Criced: Morgannwg yn colli'n erbyn Sussex yn y T20 Blast

  • Cyhoeddwyd
Shadab KhanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Shadab Khan wnaeth arwain ei dîm i gael buddugoliaeth yn erbyn Morgannwg

Roedd Sussex yn drech na Morgannwg yn y T20 Blast nos Wener.

Y cyfanswm terfynol oedd Morgannwg 162-8 a Sussex 182-6.

Fe wnaeth Cam Fletcher gyrraedd ei 50 cyntaf i Forgannwg.

Ond doedd hynny ddim yn ddigon.

Mae Sussex yn ymuno â Morgannwg ar 10 pwynt.

Bydd angen i Forgannwg ennill eu dwy gêm olaf i gynnal unrhyw obaith o gyrraedd y chwarteri.

Pynciau cysylltiedig