Ymddiheuriad S4C i Sage Todz am 'gamgymeriad difrifol'
- Cyhoeddwyd

Mae S4C wedi ymddiheuro am "gamgymeriad difrifol" ar un o'i rhaglenni a ddangosodd lun o rapiwr anghywir wrth gyfeirio at yr artist Sage Todz.
Ar Twitter, fe wnaeth Sage Todz rannu fideo o raglen Prynhawn Da gyda'r cyflwynwyr yn cyfeirio at y rapiwr wrth ddangos llun o rapiwr arall o Gaerdydd, Mace the Great.
Yn ei neges, dywedodd Todz bod "rhaid gwneud yn well na hyn", gan ychwanegu nad yw'n edrych "dim byd fel Mace the Great, a'i fod "ond yn y stiwdio yr wythnos ddiwethaf".
Wrth ymateb ar Twitter, mae S4C wedi ymddiheuro am y "camgymeriad difrifol".
Ychwanegodd y neges: "Rydym yn cytuno nad yw hyn yn ddigon da ac yn cydnabod bod angen inni wneud yn well.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Mae gennym y parch mwyaf tuag atat fel artist ac unigolyn."
Mae'r camgymeriad wedi denu anfodlonrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, gydag un yn dweud ei fod yn "chwerthinllyd", ac un arall yn ei alw "y tu hwnt i embaras".
Ychwanegodd datganiad pellach gan Swyddfa'r Wasg S4C eu bod yn "hynod siomedig" gyda'r digwyddiad ac "wedi trafod camau gyda'r cwmni cynhyrchu i sicrhau na fydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023