Staff gwesty i golli swyddi yn sgil cynllun ceiswyr lloches
- Cyhoeddwyd
Mae staff Gwesty Parc y Strade yn Llanelli wedi cael gwybod y byddan nhw'n colli eu swyddi.
Fe ddaeth y cadarnhad yn sgil cynllun y Swyddfa Gartref i gartrefu hyd at 241 o geiswyr lloches yno.
Bydd staff yn gadael ar 10 Gorffennaf - yr un diwrnod y mae disgwyl i geiswyr lloches gyrraedd y gwesty.
Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud fod y cynlluniau'n angenrheidiol a'u bod yn gwrando ar bryderon lleol.
Ddydd Mawrth daeth cadarnhad y bydd 50 o staff llawn amser a 45 o staff rhan amser yn y gwesty yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu diswyddo.
Cafodd staff wybod yn ystod cyfarfod, ond doedd dim cynrychiolaeth gan y perchnogion Sterling Woodrow yn y cyfarfod hwnnw.
Mae BBC Cymru'n deall fod rhai o'r staff nad oedd wedi gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod wedi ymuno ar-lein neu wedi cael gwybod ar y ffôn gan eu cydweithwyr ar ôl y cyfarfod.
'Sioc ond rhyddhad'
Dywedodd staff eu bod "mewn sioc" ond hefyd yn "teimlo rhyddhad ar ôl wythnosau o aros" am ateb ynglŷn â'u dyfodol.
Dydy gweithwyr heb gael gwybod eto pa fath o becyn ariannol fydd ar gael iddyn nhw wrth gael eu diswyddo, os o gwbl.
Yn y cyfamser mae'r holl ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu, gan gynnwys priodasau, ar ôl 10 Gorffennaf 2023 wedi eu canslo.
Mae ad-daliad llawn yn cael ei gynnig ond does dim amseriad penodol wedi ei gynnig ynghylch pryd y bydd hynny'n digwydd ar gyfer pob achos.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd24 Mai 2023
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd30 Mai 2023