erioed ac mae pobl wedi gofyn ar hyd y blynyddoedd os ydyn ni'n efeilliaid (sy'n hynod o annoying gan fy mod i ddwy flynedd a hanner yn fengach!)

Llun sy'n dod ag atgofion o blentyndod a bywyd teuluol hynod o hapus ac sy'n gwneud i mi wenu.

Digwydd bod, fi oedd yn cyflwyno'r rhaglen Wales Today olaf o'r ganolfan ddarlledu yn Llandaf ym mis Medi 2020 - tynnwyd y llun yma yn syth ar ôl y rhaglen. Diwedd cyfnod! (Trwy gyd-ddigwyddiad mi gefais i gyflwyno'r rhaglen nosweithiol gyntaf o'r ganolfan newydd yn Sgwâr Canolog hefyd.)

Mi roedd hi'n fraint cael gweithio ar rhaglenni Newyddion S4C a BBC Wales Today yn stiwdio 'C2' ac mae'n rhyfedd meddwl bod yr adeilad wedi dymchwel erbyn hyn, ond mi roedd hi'n gyfnod hapus iawn.

Ffynhonnell y llun, Jennifer Jones

Tynnwyd y llun yma yn fuan ar ôl i Gymru guro Wcrain i ennill eu lle yng Nghwpan y byd ym mis Mehefin. Mi rydym ni fel teulu'n aelodau o'r wal goch ac wedi gweld holl gemau cartref Cymru ers 2016... fel da chi'n gweld mi roedden ni gyd yn hapus iawn! I fi mae pêl-droed yn rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau fel teulu - edrych ymlaen rwan at yr ymgyrch nesaf!

Hefyd o ddiddordeb: