Ennill sawl cystadleuaeth cryfder wedi heriau bywyd

  • Cyhoeddwyd
Rebecca RobertsFfynhonnell y llun, Paul Rubery
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Rebecca Roberts gystadleuaeth Dynes Gryfaf y Byd yn 2021

Mae Rebecca Roberts o Fangor eisoes yn enw adnabyddus yn y byd chwaraeon a hynny am ei chryfder nodedig - mae hi wedi ennill y teitl Dynes Gryfaf y Byd ymhlith nifer o deitlau eraill a'i nod yw bod y ddynes gryfaf mewn hanes.

Ond dyw sicrhau y fath gamp ddim wedi bod yn hawdd i'r ddynes 28 oed, wedi iddi wynebu nifer o heriau.

Pan yn 12 oed bu farw ei mam, a flwyddyn wedi hynny bu'n rhaid i'w thad fynd i ward seiciatryddol wedi iddo gael diagnosis o ddementia - o ganlyniad bu'n rhaid iddi hi a'i brodyr a chwiorydd fynd i ofal.

"Yr un peth dwi'n ei gofio ydy nad oedd disgwyl i fi lwyddo," meddai wrth siarad â'r BBC.

"Doedd 'na neb yn fy ngwthio i 'neud dim byd - ro'n i wedi cael fy rhoi mewn bocs."

Wedi iddi gwblhau eu harholiadau Safon Uwch roedd hi'n un o'r rhai cyntaf i adael gofal a mynd i brifysgol, gan astudio seicoleg fforensig a chyfiawnder troseddol.

'Cyfnod tywyll'

Tra'n y brifysgol fe ddechreuodd Rebecca chwarae rygbi, gan ddod yn gapten ar y tîm yn ei hail flwyddyn, ond bu ei chyfnod yn y coleg yn un anodd.

"Ar ddiwedd fy ail flwyddyn mi ges i fy nhreisio yn Lerpwl a'm mygwth â chyllell ac roeddwn i'n teimlo fel lladd fy hun," meddai.

A hithau'n ddioddefwraig o gam-drin rhywiol, mae Rebecca wedi dewis cael ei hadnabod.

"Fe geisiais i ladd fy hun dair gwaith - roedd e'n gyfnod tywyll iawn yn fy mywyd," ychwanegodd.

"Fe roddais i ryw 10 stôn ymlaen gan orfod gwisgo dillad maint 26-28. Roeddwn i'n isel. Doedd yna ddim ystyr i'm mywyd i a doeddwn i ddim eisiau byw - tan i fi gwrdd â fy mhartner Paul yn 2016."

Roedd Paul Savage wedi bod yn cystadlu yng nghystadlaethau dyn cryf y byd yn gyson ac fe ddechreuodd hyfforddi Rebecca fel ei bod, i ddechrau, yn colli pwysau a gwella o anaf yr oedd hi wedi'i gael tra'n chwarae rygbi.

O fewn chwe wythnos o gyfarfod ei gilydd roedd y ddau wedi syrthio mewn cariad, wedi symud i fyw at ei gilydd ac yn ymarfer yn llawn amser.

Ffynhonnell y llun, Rebecca Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Rebecca Roberts a Paul Savage, ei diweddar bartner a'i hyfforddwr

Cyn hyn doedd Rebecca yn gwybod dim am gystadlaethau cryfder, ac o ran chwaraeon roedd hi ond wedi taflu pwysau a chwarae rygbi.

"Doeddwn i ddim wedi bod yn y gampfa am flwyddyn cyn cyfarfod â Paul ond yn syth welodd e ryw botensial ynof i, gan ddweud mai fi fyddai menyw gryfaf y byd ymhen pum mlynedd.

"Fe wnaethon ni gyfarfod yn 2016 ac ym Medi 2016 fi oedd Dynes Gryfaf y DU, gan ennill y teitl ar y cynnig cyntaf.

"Fe ddaeth y teimlad yna o falchder yn ôl ac roedd gen i rywbeth i fyw amdano eto.

"Pan yn ifanc doedd gen i ddim hyder ac ro'n yn cael fy mwlio o hyd am fy mod yn fwy na phobl eraill

"Mae'r gamp yma wedi rhoi'r teimlad o berthyn i fi a dyna be dwi'n hoffi amdani."

'Colli fy ffrind gorau'

O 2016 ymlaen fe gafodd Rebecca Roberts lawer iawn o lwyddiannau - roedd hi'n bencampwraig gyson gan gipio teitl Dynes Gryfaf Cymru yn 2021 a 2022, Dynes Gryfaf Ewrop yn 2019 ac yn 2021 Dynes Gryfaf y Byd.

Ond ym Mawrth 2022 daeth ergyd arall wedi i Paul ddioddef o broblemau gyda'i galon - roedd disgwyl iddo fyw am 20 mlynedd ond bu farw yn sydyn o fewn naw mis.

"Ar 4 Rhagfyr fe gafodd o drawiad ar ei galon yn fy ystafell wely. Roedd yn rhaid i fi roi CPR iddo ond bu farw," meddai Rebecca.

"Dyna ddiwrnod anoddaf fy mywyd. Ro'n i wedi colli fy enaid hoff cytûn - yr un a oedd wedi rhoi ystyr i fy mywyd i. Ro'n wedi colli fy ffrind gorau a fy hyfforddwr.

"Doedd 'na neb wedi fy ngharu i'n fwy nag o."

Ffynhonnell y llun, Rebecca Roberts

Ond doedd Rebecca ddim am roi'r gorau iddi. Chwe mis wedi marwolaeth Paul fe enillodd teitl Dynes Gryfaf y DU, a hynny am y trydydd tro o'r bron.

"Yr hyn rwy'n ei wneud rŵan yw cystadlu er anrhydedd ac er cof am Paul," meddai.

"Fe ddywedodd wrtha i y gallwn fod y ddynes gryfaf erioed ac mae hynna yn rhywbeth dwi'n mynd i wneud - nid er mwyn fi fy hun yn unig ond i Paul hefyd."

Dyw Rebecca ddim wedi colli yr un sesiwn ymarfer ers marwolaeth Paul, a'i gobaith yw ennill pob cystadleuaeth cryfder i fenywod eleni.

Mae hi eisoes wedi ennill teitlau Dynes Gryfaf Cymru a'r DU, y gystadleuaeth nesaf fydd Dynes Gryfaf Ewrop ac yna fe fydd cystadleuaeth Dynes Gryfaf y Byd.

"Roedd Paul wastad yn dweud wrtha i am anelu at y sêr ac yn ychwanegu mai'r peth gwaethaf oedd yn gallu digwydd i fi oedd disgyn lawr y grisiau.

"Felly dwi'n g'neud yn union hynny ac anelu i fod y ddynes gryfaf a fu ar y ddaear yma erioed."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig