Cofio trychineb Cwm-y-glo
- Cyhoeddwyd
Ychydig cyn chwech o'r gloch yr hwyr ar 30 Mehefin 1869 bu trychineb torcalonnus yng Nghwm-y-glo, pentref ger Llanberis.
Lladdwyd tri oedolyn a thri phlentyn pan ffrwydrodd dwy drol wrth deithio o Gaernarfon tuag at gyfeiriad Llanberis. Ar y pryd, mae'n debyg mai dyma'r ffrwydrad mwyaf swnllyd a wnaethpwyd gan ddyn erioed.
Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn adrodd hanes y digwyddiad brawychus.
Troliau o Gaernarfon yn cario 'powdwr oel'
Ar brynhawn chwilboeth ym mis Mehefin 1869 gadawodd dwy drol y cei yng Nghaernarfon gyda'r bwriad o gyrraedd pen eu taith - Chwarel Glynrhonwy ar gyrion Llanberis - cyn nos. Eu llwyth y diwrnod hwnnw oedd dwy dunnell o nitroglyserin, hylif melyn hynod ffrwydrol.
Yn 1869 roedd nitroglyserin yn sylwedd gymharol newydd. Fe'i darganfuwyd gan y cemegydd Ascanio Sobrero ym Mhrifysgol Turin yn yr Eidal yn 1847.
Yn dilyn ei ddarganfyddiad oherwydd natur anwadal y sylwedd roedd Sobrero yn daer yn erbyn pobol yn ei ddefnyddio fel ffrwydryn.
Ar sawl achlysur, mewn llythyrau ac erthyglau amrywiol aeth Sobrero ati i rybuddio'r cyhoedd am ei beryglon. Er gwaethaf galwadau Sobrero fe ddechreuodd sawl diwydiant wneud defnydd o nitroglyserin gan gynnwys y diwydiant llechi Cymreig. Ar draws chwareli'r gogledd cyfeiriwyd ar lafar at nitroglyserin fel 'powdwr oel.'
Clec oedd i'w glywed o Gwm-y-glo i Gaergybi
Toc cyn chwech o gloch yr hwyr cafwyd ffrwydrad angheuol ar gyrion pentref Cwm-y-glo. Cymaint oedd grym y glec roedd pobol cyn belled â Chaergybi yn honni eu bod wedi ei glywed yn ôl adroddiadau lleol.
Lladdwyd y certwyr - Evan Jones, ugain oed a David Roberts, brodor o Sir Ddinbych yn wreiddiol - a'u ceffylau yn y fan ar lle.
Yn anffodus digwyddodd y ddamwain tra'r oedd nifer o chwarelwyr ardal Llanberis yn dychwelyd o'u gwaith.
Un o'r rheiny a oedd yn cerdded adref oedd Robert Morris, chwarelwr chwech-ar-hugain mlwydd oed o Lanllechid yn wreiddiol a oedd wedi dechrau gweithio yn Llanberis wedi cyfnod yn byw yn yr Unol Dalieithau.
O'r chwech a laddwyd corff Robert Morris oedd yr unig un yr oedd modd ei adnabod yn ffurfiol wedi'r drychineb.
Pâr arall a oedd yn cerdded gerllaw oedd Griffith Pritchard, bachgen 11 mlwydd oed a'i dad John; gŵr a oedd wedi colli ei olwg yn llwyr yn dilyn damwain yn Chwarel Dinorwig. Roedd Griffith yn arwain ei dad am adref wedi iddynt brynu dafad. Lladdwyd Griffith ond trwy ryw wyrth llwyddodd John a'r ddafad i oroesi'r ddamwain.
Lladdwyd: Evan Jones, John James Jones - bachgen un-ar-ddeg mlwydd oed, Robert Morris, Griffith Prichard - bachgen un-ar-ddeg mlwydd oed, David Roberts, Owen Roberts - bachgen pymtheg oed.
Yn ystod y ffrwydrad dinistriwyd to gorsaf dren newydd Cwm-y-glo a soniwyd bod ffenestri holl adeiladau'r pentref wedi'u chwalu. Roedd grym y ffrwydrad wedi creu dau dwll oddeutu naw troedfedd o ddyfnder a lled ar y ffordd yn y man lle digwyddodd y ddamwain.
Daethpwyd o hyd i un o olwynion y troliau dros hanner milltir i ffwrdd ar yr hen lôn sy'n arwain dros Clegir.
Canfyddiadau'r cwest
Wrth geisio canfod eglurhad dros yr hyn a ddigwyddodd y prynhawn hwnnw dechreuodd rhai amau tybed a oedd y tywyswyr wedi meddwi pan ddigwyddodd y ddamwain.
Yn ystod y cwest datgelwyd i'r dynion alw heibio tafarndai'r Blue Bell Inn a'r Queen Alexandra ar eu ffordd i Lanberis. Tystiodd y landlordiaid eu bod wedi gwerthu gwydraid o gwrw iddynt ond eu bod yn hollol sobor yn gadael eu tai.
Awgrymodd eraill y gallai'r ffaith i'r llwythi gael eu gadael yn yr haul tra bod y dynion yn mwynhau eu gwydraid fod wedi achosi'r ddamwain mewn rhyw ffordd. Er y damcaniaethau parhau yn ddirgelwch mae achos y ffrwydrad.
Teuluoedd yn ennill iawndal
Ddwy flynedd wedi'r drychineb, ym mis Mai 1871, llwyddodd Catherine Roberts - gweddw David Roberts - i ddwyn achos llwyddiannus ar ran ei chwe phlentyn yn erbyn cyfarwyddwyr Glynrhonwy Slate Quarry Company gan ennill iawndal gwerth £55 i'w theulu - oddeutu £3,000 yn ein harian ni heddiw. Derbyniodd mam Evan Jones swm tebyg hefyd.
Yn naturiol, bu'r ffrwydrad yn destun pryder i nifer o weithwyr a oedd yn ymwneud â'r sylwedd peryglus. Cyfansoddodd Bardd Crwst (Abel Jones [1829-1901]) faled yn adrodd hanes y ddamwain gan fanteisio ar y cyfle i rybuddio eraill o'r perygl:
'Byddwch wyliadwrus weithwyr,
O'r peryglus olew hwn,
Ffrwydrol yw a gelyn marwol,
Gwylltach yw na phowdwr gwn.
Nid oes rheolaeth ar ei elfen,
Ond trychineb gydag e',
Gwyliwch chwithau anwyl ddynion
I fod yn aberth iddo 'fe.'
Yn dilyn y ddamwain cafwyd ymdrechion gan y Llywodraeth i reoleiddio sut yr oedd nitroglyserin yn cael ei fewnforio a'i gludo mewn ymdrech i sicrhau na fyddai'r fath drychineb a welwyd yng Nghwm-y-glo byth yn digwydd eto.
Hefyd o ddiddordeb: