Be 'di'r enw?
- Cyhoeddwyd
Enirethac, Bera, Huana, Ilir, Arddun, Odo, Telaid, Saer... ydach chi'n adnabod rhain? Neu ydyn nhw'n swnio'n ddieithr i chi?
Dyma ambell enw ddaeth i sylw y gyflwynwraig Anni Llŷn wrth iddi geisio casglu rhai o enwau anghyffredin Cymru.
Ond nid yr enwau yn unig sy'n anghyffredin, daeth straeon digon difyr i law a phrosesau digon rhyfedd.
Yma, mae Anni'n trafod ambell i enw unigryw a'r hanesion hyfryd sydd tu ôl i ddewis enw.
'Largo, enw sy'n rhan o lên gwerin Llŷn erbyn hyn'
Mae hi'n dipyn o fraint cael enwi unrhyw beth, boed yn gath neu'n garafan, yn fynydd neu'n dŷ bach. Mae'r angen i enwi yn brawf ei fod yn rhywbeth gwerth chweil ac yn rhywbeth a fydd yn annwyl i chi am byth. Un o'r breintiau mwyaf yn hyn o beth, os nad y mwyaf un, yw enwi person.
Mae 'na dri o blant yn tŷ ni bellch. Martha Crug, Eigra Gwen a Largo Dafydd. Er chwithdod mawr i sawl un, 'Crug' yn hytrach na 'Grug' yw ail enw Martha. 'Crug' yn yr ystyr 'bryncyn' neu 'gopa bach'.
Mae'n rhan o enw fy nghartref i, Crugeran, ac mae Crug Iwan yn fan sydd dafliad carreg o gartref Tudur, y gŵr, lle y byddwn yn mynd yno am dro i weld golygfa eang o Fannau Brycheiniog, draw tua'r Gŵyr ac at y Preseli. 'Crug' felly yn clymu'r ddau gartref i'w henw. Daeth Gwen fel ail enw i Eigra am mai Gwen oedd enw fy nain, Gwen Muriau, Tudweiliog.
Ac yna Largo, enw sy'n rhan o lên gwerin Llŷn erbyn hyn, diolch i Baled Largo gan Cynan. Dafydd wedyn, yn ail enw teuluol ar ochr Tudur. Dyna sut y daeth y cyfan i fod ganddon ni.
Mae'n wir dweud fod Eigra wedi bod yn ddigon anghyffredin gyda'r teulu yng nghyfraith draw yn Sir Gâr, ond Largo sydd wedi peri'r syndod mwyaf i bawb.
Beth sy'n ddifyr ydi y bydd Largo, mae'n debyg, yn dechrau'r ysgol uwchradd gyda Bedo, Llelo a Nico. Dyna i chi giang bach o hogiau Pen Llŷn gydag enwau go anghyffredin.
A dyna fachyn oedd yn ddigon i ennyn chwilfrydedd. Ydi'r enwau yma'n anghyffredin? Ydan ni'n deisyfu rhoi enw "gwahanol" ar ein plant am rhyw reswm? Beth ydi'r dynfa at yr enwau yr ydan ni'n ddewis tybed?
Cenedl sy'n gwirioni ar enwau
Fel y dywedais, braint yn sicr yw enwi un bach, a chyfrifoldeb go swmpus hefyd! Ond dwi'n amau ein bod ni'r Cymry yn mwynhau'r cyfrifoldeb, yn mwynhau'r cyfle i fod yn greadigol efallai.
Mae'n rhan o'n hanian ni, o'n gwreiddiau ni. Nid oes ond angen pori drwy chwedlau'r Mabinogion i sylweddoli hynny. Ac i sylweddoli ein bod, yn fwy na dim, yn mwynhau rhannu'r straeon tu ôl i'r enwau.
Hanes enwi Lleu Llaw Gyffes yw'r enwocaf o bosib, mae'n werth i chi fynd i atgoffa'ch hunan o'r stori honno... Ond o'r ymateb yr ydw i wedi gael wrth ymholi, mi allai fentro dweud ein bod ni'n genedl sy'n gwirioni ar enwi.
Wrth ddechrau hel meddyliau rhoddais gais ar Facebook ar grŵp Rhwydwaith Menywod Cymru. Holi am enwau anghyffredin ar bobl, ac am y broses o ddewis enw ac unrhyw straeon difyr ynghlwm â hynny.
Daeth yr ymateb yn syth, yn eu degau nes fod yno dros ddau gant o ymatebion mewn chwinciad a finna'n methu stopio eu darllen!
Bum wrth fy ffôn am dair noson solat. Roedd yna gasgliad helaeth o enwau rhyfeddol, straeon difyr ac yn fwy na hynny, sgyrsiau eraill yn tanio, tipyn o helachau a gwneud cysylltiadau.
Wedi i mi wirioni ar yr ymateb, daeth yn amser i geisio rhoi trefn a chwmpasu'r cyfan. Does dim lle yma i fedru sôn am pob un ddaeth i law gwaetha'r modd, ond roedd hi'n amlwg fod yna gategorïau y gallwn ddefnyddio i ddidoli.
Rhian Cadwaladr yn cofio ei Nain, Beneth Maglona
Un o'r enwau cyntaf ddaeth oedd Beneth Maglona gan Rhian Cadwaladr, enw ei nain. Chlywais erioed mo'r enw o'r blaen. Enw beiblaidd ydi Beneth ac mae'n debyg mai hen enw ar Fachynlleth ydi Maglona.
Ond yn yr achos yma, gan nad oedd cysylltiad â Machynlleth roedd Rhian yn meddwl fod rhywun o'r teulu wedi morio ar long o'r enw Maglona, ac wedi hoffi'r enw o hynny.
Hen draddodiad: Gweinidog neu'r Ficer yn enwi'r plentyn
Daeth toreth o enwau beiblaidd yng nghanol y sylwadau wedi hynny, ond fy ffefryn oedd Hephzibah. Nid oherwydd yr enw ond oherwydd y stori. Meira Evans anfonodd y neges am ei theulu.
Roedd saith o blant ac enwau digon del yn siwtio'u gilydd i'r dim... Twm, Nel, Mair, Wil, John, Now... nes daeth y seithfed. Gofynnodd y Ficer am gael enwi'r seithfed a rhoddodd Hephzibah ar y fechan.
O'u hadrodd gyda'i gilydd mae enw'r plentyn ieuengaf yn cosi, yn tydi? Roedd yn arferiad yr adeg honno, mae'n debyg, i'r Gweinidog neu'r Ficer gael enwi plentyn.
Mae gennym ni feiblau eraill yng Nghymru sef ein llawysgrifau sy'n adrodd yr hen chwedlau ac achau. Roedd sawl enw'n codi o'r cae hwnnw, a balchder amlwg gan bobl yn datgan yr hen enwau Cymraeg ar eu perthnasau. Adwen, Manawydan, Arthfael ac Irdar, i enwi rhai yn unig.
Rwyf finna fy hun yn hoff o feddwl fod Eigra'n agos at enw mam Brenin Arthur, sef Eigr, yn ôl un cofnod a welais.
Syfi yn hen air Cymraeg am fefus gwyllt
Mae byd natur wedyn wedi chwarae'i ran mewn sawl trafodaeth rhwng rhieni newydd. Gwylan, Cadno, Briallen ac Eos yn enwau yr ydym yn gyfarwydd â hwy o bosib.
Ond roedd enwau anghyfarwydd yn codi fel Ilir, yr hen enw Cymraeg am Iâr Fach yr Haf. Huana yn enw hyfryd arall, o'r hen enw am haul sef 'huan'.
Cafodd merch fach o'r enw Syfi ei henwi am iddi ddod allan yn goch ac yn sgrech yn ôl ei mam, Angharad Blythe, yn union fel mefusen wyllt, neu syfi.
Enwi yn ôl llif yr afon ar ddydd y geni
Daeth hi'n amlwg fod y broses o ddewis enw yn bwysig i ambell deulu gan fagu rhyw draddodiadau neu batrwm. Roedd un teulu wedi penderfynu enwi gan ddechrau gyda'r llafariaid yn eu tro; Alwen, Einion, Ithon, Owain, Urien, Wyn ac Ynver.
Ond ddaru'r magu ddim stopio felly roedd yn rhaid troi at y cytseiniaid; Bronwen, Ceridwen, Dilys, Ffest, Gwenonwy a Helen, a gyda dau o briodas arall, Arthur a Gwladus, dyna i chi bymtheg o blant!
Roeddwn i'n rhyfeddu at rhai o'r prosesau yma. Mae'n dipyn o ymrwymiad, heb wybod faint o blant ddaw.
Rhannodd Ceindeg Haf Spiller hanes teulu ei nain yn enwi yn ôl llif yr afon ar ddydd y geni. Oleuli - afon yn olau. Dwysli - afon yn dywyll a dwys. Brynli - adlewyrchiad y bryn. Gwynli - adlewyrchiad yr eira. Aranli - adlewyrchiad yr Aran.
Enwau am yn ôl neu sy'n cynnwys yr un llythrennau
Roedd gan eraill broses symlach fel ad-drefnu neu droi enw ar ei ben. Mae merch arall o Benllyn, sydd bellach yn byw yn Seland Newydd, wedi troi'r Aran ben i waered (mewn sawl ystyr!) a galw ei merch yn Nara.
Mae un arall a chysylltiadau ag Arthog, Sir Feirionydd wedi ei enwi'n Ogarth. Ond yr un a berodd i mi orfod ei ailadrodd ddegau o weithiau er mwyn cael fy nhafod i arfer oedd Enirethac, sef Catherine am yn ôl.
Bum yn holi ambell un arall y gwyddwn amdanynt oedd ag enwau anghyffredin am sut yr oeddent wedi enwi eu plant.
Mae un ohonynt wedi enwi eu plentyn yn ôl galwedigaeth ei Dad-cu, sef Saer. Ro'n i'n hoff iawn o'r enw a'r syniad, ond yn methu meddwl am alwedigaeth arall a fyddai'n siwtio cystal!
Ganwyd Dysul Morfudd ar ddydd Sul
Roedd Gwenan Griffiths yn un arall a gyfrannodd at y trafod. Rhoddodd ei thaid, sef y bardd Rolant o Fôn, yr enw Dysul Morfudd ar ei ferch am y rheswm syml iddi gael ei geni ar ddydd Sul. Stori ddigon smala yn wir, fel un arall a glywais am dad yn newid yr enw wrth fynd i gofrestru heb ddweud wrth y fam. Dyn dewr.
Alaw Ceris wedi ei henwi ar ôl enw barddol
Anfonodd un o fy ffrindiau coleg, Alaw Ceris, air ata i yn sôn fod Llanw ei merch wedi ei henwi ar ôl i Alaw fwynhau nofel Manon Steffan Ros am ferch o'r enw Llanw.
Ond yn rhyfedd ddigon ei henw hi ei hun oedd â'r stori ddifyra gan Alaw. Daeth ei mam a'i nain ar draws carreg fedd perthynas iddynt sef yr awdur Thomas Roberts a sgwennodd am y Bardd Cocos, ac ar y garreg roedd ei enw barddol - Alaw Ceris.
Yn digwydd bod, Ceris oedd enw taid Alaw ar ochr ei thad ac felly roedd yr enw'n gweddu'n berffaith ac wedi ei wreiddio yn nwy ochr y teulu.
Mi fedrwn gario mlaen i sgwennu'r hanesion am sawl tudalen eto, ac mae gen i hen ddigon o syniadau ar gyfer enwi cymeriadau mewn straeon plant hyd ddiwedd oes!
Ond er mwyn i chi gael gwell darlun o'r amrywiaeth ddaeth i'r fei, dyma restr o'r rhai nad oes lle i ymhelaethu mwy amdanynt yma: Tylwyth, Rahel, Talar, Afonwy, Arddun, Nêf, Gersom, Nena, Nereus, Antur, Mynar, Rhagfyryn, Malo, Llia, Jobi, Tegai, Areli, Eiriola, Era, Nowa, Syfni.
Er mor amrywiol yw'r enwau, y prosesau a'r straeon, balchder oedd yn gyson trwy'r cyfan. Roedd pawb yn awyddus i rannu eu hanes, boed ysgafn neu ddwys, am fod yna fwy i enw na dim ond cydnabod.
Mae yna berthyn. Perthyn i le, i hanes, i bobl, i natur, i stori, i foment.
Mae ein henwau, boed gyffredin neu anghyffredin, yn ddrych o rhywbeth sy'n rhan ohonom, ac mae'r 'perthyn' hwnnw'n cael ei eni yn yr eiliad yr ydan ni'n cael ein henwi.
Ymddangosodd fersiwn o'r erthygl yma yn wreiddiol ym mhapur bro Llanw Llŷn.
Hefyd o ddiddordeb: