'Rhaid cael man cynllun ceiswyr lloches yn iawn' - AS Ceidwadol
- Cyhoeddwyd
Mae gan ymgyrchwyr lleol yn Llanelli "bwynt cryf iawn" i wrthwynebu cartrefu dros 200 o geiswyr lloches mewn gwesty, yn ôl AS Ceidwadol a chyn-ysgrifennydd Cymru.
Fe awgrymodd Syr Robert Buckland, sydd o Lanelli'n wreiddiol, fod Gwesty Parc y Strade'n leoliad anaddas.
Cynllun y Swyddfa Gartref yw cartrefu hyd at 241 o geiswyr lloches yno o'r mis hwn gyda staff y gwesty i cgolli eu swyddi.
Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud fod y cynlluniau'n angenrheidiol a'u bod yn gwrando ar bryderon lleol.
Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement Radio Wales, dywedodd Robert Buckland AS bod angen "cael y lleoliad yn iawn".
"O ddeall daearyddiaeth Llanelli'n dda iawn... os ydych chi'n mynd i ddod o hyd i leoliad mae angen dod o hyd i rywle sydd llawer mwy canolog.
"Neu ganol dinas, sydd â'r holl adnoddau angenrheidiol i gefnogi rhwydwaith o geiswyr lloches sy'n dod i amgylchedd gwbl newydd."
Fis diwethaf, fe ddywedodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru fod ceiswyr lloches "yn iawn i bryderu" am gynllun Parc y Strade, gan mai'r un cwmni fyddai'n ei redeg a oedd yn rheoli gwersyll Penalun yn Sir Benfro.
Fe gafodd y safle honno ei chau oherwydd pryderon am amodau gwael a lles ceiswyr lloches.
Ychwanegodd Mr Buckland: "Fel y gwelon ni rai blynyddoedd yn ôl yn y gwersyll ym Mhenalun yn Ninbych-y-Pysgod, mae'n rhaid ichi gael y lleoliad yn gywir.
"Dyna pam fod gan ymgyrchwyr lleol yn Llanelli bwynt cryf iawn i ddweud 'edrychwch, nid dyma'r lle iawn, plis meddyliwch eto'."
Dywedodd fod safleoedd neu ganolfannau i geiswyr lloches yn gallu gweithio os ydyn nhw'n cael eu cynllunio'n dda.
Ond ychwanegodd: "Hyn a hyn o gapasiti sydd gan unrhyw gymuned i groesawu a darparu ar gyfer ceiswyr lloches."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2023