O Neuadd JMJ Bangor i ras arlywyddol Sierra Leone
- Cyhoeddwyd
Sawl gwaith ydan ni fel Cymry yn dweud 'mae 'na gysylltiadau Cymreig ym mhob man'?
Wel, dyma enghraifft ddifyr arall.
Ddydd Sadwrn yn Sierra Leone, mi fydd y bobl yn ethol eu harlywydd nesaf.
Mae'n bosib y bydd cyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn cael ei ddewis yn arweinydd newydd y wlad.
Dros 40 mlynedd yn ôl mi dreuliodd Dr Samura Kamara gyfnod yn byw yn neuadd breswyl Gymraeg John Morris Jones.
Mi ddaeth yn gyfaill agos at warden y neuadd ar y pryd, John Llywelyn Williams, a'i deulu.
Dyma'r pumed etholiad arlywyddol yn Sierra Leone ers i'r rhyfel cartref ddod i ben nôl yn 2002.
Mae enwau 13 ymgeisydd ar y papurau pleidleisio, ond ras dau geffyl ydy hi rhwng yr arweinydd presennol Julius Maada Bio, ac arweinydd yr wrth-blaid All People's Congress Dr Samura Kamara.
Mae gan Dr Samuel Kamara gysylltiadau Cymreig.
Y cyfnod cyntaf ym Mangor oedd pan astudiodd economeg yng nghanol yr 1970au.
Yna fe ddaeth yn ôl i'r ddinas i gael ei ddoethuriaeth ychydig flynyddoedd wedyn.
Cafodd lety yn neuadd breswyl Gymraeg JMJ, a'r warden yng ngofal y myfyrwyr oedd John Llywelyn Williams.
'Dyn arbennig'
Mi roedd John Llew, fel mae'n cael ei alw gan nifer, yn byw ar y safle gyda'i wraig a'u dau o blant, Lowri a Robin.
Roedd y teulu wedi arfer croesawu myfyrwyr o dramor ond "roedd yna rhywbeth arbennig am Sam" meddai John Llew.
Sam oedd y teulu yn ei alw, ac mi roedd Lowri a Robin wrth eu boddau yn treulio amser gyda'r gŵr o Sierra Leone.
"Oddach chdi'n gallu deud fod hwn yn berson arbennig" meddai John Llew, sy'n 86.
"O'dd o'n arbennig, ac mi roedd ganddo ffordd efo pobol. Odd o mor hyfryd ar yr aelwyd efo chi, person caredig."
Yn ôl Lowri Williams, sy'n 46, roedd fel aelod o'r teulu.
"Er gwaethaf ei garisma fo, a'i ddealltwriaeth o'r wlad, be oedd o - oedd aelod ychwangeol o'r teulu hefyd.
"Rhyw frawd mawr oedd o i ni. Yn ofalgar iawn, yn teimlo'n gysurus fel aelod o'r teulu."
'Dyn cyffredin, annwyl'
Mi roedd Dr Sam yn bel-droediwr o fri ac mi roedd yn mynd a Robin, 45, i weld gemau pêl-droed Dinas Bangor,
"A'th o a fi i watsiad Atlético Madrid yn erbyn Bangor yn Farrar Road," dywedodd.
"Ar un ochr mi fedrwch chi weld pam ei fod o wedi cyrraedd lle mae o, ond ar y llaw arall jest dyn cyffredin, annwyl. Odd o'n medru siarad efo pawb."
"Mae'n anodd gwybod be oedd Cymru yn olygu iddo" ychwanegodd Lowri.
"Ond mi na'th o ofyn i ddod yn ôl i'r neuadd i wneud ei ddoethuriaeth, felly mae'n rhaid ei fod o'n gysyrus ymysg siaradwyr Cymraeg.
"Mae o'n dod o wlad aml-ethnig, aml-iethog, felly er nad oedd o yn siarad Cymraeg; mi roedd o'n teimlo yn hynod hapus mewn cymuned Gymraeg."
"Ac yn amlwg ar ôl treulio 4 blynedd i mewn ac allan o'n ty ni, cinio dolig, cinio sul ac yn y blaen, a chwarae pêl droed efo'r hogia, siwr ei fod o wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg, ac yn amlwg yn hollol gysurus efo'r Gymraeg o'i gwpas o."
Mae trais ar gynnydd yn yn Siera Leone. Ddydd Mercher, bu cefnogwyr plaid APC yn gwrthdaro â'r lluoedd diogelwch ger pencadlys y blaid yn y brifddinas, Freetown. Cafodd un person ei ladd.
Mae'r APC wedi bod yn annog protestiadau oherwydd eu pryderon am anghysondebau yn y broses etholiadol.
'Wedi trio cadw cysylltiad'
Mae'r teulu o Fethesda wedi bod yn dilyn y datblygiadau, ac yn gobeithio am lwyddiant i'w hen ffrind.
"Pan 'dach chi meddwl am holl fyfyrwyr neuadd John Morris Jones, mae rhywun mor falch o be maen nhw wedi ei 'neud, ac yn arbennig Dr Sam sydd yn rhyngwladol ei gyfraniad.
"Mi faswn i wrth fy modd cysylltu efo fo eto."
Mae'r teulu wedi ceisio ail-gysylltu â Dr Sam, ond heb fawr o lwyddiant.
"Nesh i anfon 2 neges iddo fo wsos yma" meddai Irine Williams, "ond ddoth y ddau ebost yn eu hôl."
"O'ddan ni'n d'eud pan oedden ni'n blant," meddai Robin dan chwerthin, "pan fydd o'n arlywydd, geith o ddod i nôl ni yn ei jet preifat!
"Felly mae'n rhaid fod na rhyw fath o uchelgais bryd hynny de!"