Liam Williams yn symud i Kubota Spears yn Japan

  • Cyhoeddwyd
Liam WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Liam Williams yn gobeithio cystadlu yng Nghwpan y Byd am y trydydd tro

Mae cefnwr Cymru Liam Williams wedi cadarnhau y bydd yn chwarae i glwb Kubota Spears yn Japan y tymor nesa.

Torrodd y newyddion y bydd y chwaraewr, sydd wedi ennill 84 o gapiau rhyngwladol, yn gadel Caerdydd yr wythnos diwethaf ond doedd yna ddim cadarnhad am enw'r clwb newydd.

Er bod Williams ond hanner ffordd trwy gytundeb dwy flynedd, mae Caerdydd yn awyddus i leihau eu bil cyflogau wrth wynebu toriad cyllideb o £2m ar gyfer y tymor nesaf.

"Rwy'n hapus dros ben i arwyddo i Jubota Spears ar gyfer y tymor nesaf," meddai Williams ar sianeli cymdeithasol y clwb.

"Mae gennyf atgofion hapus o chwarae yn Japan yn ystod Cwpan y Byd 2019. Anghofia i byth pa mor groesawgar oedd pawb."

Prawf meddygol

Roedd cytundeb newydd Williams gyda'r clwb o Japan yn dibynnu ar brawf meddygol trylwyr oherwydd hanes hir o anafiadau i'r cefnwr.

Bydd Williams, 32, yn cael ymuno â'r clwb wedi Cwpan y Byd os bydd yn cael ei ddewis ar gyfer y gystadleuaeth.

Williams yw'r chwaraewr rhyngwladol diweddaraf i adael rygbi rhanbarthol yng Nghymru.

Bydd Joe Hawkins (Caerwysg), Cory Hill (Japan), Rhys Webb (Biarritz), Tom Francis (Provence), Ross Moriarty (Brive), Will Rowlands (Racing 92) a Dillon Lewis (Harlequins) yn chwarae i dimau y tu allan i Gymru y tymor nesaf.

Mae Leigh Halfpenny, Gareth Anscombe a Rhys Patchell hefyd yn wynebu dyfodol ansicr ar ôl cael eu rhyddhau gan eu timau rhanbarthol.