Idris y labradoodle yn codi gwên yn hosbis Tŷ Hafan

  • Cyhoeddwyd
IdrisFfynhonnell y llun, Louise Franklin

"Yn Tŷ Hafan mae pob munud yn cyfrif ac mae cael y ci yno yn pwysleisio'r ffaith fod popeth ar gael er mwyn byw dy ddiwrnod i'r eithaf."

Un ymwelydd cyson â Thŷ Hafan yw Idris y labradoodle, sy'n ystyried yr hosbis i blant ger Bari yn ail gartref erbyn hyn.

Mae Idris yn gi therapi sy'n ffrind ac yn gysur i blant a phobl ifanc yr hosbis, fel mae ei berchennog Louise Franklin yn ei esbonio: "Mae Tŷ Hafan yn deulu a phan maen nhw'n croesawu teuluoedd yma maen nhw'n croesawu nhw mewn i deulu mwy - mae Idris yn rhan o hynny ac yn gwneud i'r lle i deimlo mwy fel cartref."

Greddf

Mae Idris yn ymateb yn reddfol i anghenion y plant yno, meddai Louise: "Mae Idris yn gi greddfol iawn sy'n addasu i beth bynnag mae'r plentyn angen. Pan fo'r plentyn yn fach maen nhw'n hoffi teimlad ei got mwy na dim.

"Yn aml mae plant gydag anghenion dwys yn hoffi teimlo ei glustiau yn arbennig - weithiau ni'n mwytho eu coesau a'u breichiau nhw gyda'i glustiau ac mae hynny'n llonyddu'r plentyn.

Disgrifiad,

Wythnos Hosbis Plant: Mae Idris yn un o ddau o gŵn sy'n ymweld â Thŷ Hafan bob wythnos

Cysur

"Roedd rhaid i un o'r plant yn eu harddegau yma gael sgwrs anodd gyda'r doctor ac roedd hi eisiau Idris yno fel cysur.

"Cyn gynted â ddaeth y doctor i'r stafell aeth Idris i safle amddiffyn drwy eistedd yn syth i fyny o'i blaen hi i'w gwarchod gan fod e'n gwybod fod hi'n teimlo'n anghyfforddus. Unwaith i'r sgwrs orffen gorweddodd e wrth ei hymyl hi a chwtsho gyda hi eto.

"Mae beth mae Idris yn gwneud yn amrywio'n fawr - weithiau mae'n gorwedd ar bean bag gyda phlentyn anabl iawn a thro arall fydd e'n rhedeg o gwmpas tu allan gydag un o'r brodyr neu'r chwiorydd sy' jest eisiau gwneud rhywbeth normal.

Adborth

"Yr hyn ni'n clywed amlaf yw ei fod yn bresenoldeb sy'n tawelu ac yn cysuro. Mae jest yn gi cariadus iawn sy'n lledu'r teimlad 'na o dawelwch a lles ni gyd angen ond yn arbennig mewn cyfnod o straen a trawma."

Mae Idris yn dod i Dŷ Hafan bob yn ail wythnos, ac mae ci arall, Bella, yn ymweld â'r plant pan nad yw Idris yno. Mae'r cŵn yn mynd i digwyddiadau'r hosbis hefyd, gan gynnwys dawns diweddar oedd yn gyfle i Idris wisgo ei tuxedo.

Ffynhonnell y llun, Louise Franklin
Disgrifiad o’r llun,

Idris yn ei ddillad gorau, yn barod am y ddawns

Er mwyn bod yn gi therapi mae ci yn cael ei asesu, yn bennaf am ei bersonoliaeth. Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn gŵn sy'n hoffi pobl ac sy'n mwynhau bod gyda phobl.

Ac yn ôl Louise, mae'n bwysig iawn fod cyswllt cryf rhwng y ci a'r perchennog: "Mae'n rhaid i ti fod yn gallu ymddiried yn y ci yn llwyr ac mae'n rhaid i'r ci ymddiried ynddo ti i'w gadw yn ddiogel. Mae Idris yn checkio mewn gyda fi unwaith bob munud i wneud yn siŵr fod popeth yn iawn."

Mae Louise ac Idris yn gweithio i elusen Therapi Anifeiliaid Cariad sy' wedi'i leoli yn Sir Benfro ond yn gweithio ar draws Cymru mewn ysgolion a lleoliadau iechyd o ysbytai i gartrefi gofal. Mae ganddynt dros 90 o dimau cŵn therapi ledled Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Louise ac Idris gyda Halle a'i theulu

Mae ymweld â Thŷ Hafan yn ran bwysig iawn o fywyd Louise erbyn hyn: "Ro'wn i'n disgwyl iddo fod yn straen emosiynol (i ddod yma) ac mae yn anodd pan fyddwn ni'n colli plant ond byddwn i'n dweud fod Tŷ Hafan yn lle sy'n cyfoethogi bywyd.

"Mae'n lle anhygoel ac mae'n gwneud ichi werthfawrogi bob dydd a phopeth.

"Dwi'n falch iawn bod gweithio gyda chi therapi wedi dod â fi i'r amgylchedd yma."

Lles y ci sy'n dod gyntaf felly dyw Idris ddim yn gweithio'n hirach na 90 munud - ond, fel mae Louise yn ei ddweud: "Dyw Idris ddim yn gweld Tŷ Hafan fel gwaith! Bydde fe'n aros yma drwy'r dydd yn ddigon hapus - mae fel cartref ac mae'n ymlacio'n llwyr yma. Dwi'n gorfod ei lusgo adref!"

Ffynhonnell y llun, Louise Franklin
Disgrifiad o’r llun,

Idris a Halle

Un sy' wedi mwynhau sesiynau gyda Idris yw Halle Haigh-Howells o Rhiwbeina, Caerdydd, sy'n 16 mis oed ac yn disgwyl diagnosis am ei chyflwr.

Meddai ei mam, Jerry Haigh: "Cyn gynted ag y mae hi'n dechrau teimlo Idris mae hi'n ymlacio - mae ganddi rywbeth i'w wneud ac mae'r rhyngweithio o fudd mawr iddi.

"Mae hi wir yn hoffi cydio ac mae Idris yn ymateb yn ôl iddi hi hefyd.

"Nes i ni gael Halle do'n i ddim wedi sylweddoli fod y fath beth â chi therapi ac mae'n gymaint o help.

"Mae hwn yn le hapus a diogel ac yn gyfle i gyfarfod rhieni eraill a rhannu beth sy'n poeni chi. Mae 'na grŵp mamau a grŵp tadau - chi'n gallu sgwrsio am eich profiad chi achos nid yw pawb yn deall. Nifer fach o bobl sydd yn y sefyllfa yma."

Disgrifiad o’r llun,

Halle a'i rhieni yn Tŷ Hafan

Cymorth i staff

Mae Idris hefyd yn cael croeso mawr gan staff Tŷ Hafan, fel mae Katie Simmons, aelod o staff yr hosbis, yn ei ddweud: "Mae staff a'r teuluoedd yn ymwybodol fod y ci gyda ni i gyffwrdd, i gysuro, i swmddio ac mae e jest yn codi gwên bob tro ni'n gweld y ci yn dod.

"Mae'r plant sy'n dod yma gyda phob math o anghenion meddygol dwys felly maen nhw'n gweld Idris fel rhyw fath o gysur - mae'n rhywbeth synhwyraidd iawn. Mae e'n hoffi gorwedd gyda'r plant er mwyn iddi nhw wybod fod rhywun gyda nhw.

"Os ydy e'n gweld fod plentyn yn teimlo'n gysglyd neu'n grac am rhywbeth mae Idris yn gwybod sut i ymateb i'r plentyn - drwy orwedd ar bwys nhw, cyffwrdd nhw, rhoi pawen allan - unrhyw beth i drio cysuro'r plentyn yma.

"Mae'r plant yma'n cael eu gofalu amdanynt gan y nyrsys a'r doctoriaid - iddyn nhw mae e fel newid y rôl fel bod nhw'n cael gofalu am y ci yn lle bod rhywun yn gofalu amdanyn nhw sy'n dod â phob math o sgiliau o ran hyder, pleser, cefnogaeth - i helpu nhw yn eu bywyd ac i deimlo fel bod nhw'n gallu rhoi rhywbeth nôl.

"I'r plant sy'n dod i aros yn yr hosbis sy' ag anifail anwes adre, mae gweld Idris yn codi ysbryd y plentyn fod anifail gyda nhw fan hyn yn yr hosbis i ddangos yr un fath o gariad tuag at.

"Mae'n dod â theimlad hapus iawn i'r teuluoedd ac i'r plant yn enwedig.

"Mae Idris a Bella yn rhan hanfodol o'n teulu ni yma yn Tŷ Hafan. Unwaith maen nhw yn yr adeilad maen nhw'n codi gwên."

Pynciau cysylltiedig