GIG Cymru: Rhestrau aros yn cynyddu am yr ail fis
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth nifer y bobl ar restrau aros gynyddu 6,000 ym mis Ebrill - yr ail gynnydd misol, wedi i ffigyrau ddechrau dangos arwyddion o welliant.
Bellach mae ychydig dros 743,300 o lwybrau cleifion ar agor - gan y gall un person fod ar fwy nag un rhestr, mae hynny'n cyfateb i tua 582,000 o gleifion unigol.
Dywedodd prif weithredwr GIG Cymru, Judith Paget ei bod yn "siomedig gweld y rhestr aros gyffredinol yn cynyddu am yr ail fis".
Mae dau darged Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r amseroedd aros heb eu cyrraedd o hyd.
Eithrio miloedd
Y nod oedd cael neb yn aros dros ddwy flynedd "yn y rhan fwyaf o arbenigeddau", er nad yw hynny'n cynnwys miloedd o bobl sy'n aros mewn meysydd fel orthopaedeg, gynaecoleg a dermatoleg.
Mae cyfanswm o tua 31,500 yn aros dros ddwy flynedd, ond hyd yn oed heb y saith maes arbenigol "hynod o heriol", mae o hyd 4,500 o bobl sy'n aros hiraf.
Yn yr un modd, ni chyflawnwyd y targed o beidio â chael pobl i aros dros flwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf.
Gostyngodd i tua 52,800, ond nid yw wedi cael ei ddileu.
Mewn gofal brys, mae amseroedd ymateb ambiwlansys yng Nghymru ar eu gorau ers mis Mai y llynedd, er mai dim ond ychydig dros hanner y galwadau mwyaf brys sy'n cael ymateb o fewn y targed o wyth munud.
Fe welodd adrannau brys ysbytai yr ail nifer uchaf o ymweliadau dyddiol, yn ôl y ffigyrau.
Mae yna ddarlun cymysg i'r rhai sy'n aros pan fyddant yn cyrraedd hefyd - roedd perfformiad yn erbyn y targed pedair awr o aros yn well na'r mis blaenorol, ond wedi gwaethygu ar gyfer y targed aros o 12 awr.
'Siomedig'
Wrth ymateb, dywedodd prif weithredwr GIG Cymru, Judith Paget: "Mae'n siomedig gweld y rhestr aros gyffredinol yn cynyddu am yr ail fis, ar ôl lleihau am bum mis yn olynol.
"Ond gwelwyd lleihad yn y nifer sy'n aros mwy na dwy flynedd am y trydydd mis ar ddeg yn olynol, ac mae'r gweinidog iechyd wedi gofyn i fyrddau iechyd ganolbwyntio eu hymdrechion ar y rhai sy'n aros hiraf.
"Rhaid edrych ar hyn yng nghyd-destun y galw cyson uchel, gyda chynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau ers pandemig Covid-19."
Ychwanegodd: "Rwy'n falch o weld gwelliant parhaus mewn amseroedd ymateb ambiwlansiau - y gorau mewn blwyddyn - a gwelliant pellach ym mherfformiad yr adrannau argyfwng er y pwysau cyson sydd arnynt.
"Roedd y nifer cyfartalog o dderbyniadau i leoliadau gofal argyfwng yr ail uchaf erioed ym mis Mai, gyda bron i 100,000 o dderbyniadau, ond roedd perfformiad wedi gwella o'i gymharu â'r targed o bedair awr.
"Y cyfartaledd amser (canolrifol) a dreuliwyd mewn adrannau argyfwng oedd ychydig dros ddwy awr 30 munud fis diwethaf."
Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Russell George: "Mae GIG Cymru sy'n cael ei redeg gan Lafur mewn sefyllfa enbyd, ac mae unrhyw gynnydd y gallai'r gweinidog iechyd Llafur fod wedi hawlio wedi dod i stop syfrdanol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023