Carcharu gyrrwr heb drwydded am ladd ei ffrind gorau
- Cyhoeddwyd
Mae gyrrwr a laddodd ei ffrind gorau mewn gwrthdrawiad tra'n gyrru heb drwydded nag yswiriant wedi cael dedfryd o bum mlynedd o garchar.
Fe blediodd Simon Jones, 28, o Brestatyn yn Sir Ddinbych yn euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Bu farw Jack Daniel Elden Chahal, 22, pan fu'r car BMW 520 arian yr oedd yn teithio ynddo mewn gwrthdrawiad ar yr A548 yng Ngronant, Sir y Fflint ar 17 Ebrill, 2022.
Yn ôl ei deulu roedd Mr Chahal yn ddyn ifanc doniol, gofalgar oedd â chalon fawr.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug bod Jones wedi colli rheolaeth ar dro yn y ffordd a tharo coeden.
Yn ôl yr erlynydd David Mainstone roedd arbenigwr wedi amcangyfrif bod y car yn cael ei yrru ar gyflymder o 96mya mewn ardal 50mya cyn y ddamwain yn gynnar yn y bore.
Cafodd Mr Chahal, oedd yn dod o Brestatyn, ei gludo i'r ysbyty ag anafiadau niferus.
Clywodd y llys bod Jones o dan ddylanwad alcohol, ond fe wrthododd gymryd prawf i fesur lefel yr alcohol yn ei waed. Roedd ganddo droseddau gyrru blaenorol ac wedi cael ei wahardd rhag gyrru yn y gorffennol.
'Gwastraff o fywyd ifanc'
Dywedodd y barnwr, Niclas Parry wrth Jones: "Roedd hi bron yn anochel y byddai yna ddiweddglo gwael i'ch agwedd tuag at reolau'r ffordd - eu bod yn berthnasol i eraill ond nid i chi.
"Roedd hyn yn gwbl anochel, yn gwbl ddiangen ac yn wastraff o fywyd ifanc."
Dywedodd Simon Rogers ar ran yr amddiffyniad bod Jones wedi colli ei "ffrind gorau" a'i fod wedi ei ddryllio gan ei weithredoedd.
"Mae ganddo rywfaint o ddealltwriaeth o'r golled enfawr sy'n cael ei theimlo gan y teulu", meddai.
Cafodd Mr Chahal ei ddisgrifio gan ei deulu fel y "mab a'r brawd gorau y gallech fod wedi gofyn amdano", oedd "tu hwnt o warchodol o'i deulu".