'Angen ymchwiliad heddlu' i Betsi, medd Ysgrifennydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
David TC DaviesFfynhonnell y llun, Llywodraeth y DU
Disgrifiad o’r llun,

David TC Davies: 'Materion y dylai'r heddlu fod yn ymchwilio iddynt'

Dylai'r heddlu ymchwilio i'r honiadau yn yr adroddiad deifiol am gyllid bwrdd iechyd y gogledd, meddai Ysgrifennydd Cymru.

Mae ymchwiliad cwmni EY wedi dweud fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi camgofnodi gwariant o filiynau o bunnau.

Dywedodd David TC Davies ei fod yn "gwbl" gefnogol i'r galwadau am ymchwiliad gan yr heddlu gan eu bod "yn faterion y dylai'r heddlu fod yn ymchwilio iddynt".

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud y byddan nhw'n "gwneud asesiad" i weld a ddylid ymchwilio i honiadau'r adroddiad.

Mae'r bwrdd iechyd ei hun wedi datgan ei fod yn delio â'r materion a godwyd gan yr adroddiad.

Mae adroddiad cwmni EY, sydd wedi'i weld gan y BBC, yn dweud fod swyddogion cyllid y bwrdd wedi gwneud cofnodion anghywir bwriadol yn y cyfrifon.

Dywedodd cyfrifwyr fforensig fod y bwrdd iechyd wedi cofnodi trafodion yng nghyfrifon 2021-22 yn ymwneud â gwaith nad oedd contractwyr wedi'i wneud eto, neu offer meddygol na chyrhaeddodd tan fisoedd wedyn.

Cafodd ymchwiliad twyll troseddol i'r mater ei ollwng yn gynharach eleni, er bod adolygiad mewnol o'r hyn a ddigwyddodd yn parhau.

Wrth ymddangos ger bron Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan ddydd Mercher, gofynnodd AS Ynys Môn Virginia Crosbie i Mr Davies a fyddai yn cefnogi "yr heddlu i gynnal asesiad manwl o'r achos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?"

"Yn hollol, wrth gwrs," atebodd.

"Mae 'na honiadau wedi bod yn adroddiad EY, sydd wedi cael cryn gyhoeddusrwydd yn y wasg, a dwi'n meddwl bod yna faterion y dylai'r heddlu fod yn ymchwilio iddyn nhw."

Mae Mr Davies wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan yn "mynegi pryder sylweddol" ynglŷn â chynnwys yr adroddiad gan EY.

Mae e, y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd a Phlaid Cymru, am weld y canfyddiadau yn gyhoeddus.

Yn ei lythyr dywedodd Mr Davies fod yna "bryder sylweddol o fewn cymunedau yn y gogledd" ar ôl i'r adroddiad ganfod bod "camreoli arian cyhoeddus yn eang o fewn y bwrdd".

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y bwrdd iechyd yn "datblygu materion a godwyd yn adroddiad Ernst & Young yn unol â'i weithdrefnau a'i bolisïau".

"Mae hyn yn dilyn casgliad ymchwiliad Atal Twyll GIG Cymru yn ymwneud â barn yr Archwilydd Cyffredinol ar gyfrifon ariannol 2021-22 y bwrdd iechyd.

"Nid ydym yn gwneud sylwadau ar ddogfennau a ddatgelwyd, yn enwedig pan, fel yn yr achos hwn, mae gweithdrefnau mewnol yn dal i fynd rhagddynt."