Ymddiheuriad bwrdd criced ar ôl adroddiad damniol

  • Cyhoeddwyd
CricedFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae hiliaeth, elitaeth a gwahaniaethu ar sail rhyw yn "eang" o fewn criced yng Nghymru a Lloegr, yn ôl adroddiad annibynnol.

Mae'r Comisiwn Annibynnol dros Gydraddoldeb o fewn Criced (ICEC) wedi cyflwyno ei ganfyddiadau o ymchwiliad a barodd ddwy flynedd.

Mae'r ICEC wedi gwneud 44 o argymhellion, gan gynnwys bod Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn gwneud ymddiheuriad cyhoeddus am ei fethiannau.

Dywedodd cadeirydd yr ECB Richard Thompson y bydden nhw'n defnyddio'r cyfnod hwn "i ailosod criced".

Wrth ymateb, mae Criced Cymru wedi dweud ei bod yn "glir yn barod bod yr adroddiad yn cynnwys gwersi sylweddol" i'r gamp er mwyn "adfer a gwella hyder ac ymddiriedaeth".

Ychwanegodd y datganiad: "Mae ein safbwynt yn glir - does dim lle i wahaniaethu o fewn criced yng Nghymru, na chymdeithas Cymru, ac fe fyddwn yn trin pob honiad o wahaniaethu mewn unrhyw ffurff yn gwbl ddifrifol."

Pam bod ymchwiliad?

Dechreuodd yr ymchwiliad ym mis Mawrth 2021 yn sgil symudiadau byd-eang fel Black Lives Matter a Me Too.

Fe wnaeth y comisiwn alw am dystiolaeth yn Nhachwedd y flwyddyn honno gyda 4,156 o ymatebion yn cael eu cyfrannu ar-lein

Ym mis Mawrth 2022, fe gafodd 150 o ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno fel tystiolaeth.

Ymhlith y rheiny wnaeth roi tystiolaeth oedd capten Lloegr Ben Stokes, capten y menywod Heather Knight a chyn-chwaraewr Sir Efrog Azeem Rafiq.

Mewn adroddiad damniol 317 tudalen o hyd, casglodd yr ICEC:

  • Mae "hiliaeth strwythurol a sefydliadol" yn dal i fodoli o fewn y gêm;

  • Mae merched yn cael eu trin yn "is-raddol" i ddynion ar bob lefel o'r gamp;

  • Mae "elitiaeth a gwahaniaethu ar sail dosbarth" yn gyffredin o fewn criced;

  • Nid yw llawer sy'n profi gwahaniaethu yn adrodd amdano oherwydd diffyg ymddiriedaeth yn yr awdurdodau;

  • Mae dyfarnwyr yn anwybyddu cam-drin yn rheolaidd ac yn diystyru cwynion.

"Mae yna realiti o hyd nad yw criced yn 'gêm i bawb' ac mae'n gwbl hanfodol bod y gwaith sydd ei angen i gyflawni'r uchelgais hwnnw yn dechrau ar unwaith," dywedodd cadeirydd ICEC, Cindy Butts.

"Yr hyn sydd ei angen nawr yw arweinyddiaeth. Rwy'n mawr obeithio y bydd yr argymhellion a wnawn yn yr adroddiad hwn yn cael eu mabwysiadu a'u gyrru gan yr ECB a phawb arall mewn swyddi arweinyddiaeth."

Fe wnaeth yr adroddiad ganmol yr ECB am fod yn ddigon "dewr" i fod yn agored i graffu annibynnol.

'Rhaid deffro'

Mae Richard Thompson, a ddaeth yn gadeirydd yr ECB fis Medi diwethaf, wedi ymddiheuro.

"Fe ddylai criced fod yn gêm i bawb, ac rydyn ni'n gwybod nad yw hyn wedi bod yn wir bob amser," meddai.

"Mae casgliadau pwerus yn yr adroddiad hefyd yn amlygu bod menywod a phobl ddu wedi cael eu hesgeuluso am gyfnod rhy hir. Mae'n wir ddrwg gennym am hyn.

"Mae'r adroddiad hwn yn nodi'n glir bod strwythurau a systemau hanesyddol wedi methu ag atal gwahaniaethu, ac mae'n amlygu'r boen y mae hyn wedi'i achosi.

"Rwy'n benderfynol na ddylid gwastraffu'r cyfle hwn i ddeffro o fewn criced yng Nghymru a Lloegr.

"Byddwn yn defnyddio'r foment hon i ddangos ei bod yn gêm i bawb ac mae gennym ddyletswydd i unioni hyn ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

O'r holl ymatebion i'r galwadau am dystiolaeth ar gyfer yr adroddiad, fe wnaeth 50% ddweud eu bod wedi profi gwahaniaethu o fewn y pum mlynedd blaenorol.

Roedd y ffigyrau'n uwch ar gyfer pobl o gymunedau ethnig amrywiol.

Er bod yr adroddiad yn cydnabod fod "camau cadarnhaol" wedi eu gwneud yng ngêm y merched, roedd hefyd yn tynnu sylw at ddiffyg cynrychiolaeth fenywaidd ymhlith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, llai o sylw yn y cyfryngau a llai o gyfleoedd i chwarae mewn prif feysydd i fenywod elitaidd, ac annhegwch o ran offer.

Fe glywodd yr ICEC "dystiolaeth o ddiwylliant eang o rywiaeth a misogynistiaeth".

O ran cyflog a buddsoddiad, mae gêm y merched yn derbyn "swm bychanol o fach" o'i gymharu â gêm y dynion.

Dywedodd yr adroddiad hefyd fod bwlch o 18.8% yn y cyflog cyfartalog rhwng gweithwyr benywaidd a gwrywaidd yn yr ECB.

Mae'r ICEC wedi cyflwyno argymhellion ar sail y canfyddiadau hynny gan gynnwys "ailwampio sylfaenol ar strwythur cyflog chwaraewyr benywaidd proffesiynol".

Pynciau cysylltiedig