Codi pwysau a newid byd
- Cyhoeddwyd
"Mae'n anodd i gredu rili. Mae 'di dechre fel rhywbeth sy' bach o hwyl ac mae 'di agor sut gymaint o ddrysau. Ac mae wedi newid fi fel person hefyd ac mae hynny'n ffantastig."
Dwy flynedd yn ôl dechreuodd Sioned Halpin o Gydweli godi pwysau. Erbyn heddiw mae hi'n un o'r menywod cryfa' yng Nghymru.
Dechreuodd siwrne trawsnewid Sioned pan benderfynodd golli pwysau cyn ei phriodas.
Wedi llwyddo i golli bron i bedair stôn trwy ddosbarthiadau Crossfit, mae Sioned yn dweud i'r 'bug' codi pwysau gydio ynddi, er mawr syndod iddi: "Os fydde ti'n dweud wrtha'i 10 mlynedd yn ôl mod i'n mynd i neud cystadleuaeth o flaen 200-300 o bobl, bydden i wedi chwerthin arno ti.
"I edrych nôl ar fy hunan, mae 'di neud fi lot mwy hyderus ac mae hwnna'n ddigon i gadw fi i neud e 'to."
Ac mae'r hyder hynny wedi helpu Sioned i wthio'i hun i drio pethau fyddai hi byth wedi breuddwydio gwneud yn gynt.
Digwyddodd yr ysbardun cynta' wedi i aelodau eraill o'r gampfa gweld ei dawn yn codi pwysau ac awgrymu bod hi'n trio cystadleuaeth Menyw Cryfa': "O'n i yn y gym yn neud deadlifts o 120kg - i rai menywod mae'n bwysedd masif ond 'oedd y trainer yn dweud, 'you're doing this with ease'.
"I fi roedd rhaid i rhywun daflu fi mewn neu bydden i ddim wedi neud e. O'n i'n troi'n 30 ac o'n i moyn neud rhywbeth bach yn wyllt."
Y cystadleuaeth cyntaf
Penderfynodd Sioned fynd amdani: "'Nes i feddwl, gwnaf i e; mae gen i flair am hyn. Ac o fewn tair wythnos o'n i yn cystadleuaeth cynta' Menyw Cryfa' fi ym Mhenfro, des i'n ail yn honna.
"Enjoies i sut gymaint o'n i'n meddwl, reit naf i barhau. Ges i'r byg wedyn a 'nes i Menyw Cryfa' Caerdydd - des i gynta."
Y cam nesaf oedd pencampwriaeth Cymraes Gryfa' ac mae rhaglen arbennig ar S4C, Cryfder Sioned Halpin, yn dangos paratoadau Sioned am y gystadleuaeth.
Tyfu
Yn ogystal a thrawsnewid ei chorff, mae Sioned wedi gweld newid mawr yn ei hun: "Mae 'di neud fi lot mwy hyderus, mae 'di rhoi cyfle i fi edrych nôl ar sut o'n i 10-15 mlynedd yn ôl a meddwl, pam o'n i fel 'na?
"Oedd yr hen Sioned yn shei, ddim eisiau mynd i unman. Fi'n wahanol berson i beth oeddwn i 10 mlynedd yn ôl. I fi wneud y gystadleuaeth hwn, mae'n brofiad mawr yn ei hunan.
Bwlio
"Ges i fy mwlio lot yn ysgol. Bob amser cinio oeddwn i'n cwato yn y toiled. Doeddwn i ddim eisiau 'nabod neb arall a gymerais i stepen yn ôl. Amdano pwysau oedd e i gyd rili.
"Fi di bod yn eitha' o seis ers oeddwn i'n ysgol a does ddim lot wedi newid, ond yn lle trio colli gymaint o bwysau, fel wyth neu naw stôn, 'nes i feddwl, 'just embrace it' a gwna rhywbeth sy'n gwneud ti yn hapus.
"Mae edrych nôl ar y person oeddwn i yn rhoi bach o ammunition i fi i trainio yn fwy caled ac mae'n rhoi lot fwy o hyder i fi. Sa'i cweit yn siŵr beth fyddai fy mywyd fel taswn i heb wneud e nawr."
Mae Sioned yn ddiolchgar iawn i'w ffrindiau am y gefnogaeth mae wedi cael: "Pan o'n i'n blwyddyn 10 ac 11 nes i ffrindiau a cwympo mewn 'da grŵp o bobl. Maen nhw wedi bod yn ffantastig.
"Heb y cymorth fi 'di cael wrth ffrindie fi, sy' 'di bod na i fi bob adeg, bydden i ddim 'di gallu neud e hebddyn nhw."
Cyngor
Erbyn hyn mae Sioned yn gallu codi 180kg mewn deadlift ac yn annog unrhyw un sy'n awyddus i gychwyn codi pwysau i fynd amdani: "Ti'n cael lot o bobl yn dod i watcho'r shows ac yn meddwl hoffen nhw drio codi pwysau.
"Gwna fe, paid a bod yn ofnus, mae'r merched hyn sy'n codi dros 200kg i gyd wedi gorfod dechrau rhywle.
"S'dim ishe i ti boeni beth mae pobl eraill yn meddwl, bydd y cymorth i gyd 'na - a fwy. Bydd y merched a dynion rownd ti yn rhoi cymorth.
"Ffeindiais i coach fi, Hywel (Owen-Thomas) tua chwe mis yn ôl. Ges i un sesiwn gyda fe ac roedd e wedi rhoi cymaint o wybodaeth i fi.
"Se i wedi edrych nôl ers hynny, mae 'di bod 'na bob cam o'r ffordd."
Gwyliwch Cryfder Sioned Halpin ar S4C, nos Fercher 22 Medi, am 9.00.