Tanya Whitebits a fi: Stori Shoned Owen

  • Cyhoeddwyd
Shoned OwenFfynhonnell y llun, Shoned Owen

Er gwaethaf naw mlynedd lwyddiannus yn rhedeg cwmni lliw haul ffug Tanya Whitebits, mae Shoned Owen dal i ystyried ei hun yn 'fenyw fusnes ddamweiniol'.

Meddai mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw: "O'n i yn fy 30au yn cychwyn y busnes ac o'n i ddim ar feddwl cychwyn busnes o gwbl.

"Pan mae pobl yn galw fi'n fenyw busnes mae fatha pinch me moment a dwi'n teimlo fel menyw fusnes ddamweiniol! Pan o'n i yn yr ysgol roedd pob adroddiad yn dweud 'gall 'neud yn well'.

"Maen nhw 'mond yn mesur gallu academaidd (yn yr ysgol) ac mae gymaint o bethau eraill sy' ddim yn cael eu mesur sy'n cario ti 'mlaen."

Erbyn hyn mae cynnyrch lliw haul ffug Shoned, dan yr enw Tanya Whitebits, yn cael ei werthu ar draws Prydain.

Ffynhonnell y llun, Shoned Owen

Cwmni bach

Mae Shoned, sy'n byw tu allan i Bwllheli gyda'i gŵr a'i chi, yn angerddol am rôl busnesau bach yn y gymuned ac yn cyfaddef fod y cyfnod clo wedi newid ei hagwedd tuag at redeg busnes: "Ar un adeg cyn y cyfnod clo o'n i'n focused ar bod yn frand mawr global, dyna oedd lle o'n i isho cyrraedd.

"Ti'n gorfod cael breuddwyd i anelu ato a bob tro oedd y busnes yn tyfu o'n i isio mwy a mwy.

"Ond yn ystod y cyfnod clo ges i 'ngorfodi i fynd nôl yn fusnes bach. Rŵan dwi'n embraceio hynna mwy - mae busnesau bach yn galon y gymdeithas. Dwi wedi bodloni os ydy o ddim yn mynd dim mwy na beth ydy o rŵan - mae ffocws fi wedi newid ychydig bach, s'dim rhaid i fi fod yn frand mawr.

"Dwi'n teimlo i gyrraedd lle dwi wedi cyrraedd ac i gadw fo ar y lefel mae o, dwi'n fwy bodlon a fwy hapus efo'r busnes ar y funud."

Dechreuodd Shoned y cwmni lliw haul ffug cyntaf o Gymru ar ôl cyrraedd croesffordd yn ei gyrfa a phenderfynu mynd ar gwrs chwistrellu lliw haul ffug.

Sefydlodd hi'r busnes fel gwasanaeth symudol lliw haul ffug Tanya Whitebits - ac mae llawer dal i feddwl mai Tanya yw ei enw cyntaf hi.

Meddai gan chwerthin: "Dwi yn licio enwau sy'n neud ti wenu!

"O'n i'n prynu cynnyrch gwahanol gan frandiau gwahanol a methu ffeindio un o'n i'n hapus efo - oeddan nhw'n drewi fel digestive biscuits, oeddan nhw'n sticky, bob tro o'n i'n prynu cynnyrch newydd doedd ddim un yn ticio'r bocsys i gyd.

"Dechreuais i feddwl, os fyddai gen i fake tan fy hun..."

Cychwyn

Ar ôl gweld y bwlch yma yn y farchnad dechreuodd Shoned ymchwil i greu lliw haul ffug ei hun yn 2013.

Erbyn hyn mae'n ystyried y cwmni fel 'babi' i fagu a meithrin: "Mae 'na highs a lows - ti'n gweithio i dy hun, hwn ydy babi ti, dwi'n teimlo mod i wedi creu o o ddim byd.

"Ti'n gorfod bwydo a marchnata, mae gofal cwsmer a postio allan - mae hynny i gyd yn gyson ond mae'n rewarding hefyd.

"Mae lliw haul ffug yn rhywbeth sy'n helpu ti i deimlo dy orau - dwi ddim yn licio'r syniad o roi pwysau ar unrhyw un i edrych yn dda.

"Dwi'n trio defnyddio cyrff naturiol a dwi ddim yn defnyddio filter [mewn lluniau marchnata] - dwi'n embraceio cellulite a stretch marks a siâp cyrff naturiol."

Dyfalbarhau

Ac mae Shoned yn taeru mai ei chymeriad hi sy' wedi ei gyrru i lwyddo mewn maes cystadleuol harddwch wedi iddi adael ysgol yn syth ar ôl cyfnod TGAU: "S'wn i'n dweud peidio rhoi i fyny a dipyn o grit - ac roedd y profiad cynnar o gael yr adroddiadau ysgol yn 'neud i fi fod isio llwyddo mwy a profi fy hun mwy achos mod i heb gael profiad mor bositif efo adroddiadau ysgol ac arholiadau.

"Mae hynny wedi 'neud fi'n fwy penderfynol i lwyddo."

Ffynhonnell y llun, Shoned Owen

Gyda'r ymwybyddiaeth o beryglon iechyd cael lliw haul go iawn wedi cynyddu erbyn hyn, mae lliw haul ffug yn ddiwydiant sy'n tyfu, fel mae Shoned yn ei esbonio: "Mae lliw haul ffug wedi datblygu dros y blynyddoedd, mae'n anodd dweud y gwahaniaeth rŵan rhwng lliw haul ffug a lliw haul go iawn, mae mor naturiol.

"Mae 'na farchnad fawr - mae llwyth o frandiau allan yna.

"Dwi'n 'neud lot o bethau fy hun ond dwi yn cyflogi pobl eraill yn y busnes - mae pobl yn meddwl bod y cwmni lot mwy na mae o.

"Ar y dechra o'n i 'di dechrau marchnata fo fatha 'we' ond dim ond fi oedd am mod i'n cystadlu efo'r cwmnïau mawr - er bod y cwmni yn fach iawn, o'n i'n meddwl 'think big'.

"Ar ôl y cyfnod clo mae pobl isio cefnogi a phrynu gan gwmnïau bach."

Fel i nifer o fusnesau, y cyfnod clo oedd her mwyaf Shoned: "Doedd y demand ddim yno - doedd 'na neb yn mynd allan i briodasau na noson allan. 'Nath y diwydiant harddwch newid lot fawr yn ystod y cyfnod yna - 'nath pobl fynd lot mwy mewn i bethau mwy naturiol fel gofal croen.

"Roedd y teimlad cyfnod clo fel tase rhywun wedi tynnu rỳg o dan fy nhraed. Roedd pob cynllun oedd gyda fi wedi mynd.

"Yn y cyfnod yna 'nes i feddwl dwi angen ailgyfeirio'r busnes, dydy lliw haul ffug ddim yn flaenoriaeth so nes i gyfuno gofal croen a lliw haul ffug mewn un potel, sef tanning drops, a 'nath hwnna fflio allan.

"Roedd pawb ar Zoom felly 'oedd pobl eisiau ychydig o glow, 'nath hwnna werthu allan tua pedair gwaith ac mae dal yn un o'r hero products. Mae'r hylauronic yn plumpio a hydrateio'r croen, ac mae'r tanning drops yn rhoi glow i ti.

"Oedd hwnna'n sicr wedi gweithio ac wedi rhoi hwb i'r busnes, dwi nôl rwan ac yn gallu gweld fod pobl yn defnyddio lliw haul ffug eto, mae pobl yn mynd allan ac mae priodasau nôl so mae hynny'n braf.

"Rŵan mae fel mod i'n ailgychwyn."

Cyngor

Os oes unrhyw un eisiau cychwyn busnes, cyngor Shoned yw: "Ewch amdani.

"Mae'r ofn o fethu yn stopio lot o bobl rhag cymryd y cam cyntaf 'na. 'Da ni isio mwy o bobl yn mentro - 'nes i fentro ac 'nath o arwain at rywbeth lot mwy.

"Daliwch ati ac edrychwch be' sy' ar gael i bobl yn lleol. 'Nath Busnes Cymru helpu fi o ran cyngor; edrychwch ar be' mae'r cyngor lleol yn cynnig.

"A pheidiwch bod ofn mynd i'r spaces yna. Ewch i mewn, siarad â phobl ac mae'n gallu agor drws annisgwyl i ti."

Pynciau cysylltiedig