Sarah Siddons: Y seleb modern cyntaf
- Cyhoeddwyd
Ar 5 Gorffennaf 1755, yn nhafarn the Shoulder of Mutton ar Stryd Fawr Aberhonddu y ganwyd - yn nhyb rhai - y seleb modern cyntaf: y Gymraes, Sarah Siddons.
Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn bwrw golwg ar hanes a bri'r actores adnabyddus.
Swyno cynulleidfa Theatr Aberhonddu
Yn ystod y ddeunawfed ganrif mae'r math o ddiwylliant enwogion modern yr ydym yn gyfarwydd ag ef heddiw yn dechrau datblygu. Unigolyn a oedd ar flaen y gad yn ystod y cyfnod yma o newid oedd Sarah Siddons.
Does dim dwywaith, roedd perfformio yng ngwaed Sarah. Roedd ei rhieni - John a Sarah Kemble - yn perthyn i griw o artistiaid a oedd yn teithio'n rheolaidd o amgylch cylchwyl y de ac yn perfformio i gynulleidfaoedd eiddgar yn Aberhonddu, Llanfair ym Muallt, Llandrindod, Henffordd a Chaerwrangon.
O oedran ifanc daeth Sarah yn gyfarwydd â'r byd perfformio wrth iddi ymuno â'i rhieni ar amryw o deithiau o amgylch de Cymru a thros y ffin yn Lloegr. Erbyn ei harddegau roedd Sarah ei hun yn dechrau magu enw fel actores gan serennu mewn prif rannau heriol.
Roedd gallu Sarah i swyno cynulleidfa yn chwedlonol. Ar ôl ei chlywed yn canu yn Theatr Aberhonddu fe syrthiodd y bonheddwr lleol, Thomas Evans, dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â Sarah gan ddatgan ei ddymuniad i'w phriodi yn fuan wedyn.
O glywed y newyddion roedd rhieni Sarah wrth eu bodd â'r syniad o'u merch yn priodi gŵr bonheddig. Nid oedd Sarah o'r un farn. Roedd yr actores ifanc eisoes wedi gosod ei bryd ar ŵr o'r enw William Siddons, perfformiwr a oedd yn teithio gyda'r un cwmni â'i rhieni. Yn ôl y stori mae'n debyg bod Sarah wedi datgan ei thrafferthion carwriaethol mewn cyfres o benillion ar lwyfan yn Aberhonddu!
Yn groes i ddymuniadau ei rhieni penderfynodd Sarah a William adael cwmni teithiol ei theulu a phriodwyd y ddau ar 26 Tachwedd 1773 yn Eglwys y Drindod, Coventry.
Colli cytundeb
Wedi rhai blynyddoedd yn teithio o amgylch dinasoedd Lloegr, llwyddodd Sarah i ennill rhan yn y ddrama The Merchant of Venice yn theatr fyd-enwog Drury Lane yn Llundain ym mis Rhagfyr 1776.
Roedd ei pherfformiad cyntaf yn llanast llwyr; baglodd dros ei geiriau a chollodd ei llais a'i thrywydd ar sawl achlysur. Does dim syndod o ystyried ei bod wedi rhoi genedigaeth i'w hail blentyn mewn dwy flynedd dim ond chwe wythnos ynghynt. Daethpwyd â'i chytundeb i ben ymhen chwe mis a ni chafodd gynnig ei adnewyddu.
Mynd o nerth i nerth
Mewn ymdrech i geisio adfer ei gyrfa treuliodd gyfnodau yn perfformio yn Birmingham, Efrog a Chaerfaddon. Yn ystod ei chyfnod yng Nghaerfaddon aeth Sarah ati i ddechrau canolbwyntio a mireinio'r grefft o bortreadu cymeriadau trasig yn hytrach na chomedi mewn ymdrech i ddenu sylw sgowtiaid theatr o Lundain.
Yn fuan wedi genedigaeth ei phumed plentyn dychwelodd Sarah i Drury Lane a hynny er mwyn chwarae'r brif ran yn Isabella: or The Fatal Marriage, drama sy'n dilyn bywyd truenus gwraig weddw sy'n ail-briodi ac yna'n darganfod nad oedd ei gŵr cyntaf wedi marw.
Cafwyd perfformiad gwych gan Sarah. Roedd adroddiadau'r cyfnod yn honni bod aelodau o'r gynulleidfa wedi ymateb i'w phortread trwy lewygu, sgrechian, udo a beichio crio. Yn ystod y ddrama roedd Sarah wedi mynnu bod ei mab hynaf, Henry, yn ymuno â hi ar y llwyfan. Trwy gyfuno elfennau o'i bywyd gwirioneddol â bywyd ffuglennol ei chymeriad llwyddodd Sarah i sicrhau perfformiad credadwy a theimladwy tu hwnt.
Dyma dechneg a fu'n ganolog i'w llwyddiant Sarah. Mewn ymdrech i barchuso ei galwedigaeth fel actores aeth ati i atgoffa'r cyhoedd dro ar ôl tro o'i natur mamol.
Yn dilyn ei pherfformiad fel Isabella aeth gyrfa Sarah o nerth i nerth wrth iddi ennill ei phlwyf fel 'Brenhines Trasiedi.' Ym marn William Hazlitt, un o brif adolygwyr drama'r oes: 'to have seen Mrs Siddons was an event in everyone's life.'
Ymateb Betsi Cadwaladr
Un wraig a honnodd iddi brofi'r wefr o weld Sarah yn perfformio yng Nghaeredin oedd Betsi Cadwaladr. Mae'n debyg mai Sarah oedd y ddynes 'harddaf' a welodd Betsi erioed! Roedd Siddons-mania wedi cydio.
Mae Sarah yn cael ei hystyried fel y seleb modern cyntaf am sawl rheswm. Does dim dwywaith nad oedd Sarah yn enw ac yn wyneb adnabyddus a hynny am ddegawdau lawer. Roedd modd prynu byrddau gwyddbwyll yn cynnwys Sarah fel brenhines y bwrdd neu benddelw ohoni wedi gwisgo fel Arglwyddes Macbeth, un o'i chymeriadau mwyaf enwog.
Yn ariannol roedd llwyddiant Sarah yn ysgubol. Erbyn diwedd y ganrif roedd yr actores yn hawlio hyd at £60 y noson (dros £5,000 yn ein harian ni heddiw) a hynny am gyfnodau o dri deg wythnos ar y tro!
Roedd ei pherthynas gyda'i chynulleidfa a'i ffans yn allweddol i dwf ei henwogrwydd. Gwyddom ei bod yn derbyn swm sylweddol o lythyrau gan edmygwyr ac yn ei chofiant mae hi ei hun yn sôn am y straen o orfod dygymod â dieithriaid yn ceisio ennill mynediad ati i gefn y llwyfan neu ar y stryd.
Er iddi ymddeol o fyd y theatr ym 1819 fe barhaodd i gynnal darlleniadau cyhoeddus am beth amser. Bu farw ar 8 Mehefin 1831.
Hefyd o ddiddordeb: