Ceiswyr lloches 'yn iawn i bryderu' am ddau gynllun

  • Cyhoeddwyd
Weiren bigogFfynhonnell y llun, Llun preswylydd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd weiren bigog o amgylch y safle ym Mhenalun a'r profiad "fel bod mewn carchar" yn ôl un ceisiwr lloches fu'n byw yno

Mae ceiswyr lloches allai gael eu hanfon i ddau safle yng Nghymru, dan reolaeth yr un cwmni fu'n rhedeg safle gafodd ei gau oherwydd amodau gwael yn Sir Benfro, "yn iawn i deimlo'n bryderus".

Daw sylwadau Cyngor Ffoaduriaid Cymru ar ôl i geisiwr lloches gafodd ei symud i safle ym Mhenalun ddweud wrth BBC Cymru fod y profiad "fel bod mewn carchar".

Ar hyn o bryd, mae cynlluniau gan y Swyddfa Gartref i osod cannoedd o geiswyr lloches ar ddau safle newydd - gwesty yn Llanelli a chyn-westy yn Sir y Fflint.

Y cwmni oedd yn rhedeg gwersyll Penalun yn Sir Benfro, Clearsprings, fyddai'n rhedeg y ddau safle.

Dywedon na allan nhw wneud sylw ar y mater.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref eu bod yn ceisio torri'r gost o £6m y dydd o roi llety i gyfanswm o fwy na 51,000 o geiswyr lloches.

'Weiren bigog a giatiau haearn'

Mae Hassan - nid ei enw iawn - yn un o gannoedd o geiswyr lloches a gafodd lety mewn cyn-safle milwrol yn Sir Benfro ddwy flynedd yn ôl, cyn iddo gau'n ddiweddarach ar ôl adroddiad beirniadol gan arolygwyr.

Dywedodd Hassan ei fod wedi ffoi i'r DU ar ôl problemau gwleidyddol yn ei famwlad, a'i fod wedi ei leoli yn Llundain am dri mis yn 2020, cyn cael ei symud i Benalun.

"Roedden ni i gyd wedi'n synnu oherwydd roedd e fel carchar. Roedd y gwersyll wedi ei amgylchynu gan weiren bigog ac roedd ganddo gatiau haearn.

"Dim gweithgareddau. Yr holl ystafelloedd ymolchi, y tai bach, yr ystafell fwyta… roedd popeth wedi eu leoli tu allan," ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Llun preswylydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hassan fod y ceiswyr lloches ar y safle ym Mhenalun yn gorfod golchi a sychu eu dillad mewn sinciau tu allan yng nghanol gaeaf

Dywedodd Hassan fod grwpiau o chwech neu 12 yn gorfod rhannu ystafell a hynny'n golygu eu bod yn gorfod newid a golchi o flaen ei gilydd.

"Ar ôl sbel, roedd gan rai pobl broblemau iechyd meddwl, rhai problemau iechyd. Doedden ni ddim yn gallu dod o hyd i ddoctoriaid na seicolegwyr.

"Dyna oedd cyfnod gwaethaf fy mywyd oherwydd do'n i ddim yn meddwl y byddai byth yn dod i ben."

Mae gan Hassan bryderon am gynlluniau i gartrefu cannoedd yn rhagor o bobl yn Llanelli a Sir y Fflint.

Disgrifiad o’r llun,

Andrea Cleaver yw prif weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Mae prif weithredwr Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn rhannu'r un pryder am y safleoedd gan ddweud bod eu safon "lawer yn is" na'r hyn gafodd ei addo.

"Rwy'n meddwl y bydden nhw [ceiswyr lloches] yn teimlo'n ansefydlog - a dw i'n meddwl y bydden nhw'n teimlo'n bryderus iawn," dywedodd Andrea Cleaver.

"Dro ar ôl tro dy'n ni ddim yn cael cyfathrebu â Llywodraeth DU ar yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu.

"Nid Penalun yw'r unig safle sydd wedi cael adroddiadau damniol, roedd na leoedd eraill yn y DU.

"Be' ry'n ei ofyn yw... beth ry'n ni wedi ei ddysgu a sut ydyn ni'n sicrhau eu bod, ar gyfer safleoedd eraill, yn gweithredu'r adborth gafon nhw."

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynllun i gartrefu dros 200 o geiswyr lloches yng ngwesty Parc y Strade yn Llanelli

Yn Llanelli, mae tensiynau'n cynyddu yn yr ardal wrth i bobl ymateb i'r cynllun i gartrefu dros 200 o geiswyr lloches yng ngwesty Parc y Strade.

Mae rhybuddion fod mudiadau asgell dde o du allan i'r ardal yn ceisio elwa o'r sefyllfa, gydag un ymgyrchydd lleol yn poeni y gallai rhywun "gael ei anafu neu ei ladd".

Yn ôl pobl leol a'r Aelod o'r Senedd yn yr ardal, mae diffyg gwybodaeth yn ychwanegu at ddrwgdeimlad.

Dywedodd John Davies, sy'n byw yn lleol: "Ma' bobl yn mynd i siarad gyda'i gilydd a ma' bobl yn mynd i sibrwd.

"Ma grwpiau ar Facebook yn mynd i ddweud pethe' sydd ddim yn wir... achos does neb yn gwybod."

Disgrifiad o’r llun,

Lee Waters yw Aelod Senedd Llanelli a dywedodd fod tensiynau yn y gymuned oherwydd "diffyg gwybodaeth" gan y Swyddfa Gartref

Ychwanegodd Lee Waters, Aelod o'r Senedd dros Lanelli nad yw Llywodraeth y DU wedi dysgu gwersi: "Y peth sy'n 'neud fi'n grac yw'r ffordd mae'r Home Office wedi delio â hwn, mae'n creu tensiwn yn y gymuned.

"Dyw pobl ddim yn gw'bod beth sy'n mynd 'mlaen - does 'na ddim gwybodaeth clir.

"Mae grwpiau'n dod tu fas o Lanelli yn ymgyrchu'n erbyn pobl sy'n ceisio lloches ac mae'r tensiwn yn codi."

'Llety llawn a thri phryd o fwyd y dydd'

Mae'r niferoedd mawr o geiswyr lloches yn golygu fod rhai wedi cael eu cartrefu mewn gwestai. Mae Llywodraeth y DU yn dweud fod hynny'n annerbyniol.

Felly mae'r cynlluniau presennol yn cynnwys safleoedd sydd ag adeiladau allai gael eu hail-bwrpasu ar gyfer ceiswyr lloches.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Ar hyn o bryd mae mwy na 51,000 o geiswyr lloches mewn gwestai sy'n costio £6 miliwn y dydd i drethdalwyr y DU.

"Mae pob ceisiwr lloches mewn gwesty yn cael llety llawn gyda thri phryd o fwyd y dydd yn cael eu gweini yn ogystal â'r holl hanfodion eraill, gan gynnwys taliadau arian parod lle bo'n gymwys.

"Nid yw ceiswyr lloches yn cael eu cadw mewn gwestai ac maent yn rhydd i adael eu llety."

Pynciau cysylltiedig